Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yw bywyd, mwy nag y mae yn deall y Duw byw, ffynhonnell pob bywyd. Ie, credu yr ydym, ymhellach, nas gall.dyn byth wneyd peiriant hunan-ysgogol di-saf hyd oni byddo wedi dod i ddeall beth yw bywyd ac felly, fod creu neu lunio peth byw yn fythol allan o'i gyrraedd. Tiriog- aethgyfriny Duwdod yw tiriogaeth bywyd -rhyw gysegr sancteiddiolaf lIe na chaiff neb fyned i mewn ond Duw ei Hun. A diolch am hynny. Beth pe cai, pe medrai, y diafol, yr Hen Sarff, ymwthio i mewn i'r gafell sanctaidd honno. i laboratory bywyd, ac yno dechreu creu bodau deallol, dreigiau eraill ar ei lun a'i ddelw ei hun ? Y mae'r syniad noeth am bosibilrwydd y peth, yn gyrru iasau o ofn a dychryn anfesurol trwy ein henaid. Yn wir, ni chawn i Dduw drosglwyddo y gallu i greu i neb ond Iesu Grist; na, ni charwn glywed fod Gabriel ei hun yn cael caniatad gan ei Dad i wneyd experiments yn y ffordd honno. Na, na-" neb ond Iesu." Ond, yn y trydydd lle, sylwn fod yn rhaid i'r cylla, y stumog, weithio, os yw dyn am fyw. Bodd neu anfodd, ddydd a nos, y mae'r cylla yn gweithio; y mae gan- ddo goflaid o waith i fyned trwyddo ar ol pob pryd o fwyd, ac y mae yn rhaid ei wneyd. Er mwyn i chwi weled, a theimlo, y rheidrwydd hwn, cadwch eich cylla yn wag am dipyn, peidiwch a rhoddi dim bwyd ynddo am wyth neu ddeg awr, a chewch brofiad diamwys na fyn y cylla fod yn ddiog. Dyma eto, ynte, raid arall y mae Duw wedi ei osod ar ddyn,-rhaid i fwyta, er mwyn ufuddhau i alwadau y cylla; a'r cylla yw yr offeryn, neu'r peiriant, sydd yn paratoi defnyddiau i adgyweirio y corff. Wedi i ddyn fod yn gweithio yn galed trwy'r dydd, y mae yna waith rypario mawr ar y corff erbyn yr hwyr; oblegid y mae pob offeryn, pob tool, pob peiriant, yn treulio wrth wneyd gwaith felly rhaid adgyweirio-mynd a'r swch, y cwlltwr, yr ebill, y cŷn, &c., i'r efail-neu a yr offeryn yn ofer a difudd at y gwaith, gan fel y mae yn treulio ymaith, yn gwisgo i ffwrdd. Gyda'r plentyn,-plentyn ar ei dyf- iant, ys dywedir,-y mae yna angen deu- blyg am fwyd rhaid iddo fwyta er mwyn adgyweirio treuliau y corff, a bwyta hefyd ar gyfer chwanegu at faintioli y corff, sef at dyfu; dyna paham y mae plentyn bychan yn bwyta cymaint. Sylwasom o'r blaen, mewn perthynas i'r ysgyfaint yn anadlu, a'r galon yn pymp- io'r gwaed trwy fyrdd o fân bibellau i bob rhan o'r corff, mor ddistaw oedd y gwaith i gyd. A sylwn yma eto mor ddistaw y mae y cylla yn gwneyd ei waith, ac mor ddistaw y mae'r gwaith o adgyweirio y corff yn cael ei ddwyn ymlaen. Pe deuai y saer i'ch ty chwi i adgyweirio bwrdd, neu gadair, dyna'r twrw fyddai yno-y curo, y llifio, y llusgo, a'r tuchan. Eto pan ddaw y saer-maen i adgyweirio eich ty, dyna'r helynt sydd yno, y cario calch a thywod, cerrig a llechi; llosgi calch, cario dŵr, codi ysgolion, a chodi llwch. Dyma eto beth arall yn yr hwn y mae gwaith Duw yn gwahaniaethu oddiwrth waith dyn, ac yn rhagori arno pan fydd dyn wrthi hi yn adgyweirio unrhyw offeryn neu beiriant, rhaid i'r offeryn neu'r peiriant hwnnw sefyll yn ddiwaith a difudd tra byddo'r adgyweiriad yn myned ymlaen. Difudd a segur yw y gadair dor- edig tra yng ngweithdy y saer; gorfod sefyll y mae'r oriawr a'r awrlais tra dan ddwylaw yr oriadurwr; ac felly am y drol, y llong, yr'ager-beiriant, &c. Ond dyna chwi yn archolli eich bys, dyweder; wel, rhaid i'r bys hwnnw fod yn segur, ond ni raid i'r holl gorff sefyll. A dyna ddistaw y mae y briw yn gwella O ydyw, y mae'r archoll yn brifo; y boen yna yw y gosp y mae Duw yn ei gweinyddu arnoch am wneyd cam â'r offeryn cywrain Ylla-y bys. Onibae fod Duw yn codi dirwy o boen am bob archoll roddwch i'r peiriant, byddem yn ei friwio a'i dorri o hyd. Ond y mae y boen yna yn dysgu pawb ohonom, a hynny yn fuan ac effeith- iol, i beidio gwneyd cam a'n cnawd. Ath- raw galluog a llwyddianus yw Poen. Dyna hefyd yr hûn cwsg" sydd yn dyfod ar ein gwarthaf bob nos, repairiny time y Duw Mawr ydyw; tra yr ydym ni yn cysgu yn dawel, dan y chloroform dwy- fol hwn, y mae'r Meddyg mawr yn disgyn at erchwyn ein gwely i wneyd y "rypârs erbyn drannoeth, a diwrnod newydd o waith. Gwelwn, felly, mai ystyr y frawddeg '` wedi blino yw hyn — fod y peiriant, sef y corff, out of repairs, gan fel y mae wedi gwisgo a threulio yn llafur y dydd; ac ystyr eisiau cysgu yw, fod amser yr ad- gyweirio wedi dod, amser i roddi olew yng