Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Glowyr Mynydtl Newydd. 1859—1860. Myfi yw'r glowr du ei liw Sy'n mynd i lawr, i lawr; I agor cistiau gwerthfawr Duw, Yng nghroth y ddaear fawr; O cofiwch weithiau am fy mhoen, Tra'n twymo gylch y tan, Os aflan yw fy ngwisg a'm croen, Mae gennyf galon lân." 4. ORE oerllyd yw, yn nhyfnder y gauaf. Ni chanfyddir Wodeu- yn na glaswelltyn ar ein ìlwybrau, — ia ar y llynnoedd, ôd ar y glynnoedd, a rhew ar bennau'r bysedd. Dyma ni ar lwybr arall uwchlaw y benlan tua'r lofa y bore hwn, heibio i fwthyn bychan gwyngalchog ar ben Mynydd Cadle. Peidiwn dychrynnu, ni wna'r gwyddau ddim niwed i chwi, fel y gwnant yn y gwanwyn wrth geisio eich brathu â'u pigau. Mae'n rhy oer heddyw, pe gwnelent, fe gydiai Rhys yn eu gyddfau, i'w taflu yn ei ffyrnigrwydd i'r pyllau clai draw acw. Gwichiant, llygad- ant, a nodant eu pennau, dyna'r cwbl. Ar y chwith, o gyrraedd carreg dafl, gwelwn amryw o byllau clai, a gwr yng nghanol un 0 honynt er pump o'r gloch y bore yn crafu pelen fawr 0 glai â'i fysedd, a'i dodi dan y cyseiliau i'w rad-roddi i'r cwrdd gweddi, a'i werthu i'r glowyr i ddal eu canwyllau ar y pyst yn y dyfn- deroedd. Dyn darbodus ydyw ef. Mae'n berchen tyddyn; a deadell fechan wrth y talcen, ychydig wartheg a chaeau, gwraig gynnil a gloewlan, plant hawddgar ac egniol — mewn gair pawb yn y ty a'u bryd ar ddyfod yn gyfoethog. Dyn gochelgar ydyw, medd rhai; dyn call medd eraill. Diau fod y ddau gyfuniad ynddo, oblegid rhifa ddeg bob amser, gan edrych yn graff yn eich llygaid cyn rhoddi atebiad i un- rhyw gwestiwn ofynnwn iddo. Cawn sylwi arno eto yn y lofa. Dywed traddodiad wrthym mai ym- laddfeydd cadarn a ffyrnig yr hen Gymry dewr a dihafal gynt fu'n achlysur i roddi'r enw. presennol ar y mynydd a'r lleoedd o gwmpas. Rhoddwyd yr enw Cadle oherwydd y fantais i ganfod y gelyn yn ymsymud o amgylchedd pum milldir ar hugain i bob cyfeiriad. Ar y goriwaered, Îtua milldir i'r glyn islaw, mae Afon Llan yn rhedeg ar ledgroes, ac yn ymarllwys i'r Llwchwr, yr hon sydd yn ymdroelli tuag yn ol i wyneb yr haul, lIe penderfynodd Dafydd William y Goppa, ar noson ys- tormus, roddi terfyn ar ei fywyd, gan gyf- ansoddi yr emyn anfarwol Yn y dyfr- oedd mawr a'r tonnau cyn cyflawni ei fwriad. Ond ataliodd gras y nef ef, a bu telynau Seion ar eu helw ar ol hynny. Ond yn ol-dicw lechwedd coedfrigog yn ymgodi tu draw i Afon Llan, a phalasdy ardderchog yn ei ganol. Pen- lle'rgâr yw'r enw arno yn awr. Pen lle'r gaer," yn ol traddodiad, lle gwar- chodai ein rhyfelwyr rhag y gelyn. Per- chenogir ef yn awr gan yswain o'r enw Llywelyn. Mae ganddo gan helgi a phedwar i'w porthi erbyn yr haf, pan oll- ynga yn rhydd y rhwym-gadno sydd gan- ddo o flaen cynddaredd y cwn ar y mynydd hwn. Ffydd heb weithredoedd, marw yw yw ei arwyddair,— oblegid mae'n cyn- nal ar ei draul ei hun eglwys, ysgol ddydd- iol, clafdy, a meddyg i r neb a fynno, ac yn sportsman o'r i\wn rhyw. Islaw, ar y chwith, mae Mynydd y Garn Goch, lle y dywedir i laddfa echrydus rhwng y rhy- felwyr a'r gelyn ddigwydd nes pentyrrid y cyrff yn garnedd ar eu gilydd a'r gwaed yn gorlifo parthau o'r mynydd. Yn nes ymlaen i'r dde mae Corseinon, neu Croes Einon yn fwy priodol, lIe dywedir i Einon syrthio, a chodwyd croesgolofn i ddynodi'r fan. Dyna i chwi draddodiadau o enau'r hen bobl, a ydynt yn gyson ag hanes Cymru tybed? Nis gwn. Dyma ni wedi croesi'r Atlantic (y mynydd), chwedl y glowyr, ac yn hwylio ein camrau heibio i dy a ffynnon Pegen Jones, a chyfarch gwell iddi am ganiatau llwybr trwy'r ardd i'r glowyr ddisychedu eu hunain os byddai angen. Ar ben y clawdd, yn nes ymlaen, tery swn tawel ac esmwyth-" Bore da ar ein clustiau. Amaethwr ydyw, — gŵr corffol, llygaid mawr serchog yn y pen yn dynodi hawddgarwch; barf felen a phlu gwyn o eira wedi disgyn ar hyd-ddynt fel barf Aaron gynt, ond mai gwlith oedd ar y rhai hynny ac nid eira; cryman mewn llaw, menyg lledr ar y dwylo. Siaradai