Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I. ac yn niwed hynny y kychwynawys Matholwch parth ac iwerdon, a branwen yyt- ay ef." YN araf ar y dŵr y nofia'r llong Gan greu rhyw sain fel siffrwd pali gwyn Neu fân wlaw ar yr afon yn y nos. 0 dan yr hwyl, a chwyth de-awel ir. Gorweddai Branwen ym mreuddwydion hûd, A'r hafaidd wynt yn troelli ei heulwen wallt Yn dyner, fel y cryn y tès ar nawnbryd tlws. Ni welaf ar ei min na gwen y dydd Na thrister prudd y canol nos, ond gwyn Y marmor rhwng dau rosyn pinc, a'r oll Dan swynus glo cyfaredd cwsg. Yr hwyl, cyflyma hynt y llong, a thry Y dẁr yn wyn fel newydd wlân o'i hol; Dros ruddiau Branwen gwelaf luwch yn dod, A'i llygaid ymagorant fel pe bai Yn gweled rhyw ddychryn-beth syth o'i blaen. Ond pan arafai'r llong, yn ddistaw dlws Fe geuir ei hamrantau ar y glâs­— Y dwfn-las oddi tan, fel cwmwl brith Yn tynnu'i amlen draws y nwyfre fry, HARLECH. Branwen. Ar ruthr A'i gwyneb llon yn feddal a, fel ôd Yn dadmer ar y bryn, a gwenau mân 0 gylch ei min chwareuant—melus ffrwyth Breuddwydion ter ei chwsg. Dadebra'n syn, A gwelaf brudd-der eto'n cuddio ei gwedd, Fel sawlgwaith yn y dydd y gwelais luwch Y cwmwl ara'n gwelwi lliw y don. Cyfododd Branwen, ac wrth fainc y llyw Penliniodd, a chan edrych draw tu ol Hi welai fân-liw hoff fynyddoedd Lleyn Yn ymbellhau, a hithau'n nesu n nes 0 hyd i'w hestron gartref mwy. I'w gwddf O'i chalon daw rhyw hiraeth mawr, a Lleyn Ddiflana oherwydd niwl ei llygaid hi. A dagrau gloyw lifant lawr i'r dwr. n. YX IWERDON. ac ymysc hynny y flwyddyn honno a duc hì ynylotfawr. A hwyl delediw a duc Iti o glot a chydyindeithion. Yng ngardd palasdy'r brenin tyfai myrdd 0 flodau aml liw'n dryfrith fel y ser