YR oedd y lIe cyn uniced ag y gallai lle fod. Nid oedd dim i'w weled ond y cwm bychan, cul, y creigiau daneddog, y rhedyn a'r crawcwellt yn tyfu rhyngddynt; a'r mynyddoedd, drum ar ol trum, yn codi draw. Yr oedd y Tyrrau Mawr, un o freichiau Cader Idris, yn ymyl, a draw dros ael y bryn nesaf oedd fel gwrthglawdd cadarn yn un pen i'r cwm gellid gweled y mynyddoedd yn cysgodi Ardudwy a dyffryn y Faw- ddach. Ond er fod y cwm yn uchel, yr oedd y bryniau o'i amgylch yn rhwystro y neb a fyddai ynddo weled y môr na'r wlad brydferth oedd islaw o bobtu'r afon lydan. Yr oedd y cwm wedi ei gau rhag y byd. Rhedai afonig fechan drwy'r brwyn, ac o dan y cerrig ar hyd gwaelod y cwm. Codai mewn mawnog noethlwm yng nghesail y bryniau yn ymyl, ac arllwysai i'r môr ar ol taith ferr a gwyllt islaw Llwyngwril draw. Ac eithrio brefiad am- bell ddafad, a chrawc brân ar y garreg, nid oedd dim ond murmur yr afonig i dorri distawrwydd y mynydd. Yr oedd yn brydnawn ym mis Awst. Yr oedd yr haul fel pe wedi deifio'r cwm, ac wedi tynnu yr holl wyrddlesni o hono. Llwyd a sych oedd y gwellt hir ymhob man, a llwyd a sych oedd y cen a'r mwsog ar y cerrig. Oddeutu'r afonig yn unig yr oedd ychydig wellt a brwyn yn gwneyd gwyth- ien werdd yn y crasdir hwnnw. Ychydig yn uwch i fyny na'r afon yr oedd ffordd. Yr oedd yn hen ffordd, ac yr oedd yn amlwg mai ychydig iawn o dramwy oedd ar hyd-ddi. Gwnaed hi ar un adeg-gan y Rhufeiniaid meddai tra- ddodiad yr ardal-yn gadarn ac yn hwylus. Torrwyd ochr y bryn iddi ad- eiladwyd cei o dani lle y byddai hynny yn eisiau, a gwnaed ei hwyneb yn galed â marl a cherrig. Erbyn hyn yr oedd y gwellt a'r rhedyn yn tyfu rhwng y cerrig, a'r holl waith bron a myned yr un lliw a'r bryniau oddiamgylch ond eto yr oedd y ffordd yno, yn parhau yn ffordd o hyd. Nid pobl yn gwneyd gwaith i barhau am ychydig oedd y Rhufeiniaid, os hwy a wnaeth y Ffordd Ddu, hefyd. Mewn un man yr oedd yr afonig yn rhoddi tro am drwyn un o'r bryniau llwydion, yn bur fuan wedi gadael y ffyn- Ar y Ffordd Ddu. non yn y fawnog. Yn y lle hwn yr oedd yn lletach nag arfer. Disgynnai yn rhae- adrau bychain dros bedair gris neu bump o graig, ac ymlonyddai rhwng y rhaeadrau mewn llynnau o ddwr clir, lIe y gellid: gweled y graean yn y gwaelod. Yn y fan yma y deuai y ffordd a'r afon i gyfarfod eu gilydd, ac yr oedd rhywun-y Rhufein- ìaid fyth, feallai-wedi oodi pont dros y gornant. Yr oedd y bont, fel y ffordd, yn hen, yn llwydaidd, ond yn gadarn o hyd. Nid oedd neb yn gofalu am'danrhi na'r ffordd yn awr — prih'y defnyddid hwy gan neb ond y bugeiliaid,— ond er gwaethaf amser, ac esgeulusdod, ac ystormydd y gaeaf yn y mynydd, yr oedd y bont yn ddiogel, ac yr oedd hyd.yn oed rannau o'i chanllaw yn sefyll. Nid oedd y cwm llwyd yn hollol unig y diwrnod hwnnw. Yr oedd dau ger y bont. Gorweddai dyn ieuanc tal a chy- hyrog ar lawr ar ymyl y ffordd ac. ar ei gliniau wrth. ei ochr, yn ceisio dal dwr iddo yn ei dwylo, yr oedd geneth oddeutu ugain oed. Yr oedd pryder, ac feallai, raddau o ofn, i'w gweled ar ei hwyneb; ond ni fedrai hynny guddio ei thlysni. Yr oedd ei gwallt rhudd-wineu yn fodrwyau o gwmpas ei thalcen, ac yn dianc dan y cadach gwyn a wisgai ar ei phen. Yr oedd ei llygaid yn fawr a chlir, a'r genau, er yn fechan, yn benderfynol. Gwisgai yri null syml merched ffermydd Cymru, ac yr oedd yn amlwg arni ei bod wedi arfer â gwaith, ond yr oedd yr hances lydan am ei gwddf yn wen fel yr eira; a holl olwg yr eneth, yn ei thaclusrwydd glanwaith, yn mynegi mai un o'r Puritaniaid oedd hi. Gwisg un o filwyr gwladaidd Cromwell oedd am y dyn ieuanc hefyd. Yr oedd ei gledd wrth ei ochr, ond yr oedd yn amlwg ar ei osgo na allai ei ddefnyddio yn awr. Yr oedd ei wyneb yn welw dan liw'r haul arno, a dirdynnid ef weithiau fel pe y di- oddefai boen mewn distawrwydd. Poenai hynny yr eneth hefyd, a gosodai ei llaw oer ar ei dalcen, a cheisiai yntau wenu yn 01 i'w hwyneb. O'r diwedd gwnaeth ym- drech i godi ar ei eistedd, a chyda chym- orth yr eneth llwyddodd i wneyd hynny. Dyna," meddai, yr wyf yn well yn awr. Ond y mae'n sicr fod fy nghoes wedi ei thorri, ac y mae'n amhosibl i mi byth fyned o'r lle neillduedig yma."