Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tad, sef Rhuddallt Isaf, daeth Rhuddallt yn eiddo cyflawn iddi. Wedi ei phriodas gyntaf â Dafydd ap Edward, perchennog Plas Ifa, Trefor, aeth yno i fyw.* Priod- odd, am yr ail waith, â John ap John, Apostol y Crynwyr yng Nghymru, ac aeth ef, ar y briodas, yno i fyw ati. Dyna, ynteu, sut y daeth Ap John i fyw i Blas Ifa, Trefor. Nid brodor o'r Ue ydoedd, ond dyfodiad yno ar ei briodas. Fe ellir, hefyd, gasglu adeg y briodas. Ysgrifen- nodd Thomas Holmes y llythyr y difyn- wyd o hono yn Abertawe ar yr unfed ar ddeg o fis Mehefin, 1663. Yr oedd peth amser wedi myned heibio wedi iddo fod yn nhý Catrin Edwards, canys teithiasai erbyn hyn trwy Siroedd Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog, Mynwy, a Mor- gannwg, gan gynnal cyfarfodydd ar y ffordd. Ni wnaeth hyn mewn llai na deng niwrnod. Felly yr oedd yn nhŷ Catrin Edwards tua diwedd mis Mai. Ac fe awgryma ei lythyr bod y briodas ar gymeryd lle yr adeg honno. Yng nghof- nodion Sasiwn Chwarterol yr ynadau, a gynhaliwyd yng Ngwrecsam yn Hydref, 1663, dywedir yn bendant fod John ap John a Chatrin Edward yn Nhrefor." Felly deuaf i'r un casgliad a'r Parch. T. Shankland, sef bod y briodas wedi cymeryd lle rhwng Mai a Hydref, 1663. "Ategir hyn gan amryw ffeithiau eraill; er enghraifft, un ferch a aned o briodas John ap John â Chatrin Edward, sef Phoebe Jones. Yn ol cofnod ei marwolaeth yn Rhestr Crynwyr Sir Stafford, bu Phoebe farw yn Whitehough Manor House, ei chartref, ym mhlwyf Ipstones, yn agos i Leek, yn\Sir Stafford, Hydref 22, 1734, yn 69 oed. Gwelir felly ei bod wedi ei geni yn 1664 neu 1665."f Ym Mhlas Ifa y bu John ap John byw am y blynyddau nesaf, ac am hynny y casglwyd mai brodor o'r lle ydoedd. Ond ni bu yno hyd ddiwedd ei oes. Tua'r flwyddyn 1680 priododd Richard Davies, etifedd Catrin, âg Anne Barnes o Warrington, a gellir casglu oddiwrth y cofnodion mai ar yr amgylchiad hwnnw y symudodd Ap John a'i wraig o Blas Ifa, Trefor, i Ben y Cefn, Coed Cristionydd. Cadarnheir hyn eto gan amryw gofnodion. Trwy'r briodas hon unwyd ystadau Plas Ifa, Trefor, â Rhuddallt Isaf yn yr etifedd a aned o'r briodas, a'r unig blentyn a fu byw o wr cyntaf Catrin Edward, sef Richard Davies, Trefor a Rhuddallt." — T. Shan/cland yn y Cymru." t Ibid. i W. G. Norris, John ap John," &c., tud. 31. Er enghraifft, enwir John ap John of Ruabon" fel arolygydd ewyllys John ap Thomas, Llaithgwm. Ymhellach, Gwerthodd John ap John 500 acer o dir ym Mhennsylfania i'w gymydog, John Roberts, y melinydd, o Ben y Clawdd." Dyddir y weithred Gorffennaf 5, 1682, a disgrifir y gwerthwr ynddi fel "John ap John, of Ruabon Parish, Denbigh, Yeoman." Mewn amryw weithredoedd tir ym Mhennsylfania dis- grifir John ap John o Ruabon Parish yr adeg hon. Yng Nghoed Cristionydd, felly, y bu fyw ap John a'i wraig am rai blynyddau wedi 1680. Fe symudodd y cyfarfodydd hefyd yr un pryd, ac yno y buont o leiaf hyd y flwyddyn 1693. Profir hyn gan y difyniad canlynol,- In 1692/3 on the 18th of First Month, the Meeting was held at his (John ap John's own house at Coed Epionaidd (Cristionydd) in Denbighshire, with a large attendance of Denbighshire, Montgomeryshire and Mer- ionethshire Friends. "t Yno hefyd yr oeddynt yn byw pan fu farw Catrin, yn nhv ei mab, Richard Davies, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wedi hynny symudodd ap John i fyw at ei ferch Phoebe. Yn ei thy hi a'i gwr y bu efe farw. Ni bu fyw ond dwy flynedd wedi claddu hon, a fuasai iddo'n gymorth nid bychan yn ei yrfa bwysig. Ond i fyned yn ol at hanes ei waith a neges ei fywyd. Fe'i gadawsom yn y flwyddyn 1663. Yn ystod yr haf hwnnw yr ymunodd â chymar ei fywyd. Y mae'r cyfeiriadau ato am y blynyddau nesaf yn myned yn llai, lai. Y rhain ydoedd blynyddoedd gwaethaf yr erlid, ac ar lawer cyfrif, y rhai mwyaf pwysig.yn holl hanes y Crynwyr Cymreig. Nid ai blwyddyn heibio heb fod rhyw fesur newydd yn gormesu ar ryddid crefyddol a gwleidyddol. Soniwyd eisoes i awdur- dodau Sir Forgannwg geisio rhwystro'r Crynwyr i gynnal eu cyfarfodydd yno. Yn ol y gorchymyn hwnnw, ni chai Grynwr fyned o ardal i ardal, ac amhosibl fyddai hi i John ap John fyned yno. Bellach, daeth peth fel hyn yn ddeddf gwlad. ac yr oedd y gyfraith yn llym ac enbyd ar bob rhan o'r deyrnas. Y mae'n