Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ydd mawrion, gellir dweyd oddiar y safle hon, fod mwg eu poenedigaeth yn esgyn i fyny yn oes oesoedd." Cato ni, nid ang- hofiaf fyth fy ymweliad cyntaf â Llun- dain­--yr oedd twrw ei heolydd carregog (y pryd hwnnw) wedi fy myddaru yn lân, fy moedro yn deg. Yn y Gyngerther- nan honno nid oedd ond cur pen y dydd, a choll cwsg y nos. Nid rhyfedd i'r bardd Cowper ganu God made the country, man made the town." Nid rhyfedd fod pobl y trefydd tyrfus yna yn heigio i Gymru lân, dawel, yn yr haf; y mae tawelwch y wlad, ynddo'i hun, yn nefoedd fach iddynt; distawrwydd mor- wynol y mynydd yn baradwys i'w clustiau arteithiedig. Mor gu i glust a chalon yw distawrwydd yr hwyrddydd, mor fendi- gedig yw sanctaidd ust y Sabbath. Peth mor anwyl, mor swynol, yw ty a theulu distaw,— yr aelwyd lân, dangnefeddus. Yn yr ail le sylwn fod yn rhaid i galon pawb guro, er mwyn gwneyd i'r gwaed redeg a llifeirio trwy'r gwythienau i bob rhan o'r corff. Pe y peidiai eich calon a churo, pe y safai am foment, byddech farw yn y fan. Dyna eto waith pwysig, onide, mor bwysig fel mai marw fyddai y can- lyniad o beidio ei wneyd. A gadewch ini feddwl yn ystyriol am foment mai nid y ni sydd yn gwneyd i'r galon guro; na, y mae hi yn curo heb ofyn ein caniatad ni o gwbl; y mae hi yn dal i guro yn rheol- aidd pan na byddwn ni yn meddwl dim am dani; ie, yn dal ati i guro yn gyson a diorffwys pan fyddwn ni yn cysgu. Nid yw y galon yn cael munud o hepian ddydd na nos­+nid yw byth yn cael half-holiday na, dim cymaint a phum munud o gyntyn mewn oes o bedwar-ugain mlynedd. Pwy sydd yn ei windio bob bore, yn ei dirwyn bob nos Sadwrn? Nid tydi, ai e ? Yn wirionedd i, tybed nad ellir dweyd mai dyma'r gweithiwr bach mwyaf diwyd yn y byd mawr i gyd. Nid yw diwydrwydd diarhebol y wenynen fach ond megis chware o'i gydmaru i ddiwydrwydd gwyrthiol y galon fach yna sydd yn dy fyn- wes di a minnau. Pan awn i geisio meddwl yn ddifrifol am y ffaith ryfeddol hon, sef am weithgar- wch disaib, am ysgogiad disaf y galon, nis gallwn lai nac ymgolli mewn syndod. Un o'r peiriannau mwyaf perffaith, mwyaf tlws o eiddo dyn, yw yr oriawr; ond ni chlywais fod neb erioed wedi llwyddo i wneyd oriawr i fynd am oes heb ei dirwyn o gwbl. Ymgais fawr prif beirianwyr y byd yw yr ymgais i ddarganfod per- petual motion," rhyw beiriant neu ysgog- ydd aiff yn ei flaen yn ddisaf a diddiwedd, rhywbeth aiff am byth heb eisiau ei ail- ddirwyn. Pe gallai rhywun ddarganfod a gwneyd oriawr neu awrlais neu unrhyw beiriant arall ai am byth, byddai y dyn hwnnw wedi ennill ei ddigon, "wedi gwneyd ei ffortun," ys dywedir. Dyna'r casgliad, onide, mai mawr yw gwerth gwaith, mai mwy yw gwerth gwaith cyson, mai'r mwyaf oll ei werth yw y gwaith disaf; ac yn olaf, nas gall un- rhyw ddyn wneyd ysgogydd disaf, hunan- ysgogydd dibaid. Beth pe bawn, yn y fan hon, yn gofyn cwestiwn fel hyn,­-Pa beth sydd yn rhwystro dyn i wneyd peiriant disaf ? Neu, gallwn roddi y cwestiwn mewn ffordd arall,­-Pa beth sydd yn galluogi y galon i weithio yn ddibaid, i fod yn beiriant hunan-ysgogol a disaf ? Hynny yw, beth yw y gwahaniaeth rhwng yr oriawr a'r galon ? Neu, er mwyn gwneyd y peth yn fwy eglur fyth, gofynnwn,— Ai yr un peth, yr un math o allu, sydd yn gyrru y galon ag sydd yn gyrru yr.oriawr? Os nad e, beth yw'r gwahaniaeth? Erbyn hyn, credwn fod yr ateb wedi dod i'r golwg yn weddol glir a dyna fe,—BYWYD sydd yn gyrru neu yn ysgogi y galon, tra mai rhyw- beth arall, ond NID bywyd, sydd yn gyrru yr oriawr mewn geiriau eraill, peiriant byw yw y galon, ond peiriant MARW, er cymaint ei thician, yw yr oriawr. Rhyw lafn o ddur main, cul, wedi ei ddirwyn i fyny yn droell-sef peth a elwir yn mainspring — sydd yn gyrru yr oriawr; rholiau o haiarn trymion sydd yn llusgo'r awrlais yn ei flaen; ond-ond-ond-y- y-y Wel, dyna hi wedi myned i'r pen arnaf. Wn i yn y byd beth i ddweyd am y peth hwnnw sydd yn gyrru ac yn ysgogi y galon; rhaid imi gyfaddef fy anwybod- aeth am natur ac ansawdd y peth neu'r gallu rhyfedd a chyfrin hwnnw; ond nid nminspring, na phwysau, sydd yn gyrru y galon; felly gorfodir fi i arfer gair i guddio fy anwybodaeth, a dweyd mai BYWYD sydd yn ysgogi pob peth byw; ond ni fedr yr un dyn byw ddyweyd beth yw bywyd- cyfrinach Duw yw hynny. Ie, credaf nad oes angel yn y nefoedd sydd yn deall beth