Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymhob cwm, yn fan cyfarfod gwerin- iaeth grefyddol a llenyddol, ac fel y mae gwerin Cymru wedi dysgu ei hun. Cred- ai'r cenhadwr, fel y finnau, yn y werin hon. Does neb ond rhai wedi byw mewn gwledydd gwahanol fedr weled gogoniant gwerin Cymru. Ond bernir Cymru'n aml, ysywaeth, oddiwrth ei phendefigaeth, ac oddiwrth y bwyd llyffant elwir yn "ddosbarth canol." "Mae'r un dylanwad- au'n dechreu effeithio ar y Casiaid acw, welwch chwi," ebai'r cenhadwr, gan fynd i dipyn o hwyl. Mae'r efengyl wedi dechreu effeithio ar eu gwynebau nhw, mae pryd y Casiaid yn harddach. Ac yn wir," — hyn gyda phwyslais dwys, ac ed- rych arnaf yn graff rhag i mi amheu,- mae'r efengyl yn lledu eu talcennau." Gofynnais iddo am y swyddogion Prydeinig, gan fod llu o'm hen ddisgybl- ion yng ngwasanaeth y goron yno. Rhodd- odd air uchel iawn iddynt. "Fel dos- barth," meddai, y maent yn ddiameu yn rhai uchaf yn y byd." I sir Fon yr oeddym yn mynd ein dau, Mr. Roberts i bregethu'r efengyl, a min- nau i weled yr athro J. Morris Jones. Nid wyf yn cydolygu â'r athro ar lawer o beth- au, megis y gynghanedd, a barddoniaeth, a Dr. Owen Pughe, ac ni fyddaf yn fyrr o ddweyd fy meddwl. Ond y mae un peth y gallwn bob amser gydymfwynhau ynddo, sef y gred yn nhlysni a mawredd cynhennid yr iaith Gymraeg. Pe na bu- asai gair ohoni wedi ei ysgrifennu, pe heb delyneg nag emyn, y mae digon o bry- dyddiaeth yn ei geiriau i hawlio bywyd iddi am byth. Ynddi, yn drysoredig, y mae bywyd ein hynafiaid, — eu hegni a'u tynerwch, eu darganfyddiadau a'u ben- dithion,-a hi yw y gynhysgaeth ragoraf roddasant i ni. Y mae crefydd a meddwl yn ei seiniau, a bywyd yn ei hawyrgylch. Ennill y byd a cholli enaid yw amcan Die Sion Dafydd. Ceisiodd Llywodraeth ac Eglwys roi taw ar yr iaith, ac ni welent çu bod wrth hynny yn graddol ddiffodd enaid y genedl. Cefais pob cefnogaeth gan fy nghyfaill i feddwl fel hyn, ac yr wyf yn gobeithio i mi fedru gwneyd rhywbeth i brysuro ymddanghosiad ei Ramadeg. "Blwyddyn eto," meddai. Pan ym- ddengys y gwaith hwn, cydnabyddir yr athro J. Morris Jones fel Dr. Owen Pughe ei oes. Gwyn ei fyd y gwr y mae ganddo neges, oherwydd gwrandewir arno. Yn ystod fy arosiad yn Llanfair- fechan eleni, cefais arwyddion amlwg fod Arllechwedd a'i phentrefydd, er yr holl ddylanwadau estronol, yn drwyadl Gym- reig, ac yn dod yn fwy Cymreig. Gwelais bantle Ffynnon Ffair, ger yr eglwys,-y mae ffynnon santes nawdd y lle wedi ei llenwi ers deugain mlynedd. Ynddi y bedyddid plant, â'i dwfr hi y dadswynid rhai wedi eu melldithio, a byddai ei gwaelod yn llawn o binnau, — olion yr aberthau delid gynt i dduwies baganaidd y dyfroedd.* Dringais i'r chwarel ar ben y Penmaen Mawr, ac ysgwrs- iai y chwarelwyr â mi am ddaeareg, am lyfrau, ac am y Diwygiad. Ni welais chwarel erioed a golygfeydd mor ar- dderchog i'w gweled o honi nid rhyfedd ei bod yn magu beirdd. Hyfryd oedd crwydro eto trwy'r broydd swynol hyn,- y mae swyn eu tlysni a swyn eu hanes gy- maint a'u gilydd. Sefais eto ar y llecyn lle yr oedd byddin o Gymry wedi cau am Edward y Cyntaf, crwydrais eto ar y myn- yddoedd lIe bu Dafydd yn ffoadur wedi cwymp Llywelyn. Yr oedd hen gyfeill- ion mor garedig, a'r golygfeydd ar fôr a mynydd mor adfywiol, ag y buont erioed. Ond dysgais un peth newydd am enwau lleoedd. Sicrheid fi mai gair gwneyd yw afon Glan Sais;" yr enw ar lafar gwlad yw "afon Lladd Sais." Dyma enw yn awgrym i rywun ysgrifennu nofel i ym- welwyr glannau'r moroedd ei darllen yn yr haf. Gwr hynod iawn oedd George Owen Henllys (1552-1613). Sir Benfro, ei sir enedigol a lIe treuliodd ei fywyd tawel di- fyr, yw testun ei ysgrifeniadau. Er taweled ei fywyd, yr cedd yn byw mewn amseroedd enbyd, ac efe fu'n parotoi glannau mor- oedd Ceredigion a Dyfed at ymosodiad gan y Spaenod ym mlynyddoedd yr Armada. Y mae un o'i ysgrif-Iyfrau newydd ei gyhoeddi gan Mrs. Emily M. Pritchard. Y "Taylors Cussion "t yw hwn, llyfr o nodiadau gan George Owen am ddaearyddiaeth a hanes Cymru. Y mae'r ysgrif-lyfr gwreiddiol yn Llyfrgell Caerdydd, ac y mae dalennau y gyfrol fawr hon yn ddarlun cywir o ddalennau Ceir llawer o fanylion dyddorol am eglwysi Arllechwedd yn "The Old Churches of Arllechwedd," gan Herbert L. North, gy- hoeddir gan Jarvis a Foster, Bangor. t The Taylors Cussion, by George Owen. lord of Kemeys. Being a facsimile repro- duction by photo-lithography from the original MS. Issued, with a short biography of the author, by Emily M. Pritchard (Olwen Powys). 42s. Blades, East, and Blades, 23, Abchurch Lane, London, E.C.