Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

APOSTOL Y CRYNWYR YNG NGHYMRU. EFE ydoedd yr arweinydd crefyddol mwyaf a aned yng Nghymru hyd ei ddydd. Ni ddylid bod yn anhêg at rai o'i flaenoriaid a'i gyfoeswyr, megis Walter Cradog, Vavasor Powell, a Morgan Llwyd, ond prin y gellir dywedyd i'r un ohonynt gael dim byd tebig i'w ddylanwad ar y wlad. Ni chododd neb mwy nag ef fel arweinydd crefyddol hyd y ganrif nesaf. Gwnaeth y rhai a enwyd, bob un ohonynt, waith ardderchog, ac y mae yr hen wlad yn ddyledus ofnadwy iddynt. Paratoisant y ffordd i Ap John, ac y mae'n rhaid cydnabod hynny'n helaeth. Aeth ef i mewn i'w llafur, a medodd yn hael. Profir ei fawredd, er hynny, yn nhroad amryw o'i ddisgyblion oddiwrth eu hathrawon cyntefig ato ef. Cododd plaid fawr wrth ei draed, a delw ei feddwl a'i fywyd arni. Bu am ganrif wedi ei farw yn allu er daioni. Nid y peth distadlaf, chwaith, ydoedd i filoedd o'i ddisgyblion ymfudo o Gymru i Bensylfania, a dyfod yno, yn eu tro, yn ben mewn gwleidydd- iaeth, meddyginiaeth, dysgeidiaeth, a bywyd glân cymdeithasol. Ni wys a oedd efe yn un o'r deng ŵr y dywed Besse eu bod, yn y flwyddyn 1661, met in their own hired house at Wrexham." Saith mlynedd yn ddiweddarach yr oedd Ap John yn un o'r amryw o ymyl Rhiwabon a ddygwyd o flaen y Sesiwn yn Rhuthyn am ddwyn ohonynt yr enw Crynwyr. Yr oedd Catrin, ei wraig, hithau yn un ohonynt, a rhai o brif wroniaid y ffydd yn τıhv ei hen gartref, megis Roger ap Sion, neu Shone, o Ben y Clawdd, a Thomas ap Pugh, o Gastell y Waun.* Cadarnhau'r eglwys, ynteu, ydoedd gwaith pennaf John ap John am y blynyddoedd nesaf yn ei hanes, ac wele paham y mae popeth mor dawel yn ei gylch. Gallai wneuthur y gwaith hwnnw heb ennill ychwaneg at ei enwogrwydd, ac heb gael ei gofnodi gan neb. Rhoes yr eglwys ar ei thraed ym Mhlas Ifa a'r cylch, a gwelodd bod trefn a chyfundrefn Gwêl Besse ar Ddioddefìadau'r Crynwyr. Ond nid ydyw ei ffeithiau ef bob amser yn hollol gywir. JOHN AP JOHN. yn cael eu gosod i fyny. Ond ni chyf- yngai ei hun yn llwyr, chwaith, at hyn o orchwyl. Nid ydoedd eto'n rhy lesg i fyned draws y wlad i bregethu ei neges gyda'r un dylanwad a chynt. Nid oes gyfeiriad ato yn y de, ond gwyddis iddo fod yn ddiwyd yn rhai o Siroedd y gogledd. Yr oedd yr un grym yn ei gen- hadaeth ag yn foreach yn ei hanes, a chai ddisgyblion newydd o hyd. Yr ydoedd yn llwyddiant anarferol yn Sir Feirionydd. Pan ddaeth George Fox i Gymru am y drydedd waith, yn y flwyddyn 1667, gwelodd ffrwythau lawer yn y rhan hon o'r wlad. Cafodd gyfarfodydd arbennig yng nghartref Charles Lloyd, yn Nolobran. Cerddodd y tro hwn trwy Siroedd Dinbych, Trefaldwyn, Meirionydd, Maesyfed, Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg, a Phenfro, gan gael rhestr o gyfarfodydd da. Anfynych y bydd yn rhoddi enwau ei gymdeithion ar ei deithiau, ac ni cheir enw Ap John ganddo hyd yn ymyl diwedd y daith. Gan mai sefydlu'r cyfarfodydd misol ydoedd ei amcan pennaf y tro hwn, y mae'n rhaid bod tad Crynwyr Cymru ganddo ar y rhan fwyaf, os nad hefyd y cwbl o'r daith. Ar ei deithiau o'r blaen cawsai Ap John yn gydymaith anhepgor, a phrin yr ai y waith hon hebddo. Heblaw ei fod yn deall y bobl, eu moesau a'u harferion, medrai Ap John siarad â hwy yn iaith eu calon. Cymerodd y daith amser. canys croesai Fox i Loegr yn awr ac eilwaith, gan ddychwelyd yn ei ol i Gymru ar ol hynny. Sefydlwyd y cyf- arfod misol yn Siroedd y Gogledd i ddechre, yn Ninbych a Threfaldwyn, a Meirion. Yna gadawodd Fox am Loegr, a dyfod yna i Sir Faesyfed. Caed cynull- eidfaoedd mawrion, a gosodwyd y cyf- arfodydd misol i fyny yno hefyd. Wedi bod trwy Fynwy, aeth Fox unwaith yn rhagor i Loegr. Yr oedd yn y flwyddyn 1668 arno yn troi yn ei ol am Fynwy, ac oddiyno i Abertawe a mannau eraill ym Morgannwg. Wedi myned trwy yr un