Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nghymalau y peiriant; ac ystyr gwely yw y dry dock He y dodir y llong i fyned dan adgyweiriad. Pan ddeffry y dyn yn iach adfywiol bore drannoeth, meddai, Yr wyf yn teimlo wedi dad-flino a gorffwys yn ar- dderchog;" ac ystyr hynny yw, Y mae Duw wedi adgyweirio fy nghorff yn ar- dderchog neithiwr;" ac y mae'r dyn duw- iol, y dyn diolchgar, y dyn sydd wedi de- chreu dysgu moesau boneddigion y Llys Nefol, yn disgyn ar ei liniau, ac yn diolch â chalon gynnes i'r Adgyweirydd Mawr, y Meddyg Dwyfol. Ar yllaw arall, y mae'r dyn anuwiol, y dyn anfoesgar a di-ddiolch, yn myned allan bob bore heb gymaint a dweyd Thank you; ac felly y mae bil y Doctor yn myned yn fwy bob dydd. Dyn ofnadwy yw y dyn anuwiol-nid oes dim o'r boneddwr ynddo-yn gallu myned allan o'r hospital fel hyn bob bore. wedi ei adnewyddu, ei wella oddiwrth drwm glefyd ei luddcd, heb gymaint a diolch i'r Meddyg, na son am dano ie, gwaeth na hynny, a allan i'r byd ac at ei. waith, gan arfèr y nerth adnewyddwyd yn y nos, i bechu yn erbyn y Meddyg Da. Rhydd Ann Griffiths, yr emynyddes enwog, ddesgrifiad o'r gwr hwn a'i dy- lwyth yn eu perthynas a Duw, yn y ddwy linell ryfeddol, Nerthu breichiau ei ddienyddwyr I'w hoelio'n greulon ar y groes." Wedi cyrraedd mor bell a hyn, gad- ewch ini weled beth yw y ffaith neu'r gwir- ionedd mawr nesaf sydd yn ymgodi i'n meddyliau oblegid, chwi wyddoch, nid yw astudio y pwnc yma, ac efrydu y pwnc arall, 0 les yn y byd os na bydd gennym ryw amcan teilwng mewn golwg. Cyn ceisio ateb y cwestiwn yna, gad- ewch ini weled lle yr ydym yn sefyll, trwy gael ail-adroddiad neu grynhodeb byr o'r pethau y buom yn ymdrin a hwy eisoes. Ein pwnc, testyn ein trafodaeth, yw Gwaith," neu "Gweithio;" a'r gosodiad yw fod yn rhaid i bawb byw ẃeithio." Sylwyd hefyd fod y rhaid hwn yn cael ei osod arnom am fod gan bob peth byw ei elynion; ac fod yr angenrhaid sydd ar- nom i amddiffyn a chadw ein bywyd yn ein gorfodi i weithio. A'r ffaith fawr olaf oedd, fod organau pwysig peiriant y corff yn gweithio yn barhaus ohonynt eu hun- ain heb ofyn ein caniatad ni o gwbl, ac felly fod gweithio yn un o delerau bywyd, fod bywyd a gwaith yn cydfyned bob amser. Ie, gweithwyr difefl yw yr Ys- gyfaint, y Galon, a'r Cylla. Wrth sefyll yn fyfyriol uwchben y ffeithiau yna, onid oes rhyw syniad fel hyn yn ein taro,-y mae Duw wedi gosod y tair organ yna tu fewn i'n cyrff i weithio a gweithio, a gweithio, yn ddibaid-Efe ei Hunan yn ymostwng i fod yn yriedydd ar- nynt-wedi eu gosod yna yn esiamplau i'n denu a'n cynhyrfu ninnau i weithio; fel pe byddai yn dweyd-" Dowch, gweith- iwch chwithau dipyn, gadewch ini fod yn gyd-weithwyr dyma Fi yn cario un pen i'r baich, cludwch chwithau y pen arall- dowch, dowch, mhlant i, hefo'n gilydd 'rwan." Yn wir, mi fyddaf yn teimlo rhyw serch neillduol at y cloc acw, gan fel y mae yn llanw fy ystafell â swn gwaith; ni fedrwn, rhag cywilydd, fod yn ddiog yn ei bresenoldeb ef. Un o'r golygfeydd cryfaf eu hudoliaeth yn y wlad yw yr afon loew redegog, onide ? Y mae rhyw duedd ym mhawb i eistedd ar lan yr afon, neu i ymlolian ar ganllaw'r bont; a phaham? Credaf fod tair rhan o bedair o'r swyn, o'r hudoliaeth, yn y ffaith mai dyfroedd rhedegog, gloewon, gwisgi, llawen sydd yno. Ni byddwch byth yn gweled dyn- ion yn eistedd mewn rhyw ber-lewyg o foddhad uwchben y pwll o ddwr marw, diog, cartre'r llaid a'r llyffant. Bellach, wedi gweled pa ran o'r gwaith y mae Duw wedi ymgymeryd a'i wneyd, awn ymlaen i sylwi, — ond yn fyr, ac heb ymhelaethu dim-ar y gyfran honno o'r gwaith y mae wedi ei ymddiried i ni i'w gyflawni. Rhyw dair prif ddyledswydd, fel y gwelsom, y mae Duw wedi ymafael ynddynt fel ei briodwaith Ef ynglyn a'r corff a rhyw dair prif ddyledswydd y mae wedi eu hymddiried i ninnau ynglyn ag ef-sef gofalu am fwyd, dillad, a chartref iddo. Darparu ar gyfer y rhai hyn yw priodwaith dyn; rhaid i'r corff eu cael; nis gall fyw a llwyddo hebddynt; nid oes modd bod yn gysurus a dedwydd heb- ddynt; y mae bywyd yn myned yn bwn, yn boen, ie yn anioddefol, os na cheir hwy; ac y mae cosp drom ac anocheladwy yn dilyn os amddifadir y corff ohonynt. Gwelwn beth mor anysgoawl yw gwaith y mae'r orfodaeth iachus hon wedi ei chordeddu yn anatodadwy a chyf- undrefn ddoeth y byd-natur a dynol- iaeth, dyn a Duw, wedi eu ieuo yn gyd-