Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Robert Owen a Chymru. MAEN debyg na byddwn nepell oddiwrth y gwirion- edd pe dywedwn na chaf- odd yr un Cymro fwy o ddy- lanwad ar fywyd cymdeith- asol Llcegr yn hanner cyn- taf y ganrif ddiweddaf na Robert Owen. Fel y mae'n hysbys brodor o'r Drefnewydd ydoedd, ac yno y bu farw. Bu fyw bywyd maith a llafurus am dros bedwar ugain mlynedd, a threuliodd agos i dri chwarter canrif o'r tu allan i Gymru. Yn ystod yr amser hwn, ymwelodd â Chymru deirgwaith,-unwaith pan yn fachgen, a thrachefn ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth; a'r tro diweddaf i farw. Yno y claddwyd ef; ac y mae Cydweithredwyr Prydain yn awr wedi codi cofgolofn ar ei fedd; ac y maent hefyd ar íedr ychwanegu adran a.t lyfrgell y Drefnewydd er coffa am dano. Anhawdd sylweddoli heddyw maint ei ddylanwad yn Lloegr am y pum mlyn- edd ar hugain gwedi Brwydr Waterloo. Yr oedd ei ddyngarwch ymarferol yn Lan- ark Newydd wedi codi ei enw i fri mawr; a llwyddodd drwy ei waith a'i ddylanwad i osod ar Ddeddf-lyfr y wlad y gyntaf o'r deddfau hynny sydd wedi gwneyd cymaint er gwella amgylchiadau bywyd a llafur yn y gweithfeydd mawrion. Eto, er cymaint ydoedd gwneyd hyn, y mae ei brif hawl i'w gofio yn dibynnu ar ei waith yn cych- wyn y Symudiad Cydweithiol. Nid efe oedd tad yr egwyddor, ni redodd y symud- iad ar y llinellau a fwriadai efe; ac wedi torri ei gysylltiad uniongyrchol ef a.'r sy- mudiad y llwyddodd fwyaf. Serch hynny, i Robert Owen y perthyn yr anrhydedd o fod wedi rhoddi bri ar y syniad o gyd- weithrediad mewn llafur a masnach. Llwyddodd i roddi bod i symudiad eang a chyffredinol drwy y wlad ac y maen debyg mai iddo ef a'r Siartistiaid y mae yn rhaid priodoli y dyddordeb mewn, a'r brwdfrydedd gyda phynciau cymdeithasol, gwleidyddol a threfniadol, a welwyd mor amlwg yn yr hanner cyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond pa faint a wnaeth ef dros ei wlad enedigol? Cyn ateb y cwestiwn, rhaid cofio fod Owen yn credu fod gwladgarwch a chenedlaetholdeb yn bethau niweidiol i gymdeithas. Arferai gydnabod ei hunan yn Gymro, ond damwain ddibwys oedd hynny; ac edrychai ar ei gydgenedl fel pobl a ddifethid gan grefydd ofergoelus. Yr unig lewy^ch o gariad at ei wlad a gan- fyddais ar ol chwilio drwy ei hanes, yn ei lyfrau a'i gyfnodolion ei hun, ac yn eiddo eraill hefyd, oedd ei ddymuniad i gael dychwelyd i Gymru i farw; a mynnai pan yn croesi dros ei goror am y tro diweddaf fod ei hawyr yn well a mwy iachus nag awyr y wlad agosaf ati. Ar ol dweyd hyn, ni synna neb wrth ddeall na wnaeth Robert Owen ddim dros Gymru, yn arbennig. Y mae Cymru yn mwynhau lla.wer o effeithiau da ei waith; ond nid wyf wedi gallu dod o hyd i hanes ddarfod iddo wneyd dim dros Gymru yn uniongyrchol. Ni chafodd ei syniadau ychwaith nemawr ddylanwad yn y wlad. Un rheswm am hyn yn ddiau ydoedd na wyddai llawer o Gymry ddim am danynt. Yn Lloegr, yr oedd amryw o Gymry wedi ymuno a'r symudiad. Ym Manceinion, er engraifft, yr oedd amryw yn aelodau o'r "National Community Society of Ra- tional Religionists," cymdeithas fawr Robert Owen. Drwyddynt hwy y cyfieith- iwyd ac y cyhoeddwyd yng Nghymraeg Outlines of the Rational System of Society," yn 1840. Nid wyf eto wedi gweled copi o'r cyhoeddiad hwn. Ar- faethai y gymdeithas hon anfon rhai o'i chenhadon cymdeithasol" i Gymru; ond -er fod un o honynt, Lloyd Jones, o dardd- iad Cymreig-nid oedd ganddynt neb allai siarad Cymraeg. Rhanwyd Cymru yn feusydd cenhadol; ond nid oes hanes ddar- fod i neb ymweled â Chymru gyda'r neges hon, oddigerth Hollick, y cenhadwr cym- deithasol yn Llynlleifiad, yr hwn a dalodd ymweliad â Bangor. Digwyddai gwr o'r enw Scott fod yn byw yn Bangor y pryd hyn, ac efe yn ddisgybl selog i Robert Owen. Ceisiodd ledaenu syniadau Owen, a dywed fod llawer yn eu derbyn yn gyrYes, ond nis gellid cael nemawr lwyddiant heb i genhadwr cyfarwydd ag iaith y wlad gael ei anfon yno, fel yr oedd yr "Anti-Corn Law League wedi gwneyd. Pen draw y gymdeithas hon oedd sef- ydlu rhyw fath o drefedigaethau cydweith- iol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yn