Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LAWER sydd o son am waith, a gweithio, gan hawb-gan bawb trwy'r byd i gyd. Os na bydd- wch am weithio, bydd pobl yn digio wrthych, ac yn eich diystyrru, ac am alw enwau hyllion a chas arnoch; ac nis gwn am yr un enw mor gas, mor hyll, a'r gair diocj. Paham, feddyl- iech chwi, y mae pawb mor ddirmygus o'r bachgen, neu'r eneth, o'r dyn, neu'r ddynes ddiog? A phaham, o'r tu arall, y mae pawb mor hoff, mor barchus o'r plant, ac o'r bobl ddiwid, weithgar? Wel, y mae'n ddigon amlwg mai dyma'r rheswm,-sef, am fod dyn yn gre- adur llawn anghenion, yn greadur ag eis- iau llawer o bethau arno. Am lawer o'r pethau hýn gellir dweyd fod yn rhaid iddo eu cael, ni fedr fyw o gwbl hebddynt; ac felly gelwir y pethau hynny yn angen- rheidiau bywyd; neu gellir arfer gair cryfach fyth­-anhebgorion bywyd. Ac nid yw yr angenrheidiau hyn i'w cael am ddim, rhaid gweithio, ie llafurio yn galed a beunyddiol, am danynt. Felly, gwelwn fod gweithio yn un o delerau bywyd, am nas gellir cael yr angenrheidiau hyn heb weithio am danynt. Wedi i Adda gael ei droi allan o Ardd Eden am bechu, dyna ddywedodd Duw wrtho-" Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara," hynny yw, ni chei di damaid o fwyd eto heb weithio yn galed am dano. Tra yr oedd Adda yn yr ardd, ac yn parhau yn ddyn duwiol, nid oedd eisiau iddo weithio yn galed iawn, dim rhyw chwysu a maeddu hyd flinder poenus, fel y mae rhaid i ni. Tra yr oedd yn ddyn da a duwiol, yn ufuddhau mewn pob peth i Dduw, yr oedd Duw yn dda ac yn garedig wrtho yntau, yn ei wobrwyo mewn llawer dull a modd. Sylwch, nid dweyd nad oedd gan Adda ddim gwaith o gwbl i'w wneyd yr wyf, ond dweyd nad oedd Duw yn rhoddi llafur- waith trwm iddo, nad oedd ei waith yn lladdfa arno. Na, nid rhyw fath o wr bonheddig" a'i ddwylaw ymhleth ar ei grwper oedd Adda; dywed y Beibl yn ben- dant iddo gael ei osod yn yr Ardd i'w llafurio, a'i chadw." Gwyddoch o'r goreu Gwaith. beth yw y gwaith, y llafur, y rhaid i bob garddwr wneyd cyn y caiff gnwd da o'i ardd gwyddoch hefyd fod yn rhaid i'r garddwr gadw ei ardd rhag pob gelyn, hynny yw, cadw llygad, cadw gwyliadwr- iaeth fanwl ar y coed, y planhigion, y blodau a'r ffrwythau, rhag digwydd yr un niwed iddynt. Nid oedd eisiau i Adda ofni rhag i fechgyn drwg dorri i'r ardd, gan nad oedd dim bechgyn drwg na da yn y byd y pryd hwnnw. Ond fe ddaeth yno fachgen drwg iawn i'r gymdogaeth cyn hir-Cain; ond er mor ddrwg ydoedd Cain, ni feiddiodd erioed dorri i mewn — yr oedd yno gerub tanllyd, gyda chleddyf tanllyd ysgwydedig yn gwylio y porth. A gwrandewch (ust gair bach yn eich clust chwi, fechgyn drwg) y mae'r angel a'r cleddyf tân yn gwylio pob gardd yng Nghymru, heddyw, ond ein bod ni yn methu ei weled. Ffaith ryfedd yw hon, sef fod gan bob peth byw ryw elyn na'i gilydd; ie, yn wir, lawer o elynion-rhyw beth, neu ryw bethau, sydd megis wedi rhoddi eu holl fryd i geisio eich drygu, i geisio gwneyd rhyw niwed i chwi, i geisio anurddo eich tegwch; ie, yn wir, yn aml fel wedi ym- dynghedu i gymeryd eich bywyd, neu o'r hyn lleiaf, ei wneyd yn ddiles a difudd. Cymerwch y llysieuyn, neu'r goeden, er esiampl. Beth yw gelynion y rhain? Y mae gwynt cryf yn eu taflu, eu torri, neu eu hysigo y mae gwres a sychder mawr yn eu crino y mae rhew caled yn eu diosg o'u dail, ac weithiau yn eu lladd; y mae llifogydd, neu ôdgwymp (avalanche) yn eu diwreiddio a'u hysgubo i ddistryw; y mae'r fellten yn eu rhwygo yn ysgyrion; gwna cnwd trwm o eira weithiau ysigo'r gangen nes ei thorri ymaith yn y bôn; ac os bydd fyw ddigon hir, dechreua y rhu- ddyn bydru o wir henaint. Felly gwelwn mai un ymdrech ddibaid, un ymladdfa lle nad oes bwrw arfau, yw bywyd; trwy ym- drech a llafur dibaid y ceir byw. Y mae'r ymdrech a'r llafur hwn, y wyliadwriaeth a'r gochelgarwch di-hepian di-orffwys i ddiogelu, i amddiffyn, ac i gadw bywyd, yn fwy eglur fyth yn y deyrnas anifeilaidd a hynny ar gyfrif fod y gelynion yn fwy eu rhif, yn fwy effro, a