Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

APOSTOL Y CRYNWYR YNG NGHYMRU. Y MAE'N amlwg oddiwrth hwn bod John ap John yn rhydd ers tua phythefnos cyn y pumed o fis Mai, 1661. Fe'i taflwyd i garchar gyda'r deugain eraill, a chadwyd i mewn fel un o'r tri a gydnabyddid yn arweinyddion y Crynwyr. Eithr, oherwydd nad oedd ei iechyd yn dda, a bod arno awydd myned yn ol i'w wlad ei hun, cafodd ei ollwng yn rhydd cyn y Sesiwn. Digwyddodd hynny ychydig cyn diwedd mis Ebrill, ac, fel y dywed Gawler, aeth i fyny i'r Gogledd drachefn. Ni ellir dilyn ôl ei draed yno y tro hwn ychwaith. Yr oedd y digwydd- iadau yno, y mae'n debig, yn galw amdano. Ni wyddom beth allai y rheiny fod, ond yr oeddynt yn ddigon i orfodi'r proffwyd i roddi tro yno. Yr ydoedd yn amser prysur arno. Efe ydoedd tad yr eglwys fechan yng Nghymru, ac yr oedd pob rhan o'r eglwys yn disgwyl ei weled yn fynych. a chael ei farn ar bob math ar bethau yn perthyn i fywyd eglwysig. Yn y Deheu- dir yr ydoedd yr erledigaeth wedi myned yn greulon, ac yr oedd perigl i'r disgyblion newyddion lacio eu brwdfrydedd, a chefnu ar eu hegwyddorion yn wyneb y fath erchyllterau. Nid oedd yr anhawsterau yr un gronyn llai yn Sir Feirionnydd, canys ymgynddeiriogodd y penaethiaid yno, a thaflu y mwyafrif o'r Crynwyr i'r carchar- dai ym Machynlleth a'r Bala a Dolgellau. Gwelai'r Apostol angen cynorthwyo a chryfhau ei ddilynwyr yno. A thrachefn, yn ei wlad ei hun, yr oedd, y mae'n ddiau, amryw bynciau yn ei dynnu yno. A'r flwyddyn 1662 heibio heb yr un cyfeiriad yn y byd ato. Y flwyddyn nesaf, daeth Fox am yr ail waith i Gymru. Cynhaliodd amryw gyfarfodydd yn Sir Frycheiniog gan mwyaf, ond ni bu'n hir cyn gadael. Ni ddywed pwy oedd ei gwmni, ond nid ydyw'n annaturiol meddwl nad oedd Ap John ganddo y tro hwn eto. Efallai iddynt ystyried y cam pwysig yr oedd hwnnw weithian ar ei gymeryd. Llawysgrifau Swarthmore. t History of Powyi Fadog. Cyf. II., tud. 345. JOHN AP JOHN. Y cyfeiriad .cyntaf at briodas agoshaol Ap John ydyw hwn mewn llythyr gan Thomas Holmes. oedd ar hynny o bryd yng Ngogledd Cymru, at Fox. Dyma a ddywed,- It was upon Us to give friends in wells aviset: and when wee pased out of Chesher wee gote A Meeting in flintsher and another in denbysher at Katheren Edwards which J. Jones is to have. Un ystyr yn unig sydd i'r frawddeg which J. Jones is to have," a chyfeirio y mae Holmes at briodas Ap John à Chatrin Edward, yr hyn oedd o ddiddor- deb i Fox. Merch hynaf Edward ap Randal. Rhuddallt Isaf, ym mhlwyf Rhiwabon, ydoedd y Catrin Edward hon. ac, yn ol yr arfer Gymreig, fe'i gelwid Catrin uch Edward." Wele ddifyniad am ei hach a'i theulu,- Edward ap Randal of Rhuddallt Isaf, he married Anne, daughter (by Catherine his wife, sister of John ap Roger Broughton) of John ap John of Dinhinlle Isaf, a native of Chirk parish, by whom he had four daughters, coheirs (ľ--Catheríτıe, 2 — Mary, 3-Elizabeth, 4 — Sarah). 1. Catherine. She purchased her other sisters' portion of their Father's estate and married, first David ap Edward of Trevor, by whom she had two children, Hannah, who died young, and one son Richard Davies of Rhuddallt and Trevor, living in Ki97, who married Anne, daughter of John Barnes, of Warrington in Lankashire, by whom he had issue, two sons, Edward Davies and John Davies. "t Ni ddyry'r hanes air am ail briodas Catrin, er yr awgrymir hynny gyda'r gair first." Soniwyd eisoes i Balmer ac eraill o haneswyr y Crynwyr yng Nghymru gymeryd yn ganiataol mai brodor o Blas Ifa, Trefor, ydoedd John ap John. Yr unig beth a ddywedodd y ffeithiau wrth- ynt oedd i John ap John fyw yno am ryw gyfnod. Eglura'r difyniad uchod pa fodd y digwyddodd hyn. Myned yno a wnaeth wedi priodi â Chatrin Edward. Wedi prynu rhannau ei chwiorydd yn ystad eu