Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei chywair cyntefig, a chanodd pawb yn galonnog gydag ef i'r diwedd. Ni chynyg- iodd godi unrhyw dôn yn y cwrdd y bore hwn wedyn. (Cofiwch mai hwna oedd y gwr cyntaf welsom ar y daith). Ar ei ol dyma Tomos Jones y gaffer a'i bennill Mi welaf fyrdd dan sel yn hwyliog a nefolaidd (" mesur B.D. fec-h- gyn," ebai Shoni 0 guddfan), a thrawyd Pererin yn yr hen ddull celfyddydol (cyn i Ieuan Gwyllt i'w thrwsio) gydag ar- ddeliad. Yn nesaf dyma Evan Griffith ar ol y gaffer neu­-gwae i chwi. Gwr tsneu, egwan 0 lais a chorff, plentynaidd ei ddull a duwiol ei ymarweddiad, rhaid sylwi arno ymhellach — ni thyn ei olwg oddiar y gaffer yn ystod y cwrdd. Os gwenai y gaffer-gwenai ynte, os edrychai y gaffer yn ddifrifol, edrychai ynte; os cymerai y gaffer ran yn y cwrdd, rhaid oedd iddo ynte neu- Rhaid cofio fod y gaffer yn ffigur colofnog hardd, a Evan yn ffìgur tenau a thwt, ac yn lled gefnog o dda'r byd hwn, eto yr oedd y cariad brawdol oedd rhyngddynt mor gynnes a chariad Dafydd a Jonathan, fel y gallasent fforddio absenoli eu hunain o'r gwaith a chymeryd orig fechan neu ddwy a'u ffyn disglaer, cadwyni aur, a rhodio ar hyd heolydd Abertawe gan ymgomio am y gogoniant a'r golud gwell oedd yn eu haros nes cyrraedd glan y môr. Rhy- feddol oedd eu cariad, tu hwnt i gariad gwragedd. Ond at y cwrdd-rhaid oedd gosod Evan ar o! y gaffer 'nawr ynte. Dacw fe ar ei draed fel ewig, a'i bennill, O'th flaen o Dduw 'rwy'n dyfod." "Jabez ^jlAINT 0 greiriau llenyddol sydd ar chwâl hyd Gymru? Yn ddiweddar, trwy garedigrwydd Mr. R. H. Evans, Ar- osfa, Llanrhaiadr, bu blwch Huw Morus, --at fyglys neu snisyn,­-yn fy llaw am ennyd. Blwch pres gloew a hardd ydyw, rhyw dair modfedd wrth dair a hanner, a than fodfedd o drwch. Y mae addurn- iadau gan law ysgafn gelfydd ar y wyneb; ac ar y gwaelod, mewn llythrennau breis- ion dyfnion, y mae HUW MORRUS 1701. oedd y dôn-os bu canu arni erioed, fe'i canwyd hi y tro hwn,-yr hwyl ar ei huchel fan, acen drom ar bob nodyn. Gwae fyddai i chwi son am amseriad, gan fod pawb ar ei oreu am aros cymaint a allsai ar bob nodyn gan frwdfrydedd y teimladau, yn gyffelyb i'r wenynen yn yr haf ar y blodyn, neu wylan ar wendon y môr. A therfynwyd y cwrdd. A pawb at eu gorchwylion. Chwareu teg iddynt. Pwy allsai eu beio? Nid oedd gwybodaeth gerddorol o fewn eu cyrraedd, gramadeg egwan Mills oedd yr unig lyfr ar y maes, ni ddeallent un gair 0 Saesneg i gwrdd a threfn dy- wyllog afrosgo Hullah, a goleuni llachar a serennog trefn Curwen heb dywynnu ar fryniau Cymru. Yn iach i chwi, yr hen bererinion! Ffarwel, ffarwel! Yr ydych wedi croesi draw i ardal yr aur delynau. Ni wyddech ddim am rifyddiaeth, ond gwyddech trwy brofiad y buassch gyda'r dyrfa ddirifedi yn y man. Ni allasech dorri eich enwau ar lyfr, ond gwyddech fod eich enwau wedi eu hysgrifennu ar lyfr bywyd yr Oen yn y trigfannau. Goddefasoch gystudd fel mil- wyr da i Iesu Grist, gan edrych yn mlaen ar olud gwell y nefoedd, a gobeithio am y gogoniant dyfodol. Gan fod ysbryd Duw wedi ei roddi i breswylio ynnoch, gorfoledd- asoch mewn gorthrymderau a glynasoch yn eich proffes hyd wahaniad yr enaid a'r corff. Llais un gorthrymydd byth ni ddaw I'w deffro i wylaw mwy, Na phrofedigaeth lem, na chroes, Un loes ni theimlant hwy." Blwch Huw Morns. Anrheg dechreu canrif i hen fardd, fe allai, oedd. Dyma finnau, ar ddechreu canrif arall, yn cael rhoi twysged o'i ganeuon tlysaf, anghyhoeddedig hyd yn hyn, yn anrheg i'w genedl. Y mae Huw Morus yn dod a' hen Gymru yn 01 i'r meddwl yn anad neb, — y lleisiau melusion fyddai'n canu carolau melodaidd, yr hen amaethdai clyd, y can- euon serch pur a syml, y cario mawn, y lladd gwair, yr heddychu cymdogion, llawenydd gwyl a thristwch angladd.