Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

poitri'r Infants. Gymaint egni a chyff- road fyddai yn y perfformans fel 'rwyf yn cofio'n burion am dano (W. W.)* yn tynnu 'i aeliau duon yn gap am ei lygaid, ac yn gorfod gweyd That will do-that will do cyn ein bod wedi agos cyrraedd y cleimacs. Yn garedig iawn, daeth ein hen gyfaill Rhystyd a'r Llanddewibrefi Dramatic Society" lawr i Lanfair i berfformo "Arthur Gybydd." Awd drwyddi yn gampus. I ddibennu'r cwrdd cawd The Old Black Cat gan y Society, ac ereill o blant Llanddewi oedd wedi dwad lawr gyda nhw. Os do fe, gyda'u bod yn de- chreu ar y Coris, dyma blant Llanfair yn joino gydag amrywiadau — wrr — miaw -pphwtn, &c., a'r whishgit mwyaf myn- egiadol, o'r pp. hyd yr ff., nes yr aeth yn gâs gan blant Llanddewi feddwl am yr "Old Black Cat." Am amser hir wedi hynny yr oedd yn fwy peryglus i gath fewial yn Llanddewi nag yw i Sufragette screchen yn Nhy'r Cyffredin. Pan yn yr ysgol gyda D. S. fel Assist- ant, oododd hwant ar Tom fynd yn ffeirad, a dwedodd hynny wrth y mistir. I roi rhagbrawf ar alluoedd araethyddol Tom, gofynnodd iddo adrodd y Colect am Sul Cyntaf yn Adfent. Methodd ddwad i fyny a'i standard e, a dywedodd D. S. wrtho-" No idea, Tom bach, 'newch chi byth 'ffeirad." Cymerodd Tom e ar i air ac aeth 'nol at y "lapstone laith." Gweithdy Dafydd Crydd Talsarn oedd cyrchfan bechgyn cerddgar canolbarth Aeron bryd hynny, a lawer gwaith aeth Tom dros y stori yn y gweithdy, a dwedai, Mae Dai Malen yn fwy gonest na'n hanner ni." Mae Tom Crydd ym myn- went Llanfihangel Ystrad oddiar Ion. 28ain, 1884, pan yn 31 oed. Bu o wasan- aeth mawr gyda chaniadaeth gysegredig a chystadleuol ym Mro Aeron. Fe oedd mistir band Talsarn. Pan fu farw Tom, bu farw y band. Mae adgof hiraethus am dano ym mynwesau ei hen bartners sy ar ol. Bu D. 'S. dan iau caethiwed Codau lawer, a dirgrynai ym mhresenoldeb yr amrywiol àrholwyr ac arolygwyr ddoi heibio mewn amser ac allan o aIDs-er- Wil- liam Williams, yr hen Chief E. H. Short, W. Edwards, J. Bancroft, Thomas Jones, D. Thomas, L. J. a Thos. Darlington. Dyna restr go dda i gadw dyn i fynd. Pan W. Williams, gynt Divisional Inspector of Elementary Schools yng Nghymru. oedd e yn Llangybi a finne yn Llanfair, fe gwrdden yn dalidal weithe, ar heol Pen- banc, bob un ar ei ffordd adre nos Wener. 'Roedd cael ambell hanner awr o gel-gyf- rinach gyda D. S. yn amouthyn i mi. Buom ddigon rhyfygus weithiau i dynnu'r strio dros yr Inspectors! Mae- rhai syl- wadau o'i eiddo yn aros yn ffres o hyd. Wn i shwt i chi'n teimlo, ond ro'wn i'n galler 'ndopi'n dda iawn a'r Annual Examination. Fe wyddwn beth i ddis- gw'l. Ond am y Visit of Inspection 'ma, dw i ddim yn i dyall hi. Mae 'run peth a'r hen surprise visit ys blynydd- au 'nol. Pan ddaw miwn, 'rwy'n dechre crynnu a 'hwysu-a'r meddwl fod y ffite o'wn i'n g'âl pan yn blentyn yn ail mhoilyd arna i. Wrth edrych arno yn dwad ymla'n gallech feddwl taw H. M.' ei hunan sy yno, ond o dipyn i beth daw yr I i'r golwg. Ma'r Instructions yn gweyd, wyddoch, taw Visit of Inspection yw hi fod 'nawr, ond alla nhw yn 'u byw beido examino weitha'r cwbwl. Ych yn cofio hanes y goludog slawer dydd Wel, allainau 'weyd am y 'Spectors ma,- Mor anhawdd yr a arholwyr y 70's a'r 80's yn arolygwyr y 90's. Ond cofiwch, dw i ddim am omedd nefoedd iddi nhw, sach hynny." Dyna beth anodd yw cael y cart o'r tracè, onte fe?" Ymchwyddai gan falchder gonest wrth fynd dros enwau ei hen 'sgolheigon oedd wedi dringo i safleoedd anrhydeddus,- Stopwch chi 'nawr, pwy ny'nhw ? Dyna Tom Lloyd Rhyl, a'i frawd sy'n Dolgelle, o Landdewi; Herbert Jones, Pentir; Thomas Jones, Llandefeilog; tri mab Berthlwyd J. L. Williams, Billing- sley; a E. P. Jones, Moylgrove, o Athen; -yn 'Ffeiradon bob un welwch chi Wedyn o Drefilan, dyna John Evans Tal y Llychau yn weinidog, ne'n figel, be ma nhw'n i alw fe, gyda'r Methodis, a Daniel Watkins, cyfreithiwr, Llanbed wedí dwad i gystal bara chaws ag un o nhw Nid gwaith bach, welwch chi, oedd growndo rheina. Ma'r cwbwl yn dipendo ar 'u starto. nhw'n reit,- y'ch chi'n gweld. Gna nhw wedyn hî'n go lew, os bydd rhwbeth yn 'u pennau nhw, a stico ati, a 'mroi iddi, welwch chi. Ma' na' ragor na hyna 'se ni'n galler cofio." Wedi mynd dros y rhester, cymerai anal hir, lledai esgyll yn yr hen gadair, nes byddai breichiau honno, a bytyne y shidwt oedd am dano, mewn perygl oddi- wrth ddadgysylltiad.