Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anibynwyr yn Rhydymardy, sir Forgan- nwg. Ym mhen rhyw ysbaid aeth fel ef- rydydd i Athrofa y Fenni, ac wedi cwbl- hau ei dyunor yno, urddwyd ef yn weini- dog yn Rhaiadr Gwy a'r Cae Bach, a hynny yn 1767. Llafuriodd yno hyd 1778, ac yn y flwyddyn ddilynol symudodd i Langathan. Ar ol teithio llawer, a gweled llawer tro ar fyd, bu farw yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1811. Ym mhen amryw flynyddau ar ol ei farwol- aeth, cyhoeddwyd ei Hunan-Fywgraffiad, o dan yr enw Rhad Ras, neu Lyfr Profiad. Mewn byr Hanes am Ddaioni yr Arglwydd tuag at ei wael wasanaethwr Ioan Thomas (Awdwr Can- iadau Seion) o'i febyd hyd yma. Deuwch chwi y rhai a ofnwch Dduw a mynychaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid. Psalm. Abertawy, ar- graffwyd gan J. Voss. Lle yr argreffir pob math o lyfrau am bris rhesymol, 1810." (1) Caniadau Sion neu Hymnau Ysgry- thyrol a Phrofiadol, ynghyda Chwanegiad o rai Marwnadau ac Odlau. Trevecca. 1788. Chwe rhan wedi ymddangos o'r blaen). (2) Yr Ail Ran o Ganiadau Sion. Carmar- then. 1759. (3) Y Drydedd Ran. Bristol. 1762. (4) Y Bedwerydd Ran. 1764. (5) Y Bumed Ran. Trevecca. 1770. (6) Marwnad ar ol Peter Williams. 1796. (7) Llythyr o annerch at hen bobl a chanol oedran, ynghyd a Sen i'r Sosiniaid neu alwad i'r Winllan ar yr unfed awr ar ddeg. Car- marthen. 1777. (8) "Trysorfa Auraidd i Blant Duw." Cyfieithiad o waith C. H. V. Bogatsky. (9) Llewyrchiadau Gras o dan yr Hen Orchwyliaeth," a lliaws o fân weithiau eraill. JOHN THOMAS, PONT SIAN. 1775-1863. Mab ydoedd yr hen fardd hwn i Thomas Thomas, Twcwr, Rhyd Owen, plwyf Llandysul. Ganwyd ef ym Mhen- rhiw, Rhyd Owen, yn y flwyddyn 1775. Pan oedd yn ddyn ieuanc, a phan oedd rhyfeloedd Bonaparte yn cynhyrfu yr holl wlad, daeth y press-gang ar ei draws i'w ddirwasgu i ymuno â'r militia, ond yr oedd y môr yn fwy cydnaws a'i anian, a darfu iddo listio fel morwr. Aeth i Calcutta mewn llong rhyfel. Mewn nod- iad o'i farwolaeth a ymddangosodd yn Yr Ymofynydd am 1863, dywedir,— "Wrth groesi'r Cyhydedd am y tro cyntaf, y mae pob morwr yn gorfod ymostwng i ddull lled drwsgl o eillio rhyw fath o seremoni ymhlith y morwyr ydyw, ac ar- weiniad i mewn, fel pe byddai, i gyflawn gyfrinion yr alwedigaeth. Ni ddiangodd yntau rhag y driniaeth arferol, a digrif iawn oedd ei adroddiad o honi." Wedi iddo ddychwelyd i'w fro genedigol, dygai ymlaen y grefft o wehydd, ac adnabyddid ef fel "Jaci'r Gweydd." Yr oedd yn fardd lled dda, a chyfansoddodd amryw ddarnau o gryn deilyngdod, megis "Eang- der y Greadigaeth "-un pennill o'r hwn sydd fel hyn,- Nid oes iaith a fedr draethu ddyfnder Cariad lor y nef; Nid oes meddwl all ddych'mygu uchder ei drugaredd Ef Broydd anian oll yn hawddgar, llon eu llafar ym mhob lle Y nodyn lleiaf o ddigofaint ni chanfyddir ynddo Fe." Cyfansoddodd ddarn prydferth arall a alwai yn Cwyn y Cristion," yr hwn sydd yn diweddu fel hyn, O'i gariad yn y dechreu Sylfaenodd Duw y byd, O'i gariad dianwadal Mae'n cynnal hwn o hyd O'i gariad mae'n rhoi cerydd, O'i gariad mae'n rhoi hedd, O'i gariad bydd yn cospi Mewn byd tu draw i'r bedd. Rhown gyflawn bwys ein gobaith, Ar berffaith gariad Duw Fe'n gweryd o'r trueni Yr ydym ynddo'n byw Mae'i allu a'i ddoethineb, A'i gariad oll yn oll, Dwg bawb i ddidranc wynfyd, Nid aiff un dyn ar goll." Bu yr hen bererin duwiol farw Mehefin 10, 1863. ® S8> &> Ø Y GLOYN BYW. A'i liwdeg wisg hyd flodau, — Gloyn byw Glân, a balch o'i liwiau, Wna nwydus ddisgyniadau Yn eu mysg wrth lon ymwau. Ymhoewi dan drem huan,­-a'i wres gâr Y segurwr diddan, Dilafur, diguro, di gân,- Oes o hedeg mewn sidan. EINIoN.