Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

III. DÈIO DYWYLL. UA hanner canrif yn ol, chwareuai canwyr baled- au ran bwysig yng ngwyl- mabsantau a ffeiriau Cymru; ac un o olafiaid y dosbarth niferus hwn ydoedd David Jones (Deio Dywyll), Llan y Bydder. Yr oedd yn gryn ffafryn fei canwr poblogaidd unwaith yng ngolwg y wlad; a phan yr oedd yn anterth ei nerth, nid oedd braidd neb a ddeuai i fyny âg ef, oddieithr, efallai, Ywain Meirion, a rhyw ddau neu dri ereill; ac ym mha fan bynnag y digwyddasai fod, byddai yn sicr o gael tyrfa bur dda i wrandaw ar ei athrylith anghabol- edig. Rhwng cyfansoddi, gwerthu a chanu baledau fel hyn mewn cyn- hulliadau poblog, llwyddai i hel ang- enrheidiau bywyd yn weddol iawn. Mae gan breswylwyr siroedd Caerfyrddin a Cheredigion,­-rhai sydd yn gyrru ymlaen mewn oedran erbyn hyn,-adgof- ion difyr am osgo a symudiadau David Jones, a'i het a'i chantal fawr, yn edrych i fyny tua'r cymylau, yn cael ei arwain gan ei ferch fechan, gyda'i lais cryf a chras yn dadseinio, fel berw rhaiadrau lawer, yr holl ystrydoedd, tra'n canu ei hoff ganigau, cyfansoddedig ganddo ef ei hun, megis O wel te'n wir," Cyfraith newydd y cWn," &c. Brodor o ardal Llan y Bydder, sir Gaerfyrddin, ydoedd David Jones; ganed ef yn y flwyddyn 1803, ac yr oedd yn fab i un D. Jones, saer coed ar ystâd Dolau Bach. Tra yn gwasanaethu fel gweith- iwr yn Nolau Gwyrddion, ac yntau ar y pryd ar gyffiniau hafddydd bywyd, cyf- arfu â damwain dost, sef colli ei olygon. Digwyddasai fod un dydd yn un o'r caeau yn cludo neu wasgaru calch; rywsut aeth swpyn lled fawr o'r llwch i'w lygaid, ac nid hir y bu cyn llosgi y ddau yn llwyr. O hynny allan mewn tywyllwch dudew y bu byw yng ngwlad y ddaear; ni chadd weled a gwylied camrau y gwanwyn yn dechreu dyfod a'i geinion dros ddyffryn Teifi, na'r haf a'i fwynderon byth mwy; i bob man yr elai caddug oedd yn ei ordoi ef. Yr anffawd annisgwyliadwy hon a'i harweiniodd i ddilyn y gorchwyl o ganu baledau. Ar un o'i gylch-deithiau yng Llanbedr Pont Stephan. Beirdd Gwlad. Ngogledd Cymru cyfarfu â chydmar bywyd yn un o'r enw Elizabeth­brodores o Ddolgellau, ni gredwn. Trigiannai y ddau wedi'r briodas mewn bwthyn ger marchnadle Llanbedr. Bu farw Gor- ffennaf 1, 1868, yn 65 mlwydd oed. Nyddodd David Jones nifer liosog o faledau, y rhan fwyaf ar ddigwyddiadau cyffrous gymerasant Ie yn ystod ei hynt yn y byd. Ni saif yn uchel fel bardd,- pell iawn ar ol amryw o'i gymrodyr bal- edol; clogyrnog a thalcen slipaidd iawn ydyw bron yr oll o'i waith. Efallai mai y "Gân o fawl i Grist" ydyw yr ore a wnaeth. Yn fy nghasgliad o hen faledau Cymreig, mae un ar ddeg o'i waith ef, er i mi weled amryw yn rhagor o bryd i'w gilydd. Rhoddaf yma benawdau yr oll o'i faledau sydd gennyf mewn llaw,- 1.—" Cân Newydd am Gledrffordd Aberdau- gleddyf a Manceinion." 2. Cân Newydd o fawl i Grist, am y fath iselder dirfawr y daeth iddo, trwy Ei fawr gar- iad, er mwyn achub pechaduriaád. 3. Galar Gân er Coffadwriaeth am Dafydd Lewis, masnachwr ymenyn, Silian, gerllaw LÌan. bedr, Aberteifi, yr hwn a. gafodd ei saethu a'i ysbeilio ar ei ddychweliad adref o Fertnyr, oddeutu dwy filltir o Drecastell, ar nos Wener, y 6ed o Ragfyr, 1844." 4. Cân newydd yn dangos y mawr wahan- iaeth sydd rhwng yr Amser Presennol â'r Dy3d- iau gynt, pan oedd íy hen Famgu yn gwasan- aethu." 5.­" Cân alarus, yn rhoddi hanes gweithred erchyll a gyflawnwyd ym Merthyr Tyfil ddiwedd mis Ebrill ddiweddaf, gan Richard Edwards (Dic Tamar), sef lladd ei fam. Dienyddwyd ef ddydd Sadwrn, Gor. 23, 1842." 6. Galarus Goffadwriaeth am long-ddryll- iad y Royal Charter, ager-long berthynol i Ler- pwl, yn cynnwys pedwar cant ar ei bwrdd, rhwng dwylaw ac ymdeithwyr, heblaw ei llwyth gwerthfawr. Ar foreu y 26ain o Hydref, tar. awodd ar ddarn o graig, gerllaw Traeth Coch, Mon, a chollodd 370 eu bywydau, ac achubwyd 30 yn fyw." 7.—" Galar Gwr ar ol ei Briod." 8. Cân Newydd ar y geiriau hynod hynny, sef 0 wel te'n wir.' 9. Cân alarus am y ddamwain a gymmer- odd Ie yn Llanfihangel Talyllyn, Swydd Fry- cheimog, trwy i dân dori allan yng Ngwestty ROYAL OAK, pryd y llosgwyd 8 i farwolaeth, ynghyd a'r waredigaeth hynod a gafodd y gfŵr, sef JOHN MORGAN, ar foreu dydd Mercher, y 9fed o Chwefror, 1853." 10. Cân Newydd yn gosod allan y gwa- haniaeth rhwng dull y bobl yn eu gwisgiadau y dyddiau hyn rhagor y dyddiau gynt." 11.—* Cân Ddigrif, cymhorth i bawb i chwerthin. Cyfraith Newydd y Cwn, sef coron yn y flwyddyn ar bob ci gan y tlodion a'r mawr- ion heb ddim gwahaniaeth." E. B. MORRIS.