Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RICHARD HUMPHREYS O'R DYFFRYN. G ANWYD Richard Humphreys yn hen gartref ei dad a'i daid yng Ngwem Canyddion, üyffryn Ardudwy, ym Mehefin, 1790. Hannai o deulu parchus, oedd wedi byw yn yr ardal er oyn dydd- iau Oliver Cromwell; y rhai oedd yn per- chen tipyn o eiddo, ond mwy o synwyr. Yr oedd ei rieni Humphrey a Jennet Rich- ard yn aelodau ffyddlawm gyda'r Method- istiaid yn y Dyffryn tra y buont byw. Collodd ei fam yng Ngwern Canyddion pan nad ydoedd ond saith mlwydd oed. Cyn bo hir symudodd ei dad i'r Faeldref, ac yno, ymhen yr wyth mlynedd ar ol colli ei fam, bu ei dad farw. Felly nid oedd y pryd hynny ond pymtheg mlwydd oed. Ca.fodd ei adael yn facbgen amddifad, heb dad na mam ar adeg beryglus iawn ar ei fywyd. Am fod y teulu mewn amgyldh- iadau cysurus mwynhaodd fanteision addysg gwell na'r oyffreddn. Bu am beth amser yn yr Amwythig yn yr ysgol, fel y daeth yn lled gydnabyddus a'r iaith Saes- neg. Yr oedd yn efrydydd da, ac ymgyd- nabyddodd yn helaeth â llenyddiaeth Seisnig. Gan ei fod o duedd mor fyfyr- gar yn hogyn, nid oedd y plant oedd yn gyd-ysgoleigion ag ef yn ei ystyried llawn cyn galled a hwy. iGofynnad un o'i hen gyfoedion iddo,—" Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys Nid oedd- ym ni yn eich ystyried chwi mor galled a ni pan oeddym yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi mynd о'n blaenau ni ym- hell." Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, gyda'd barodrwydd arferol, "fod pob llysieuyn mawir yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Wedi marw ei dad syrthiodd gofal y fferm yn hollol arno ef. Yr oedd yn amaethwr trefnus a medrus iawn gyda'i ddwylaw, ond nid oedd mor fedrus am brynnu a .gwerthu. Er hynny llwyddodd 1 gadw cartref cysurus iddo ei hunam, ynghyda'i frawd a'i ddwy chwaer, tra y buont gydag ef. Er ½fod ei rieni ym grefyddwyr, ni chaf- odd efe y fraint, fel plant yr oes hon, o gael ei fagu yn y seiat. Nid oedd plant yn cael mynd i'r seiat yr adeg honno. Ond cafodd addysg dda ar yr aelwyd gar- tref, yr hyn, mae'n debyg, a fu yn gym- aint canllaw a dim er ei atal rhag mynd yn fachgen drwg. Pan ydoedd oddeutu deg oed bu diwygiad grymus yn y Dyffryn, a theimlodd yntau y pryd hynny awydd cael crofydd. Yn raddol iawn y daeth at grefydd. Wedi iddo ddechreu mynd o dan argyhoeddiad bu am oddeutu blwy- ddyçn yn cloffi rhwng dau feddwl. Bu yn cloffi mewn mwy nag un ystyr. Bydd- ai yn myned rai gweithiau i'r Cutiau i wrando yr Anibynwyr yn ystcd y flwyddyn hon, a bu am dymor yn cloffi cydrhwng y Methodistiaid a'r Anibynwyr. Ond o'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny ar y ddau beth; penderfynodd ddod yn Grist- ion ac yn Fethodist. Tipyn o orchwyl iddo oedd mynd i'r seiat y tro cyntaf. Rhoddodd hyn gyfleustra i'r hen flaenor syml,—William Richard, Tyddyn y Pan- dy,-i wneud un o ddwy orchest fawr ei fywyd. Y fraint arall a gafodd oedd derbyn llais eglwys y Dyffryn pan yr oedd Edward Morgan yn dechreu pre- gethu. Yr oedd yr hen flaenor yn fedd- ylgar iawn i ddeall am drallod y gwr ieu- anc o'r Faeldref. Ond gwnaeth fwy na meddwl am dano, achubodd y cyfle oyn- taf, a hynny er anhwylusdod mawr iddo ei hun ytn beirsonol, i fynd a Richard Humphreys i'r seiat. Ychydig feddyliodd yr hen f rawd ei fod yn gwneud cymaint o gymwynas i achos crefydd ag a wnaeth y noson honno. Mae'n werth i ninnau afael ym mhob cyfleusdra i roi help llaw i bobl ieuainc, gan ina wyddom pa faint o wasanaeth a allwn wneud drwy hynny. Yn fuan iawn ar ol ymuno a'r eglwys y mae yn tynnu sylw ato ei hun fel dyn ieuanc gobeithiol. Aeth hem flaenoriaid y Dyffryn i feddwl fod defnydd dyn rhag- orol ynddo. Ymhen ysbaid o amser dew- iswyd ef yn flaenor. Llanwodd y cylch hwnnw mor dda fel na chai lonydd gan bregethwyr oedd yn gwybod am dano heb geisio ei berswadio i ddechreu pregethu. Ildiodd yntau o'r diwedd, a dechreuodd bregethu yin 1819, pan yn naw ar hugain oed. Yn lled fuan ar ol hyn daefih i'r Abermaw i chwilio am wraig, a chafodd un dra chymwys yn Miss Annie Griffith -merch Oapten Griflith y Quay, yr hwn oedd un o flaenoriaid mwyatf dylanwadol y sir. Ar ol priodi yn 1822, aethant i ddechreu byw trwy gadw siop yn Lluesty, lle y buont yn byw am ddeng mlynedd. Yr oedd yn u, y Faeldref yr un pryd. Aeth i gadw siop gan dybied fod hynny yn fwy cydweddol a thueddiadau Mrs. Humphreys, gan nad oedd wedi arfer a