Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nhrefn fu o'i flaen. O leiaf nid oeddym mwyach yn ddarostyngedig i fympwy a chynddaredd arglwyddi unigol, na'n gwlad yn frithedig â lluaws o lywodr- aethau. Dygwyd ni o dan un gyfundrefn lywodraethol fawr, eithr nis dygwyd ni eto i gyflawn ddinasyddiaeth cyd-freiniol a'r Saeson. Parhaodd cyfreithiau llethol ac anfanteisiol Harri IV. mewn grym yn ein herbyn o hyd eithr os felly, gwyddom erbyn hynny pwy a pha beth oedd yn llywodraethu arnom. Yr oedd hynny yn gaffaeliad. Yn Llwydlo yr oedd cyrchfan y llys, a byddid yn cynnal ei eisteddiadau yn y dref honno ac yn yr Amwythig ar yn ail. Felly gellir dwedyd i'r ddwy dref hynny ddyfod mewn ystyr yn brif drefi Cymru. Bu yr Amwythig, yn yr hen ddyddiau, o dan yr enw Pengwern, yn brif ddinas brenhin- iaeth Powys; ac wele hi drachefn yn un o'r ddwy dref amlycaf yn ein bywyd. Pa sawl un aeth yno ac i Lwydlo yn nyddiau y llys, i geisio barn ac i draethu ei achos ? Pa faint o bryder fu yng Nghymru drwy- ddi mewn disgwyliad beth a ddeilliai o eisteddiadau y llys yn y trefydd hynny? Bu'r llys mewn grym, serch lleihau o'i ddylanwad gan Harri VIII. yn 1535, hyd y flwyddyn 1688, hynny yw, bu'r llys yn ein llywodraethu am namyn un dau cant ac ugain o flynyddau, a bu'r trefi a ennwyd megis yn brif drefi ein gwlad am yr holl amser maith hwnnw. Nid oedd yn y trefi hynny ddinasyddion na swyddogion Cym- reig ar yr adeg y soniaf am dani. Eithr nid oedd na dinasydd na swyddog Cym- reig yn un 0 drefydd Cymru erbyn hynny. Nid oedd Cymro breiniol yng Nghaernar- fon na Chonwy na Chaerdydd nac Aber- tawe na'r Bala nac Aberystwyth. Nid oedd y fath beth a thref Gymreig o gwbl. Ganwyd fi yn nhref Abergele, a byddwn yn meddwl, yn fy anwybodaeth, fod honno yn hen dref Gymreig. Nid cedd iddi na chastell na chaerau, ond ymddengys mai tref farchnad o greadigaeth Normanaidd oedd, ac yn perthyn i arglwydd y goror yn Ninbych. Yr oedd ynddi naw ar hugain o wyr breiniol. Dyma enwau y sawl oedd- ynt yn byw yno ar yr un pryd ar ddechreu y bedwaredd ganrif ar ddeg,— Thomas Brown, John de Pontefract, Robert de Castleford, Henry Talbot, Wenthlian merch Robert de Borebach, Dionysius Wathe, John de Bourghes, Henry de Jockenhale, Ior. ap Griffud, Adam Arnold a'i fab Robert, Simon de Bache, Elias de Borebathe, William de Doncaster, Richard de Wyrhalle, Robert mab Robert de Pontefract, Llewelli ap Ple., Henry de Clyderowc, Roger de Burches, Agnes de Stratton a Margaret de Clyderowc, Alan de Cravene, Richard de Hoyland.* Byddai ambell i Gymro yn llwyddo megis yn Abergele mewn amserau gynt i gartrefu yn y trefi, ond ar ol amser Harri IV. ni bu hynny yn bosibl am flynyddau meithion. Yr oedd yr Amwythig a Llwydlo, gan hynny, yr un mor dderbyn- iol fel prif drefi i Gymry y bymthegfed ganrif, ag y buasai un o'r trefydd Seisnig oeddynt yng Nghymru. Llesolwyd ni, meddaf, trwy y llys a gododd Iorwerth IV. Dychwelodd mas- nach, cododd gwerth y tir. Cododd cyf- logau. Daeth pwysigrwydd a chyfoeth drachefn i hen fonedd Cymru, eithr nid mwy trwy etifeddu o honynt yr hyn a waghawyd-aeth hwnnw i'r arglwydd gwrogiaethol — ond trwy ddiwydrwydd a chynhildeb, trwy ymroddiad ac ymdrech. Daeth yr arfer Seisnig i weithredu arnynt, ac ni fychanasant eu hystadau mwy trwy eu rhannu yn gyd-radd rhwng eu hetifedd- ion. Daeth ein mawrion i efelychu y Saeson yn hynny, a daethom ninnau i geisio cael derbyniad i'r trefi. Bu farw Iorwerth IV. yn 1483, a bu ei fab Ior- werth V. yn frenin am ryw fis neu ddau. Esgynnodd y dyhiryn Richard III. i'r or- sedd, ond serch iddo freinio trefi Seisnig Cymru ag iawnderau cynhyddol, nid oedd dderbyniol i'n pobl nac i gynrychiolwyr yr hen dylwythi Cymreig. Cynhyrfwyd ni. Bellach yr oedd gwr o waed Cymreig yn uchel ei fri ac yn uwch ei uchelgais. Bu i Catrin, gweddw Harri V., briodi ag Owen Tudur 0 Benmynydd ym Mon-un o hen gyffion bonheddig ein gwlad. O'r briodas honno y deilliodd yr hwn y cyf- eirir ato, sef Harri Duc Richmond. Mab i fab Owen Tudur oedd yr Harri hwn. Crogwyd y Sais ar ei grogbren ei hun. Nid oedd gyfreithlawn i Sais briodi Cym- raes, ond ni ddaeth i feddwl yr awdur- dodau i rwystro Cymro i briodi Saesones. Yr oedd yr amserau yn derfysglyd, ond ­-i dorri y stori yn fer-ymosododd Harri ar frehin Lloegr. Cafodd gynorthwy mawr gan arall, a chafodd gymorth mawr o Gymru hefyd. Daeth Rhys ab Thomas Records of Denbigh, tud. 222.