Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gydag arafwch, corfaniad cydbwys, llais isel (sotto voce) fel y canlyn,- Sut mae wedi hwylio gyda chi 'r Hen Gorff a'r Bedyddwyr y ddo', fechgyn ? Shw fwyd gawsoch chwi yn y'ch capeli, gwedwch? Ni gawsom ni lond ein llestri bychain yn Cadle (Anibynwyr) beth bennag." "Oes dim stori fach heddy', Bilo?" meddwn. "Nag oes, wir. Ond 'roswch. Oich chi nabod Roberts Nevin mi wn. 'Roedd ef unwaith yn sasiwn y Methodistiaid yn y North, a gofynnodd Owen Tomos ag eraill iddo- Mr. Roberts, pe byse yr Apostol Paul ar y ddaear heddy', gyda pwy enwad y tybie chwi y bwriai ei goel- bren ?' Nid gyda'r Hen Gorff 'rwy'n sicr i chwi,' ebai Roberts. 'Sut hynny, sut hynny. Profwch eich pwnc mewn munud,' ebai Owen. Gwnaf mewn eiliad; mae gennyf Sgrythyr ar y pwnc,' ebai Roberts. Allan ag e', ebai Owen. Mi a chwen- ychwn fod allan o'r Corff felly chwi wel- wch na fase fe ddim yn Fethodist 'rwan.' Bonllef a chwerthiniad a ganlynodd hyn, a ffwrdd a Bilo gyda'r esgus o gropio'r perthi. Dyma ni yn ymyl y lofa — mae'r olwyn- ion yn troi. Dringwn i ben y pwll- dyna ni ar ei ben. Gwelwch Dan y Bancwr, parod i'w waith. Nid oes clwydi draws y pwll, nid oes deddf wedi pasio i'r perwyl eto. 'Rydych yn agored i'r ben- dro os ewch yn rhy agos. Sefwch draw nes bo'r cawell yn barod. Gwr ystwyth. baech yn aros hyd hanner dydd fe glyw- hirgoes, a gwrol ei fenter yw Dan, oblegid ni thraffertha fyned o amgylchedd y pwll pan mewn brys, ond neidia yn groes iddo, yn syth a sicr o'i draed, fel morwr ar fwrdd llong ar yr e.igion trochionog. a phe cynygiech ei geryddu chwarddai yn iachus am eich pen. Ond dewch i fewn i'r cawell. Dyma ni yn mynd lawr eilwaith. Mae dis- tawrwydd dwfn yn teyrnasu ar y gwaelod heddyw, o barch i'r cwrdd gweddi. Pe baech yn aros hyd hanner dydd fe glyw- ech donc ar Werthfawrogrwydd am- ser," "Par i mi wybod dy ffyrdd," "Daw Babilon feddwol i lawr," Mae Dirwest yn gwaeddi," a chydgan Haleliwia Handel. Dyma ni ar y gwaelod. Dewch ymlaen ychydig a fyny ugain llath i ys- tafell y merlynod. Wi Dyna ugeiniau o lygod bychain yn tarfu o'r presyb. Mae'r gaffer a'u hofn yn enbyd. 'Does dim niwed yn y creaduriaid bach, wedi dod lawr yn y cydau us, ac epilio a byw wrth ddanteithio'r us y maent. Ond dyma ni 'n cyrraedd y cwrdd gweddi. Gwelwch y glowyr yn rhes bob ochr i dramwyfa ganol y llwybr,-rhai ar eu garrau, eraill ar un pen glin a'u pwys ar eu hoffer, eraill yn eistedd a'u coesau ar hyd, pawb a ddiddosben yn ei law, neu wrth ei ochr, yn barod i gyd-ocheneidio a dymuno am nodded y Goruchaf ar eu bywydau yn ystod yr arosiad yn y dyfnder. Dacw Tomos Jones y gaffer yn ganol-bwynt o'ch blaen, ac Evan Griffith a'i wyneb teneu a phlentynaidd yn gwylio'i ysgog- iadau, ac yn barod i roddi chwech neu swllt i'r neb a ddysgai fwyaf 0 benodau. Wele Evan Hopkin a'i olwg sobr, a'i unig bennill Pa le y gwnaf fy noddfa;" Wil- liam Jones a'i "0 Arglwydd, cladd fy meiau;" a Twm Gray a Gweld tyrfa ıı addoli," — pob un yn barod ar archiad y gaffer. Ond ust Dacw fe yn galw ar un i ddechreu r oedfa. Sylwn arno,-dyn byr o daldra, eang o gorff, y ddau benlin yn gwyro ychydig, ac yn egwan yn y coesau gan bwysau'r corff; pan gerdda, sigla'r breichiau a'r cledrau i fyny fel pe yn rhoi help i'w gorff trwm i symud yn y blaen. Ond ei brif hynodrwydd yw y llygaid bach crwn, duon. hardd sydd yn y pen. Pe tremiech am ddiwrnod ynddynt, ni flin- ech; ac ni flinai yntau. Mae wedi eill- io'r gwallt ar y coryn, gan adael twf fel cofadail bychan ar y talcen. Mae'n sefyll ynghudd rhwng dau bost, a dwy ganwyll oleuf dig arnynt uwch ei ben, fel y gall- sai ganfod pawb yn y cwrdd, a hysbysu unrhyw un godai r dôn beth oedd y mesur. ('Roedd y mesurau ar bennau ei fysedd). Dechre di'r cwrdd. Shoni," ebai'r gaffer. Eich ufudd was, mishtir," ebai yntau, gan ddyfod allan o'i guddfan, ni ganwn Marchog Iesu yn llwyddianus.' Pitsha fe, Wil. mesur wyth saith dwbl." Na, pitsha di fe. wsi, mae anwyd arno i," ebai Wil. 'O'r gore." "Breuddwyd Rous- seau oedd y dôn ddewisedig. Dechreu- odd Shoni hi yn y cywair iawn, ond wrtb ymsymud o nodyn i nodyn, cododd y cywair dair gradd yn y swn cyn cyrraedd diwedd yr adran gyntaf. Ychydig a ganai y rhan ganol, ond ar ei diwedd-l t d' 1 s¾- neb yn canu Ond gwarchod pawb Dacw Shoni yn ail gydio yr adran olaf yn