Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o Ddinefwr a lluoedd o Gymry o'i blaid. Bu brwydr ar faes Bosworth yn 1485. Dic wargam, dacw ergyd,-ar ei ben Hyd i'r byw, mewn munyd," felly y gorchfygwyd ac y lladdwyd Richard III. Coronwyd Harri ar faes y gwaed o dan y titl' Harri VII. Yr oedd llwyddiant a dyrchafiad Harri yn ennill anfesurol i Gymru. Njs gellid mwy fychanu yr hil Gymreig. Cododd Cymru ei phen i fyny. Os oedd Cymro yn addas i'r orsedd, onid oedd ei gyd- genedl yn deilwng o ddinasyddiaeth ? Agorwyd drysau rhai o'r trefi Seisnig yng Nghymru i dderbyn ein pobl i gyfraniad o'u breintiau; ond ni agorwyd mo'r rhai hynny yn llydan. Trwy ffafr neillduol, neu trwy draul enfawr, y caem fynediad i mewn iddynt, fel dinasyddion. Edrychid arnom yn ein gwlad ein hunain fel foreigners a gelwid ni wrth yr enw hwnnw, ac nid yw yn anyddorol i feddwl am Betisiwn i'r ucheldra brenhinol Harri VII. oddiwrth holl gyfundrefn bwr- deisdrefwyr tref gaerog a Saesonig Conwy yng Ngogledd Cymru, yn erfyn ar iddo ddiogelu breintiau Conwy a'r trefi Seisnig ereill, a chael gan y Cymry foddloni ar gael mynediad i mewn i naw o'r trefi hynny, nid amgen na Rhuddlan, Dinbych, Harlech, y Bala, Bangor, Pwllheli, Cric- ieth, Nefyn, a Niwbwrch.* Mae y "Lili" yn fy enaid, Eto'n wyn Ac edrycha'r "Rhosyn" tanbaid, Arni'n syn Gwen y "Lili," gwrid y "Rhosyn," Wibiant drwof bob munudyn, Oh mae'r cof yn gryf fel gwanwyn, Am y bryn! Blaenau Ffestimog. Gwyn fy Myd. i Ji). H 'rwy'n cofio'r noson honno, Ar ei hyd, Y dynerlas noson honno, Hardd ei phryd; Cofio am y grug a'r rhedyn, Dyfai'n dewfrith ar y bryncyn, Cofio'r "Lili" cofio'r "Rhosyn," Gwyn fy myd n. Nid wyf yn cael pa un a ganiateid y petisiwn ai peidio. Fodd bynnag yr oedd Cymru yn codi, ac yr oedd budd yn deill- iaw i ni trwy feddiant y Cymro yn y goron. Harri lan, hir lawenydd, Yr hwn a'n rhoddai ni'n rhydd, I Gymru dia fu hyd fedd Coroni gwr o Wynedd." Bychan feddyliodd Iorwerth L, pan y penderfynodd wanhau pennau ein ty- lwythi trwy ganiatau i'r hen drefn o eti- feddu barhau, y buasai un o hil hen fon- edd brodorol ein gwlad yn ei olynu ar yr orsadd. Bychan feddyliodd Owen Glyn- dwr, wedi machlud ei haul, y buasai un o olafiaid ei gynorthwywyr galluocaf a'i gyd- golledwyr truenusaf yn gwisgo coron Lloegr. Collodd Cymru y cais a wnaeth am ysgariad, ond daeth Cymro i feddiant o'r ddwy wlad a fethwyd eu hysgaru. Bu tro ar y rhod, ac os drycinllyd ofnadwy oedd gwawr y bymthegfed ganrif i'r Cymro, ymagorodd tua'i phrydnhawn, a daeth godreu ei nhos i ddisgyn yng nghanol arwyddion addawol o amgenach pethau i ddyfod. Petition of the Burgesses of the Englishe Waled Towne of Conwey in Northwalles to King Henry VII. Ancient and Modern Denbigh, tud. 91. :тτ. Mae y ser a'r coeda'r blodau, Dyrfa fud, Yn fy meddwl yn bernodau Dwfn i gyd: Ond am geinder coch y "Rhosyn," Purdeb crai y Lili glaerwyn, Hwy yw enaid hyn o emyn, Gwyn fy myd D. R. JONES.