Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iau llawnder a llwyddiant, eithr nid cym- wys crefydd anian nac ysmaldod ar gyfer gwlad yn nyfnderau trallod a phrofedig- aeth. Daeth newid ar y gân yng Nghymru. Dychwelodd difrifoldeb. Suddodd ath- rawiaethau Wicliff hyd fêr ein hesgyrn,- Minnau o'm dysg a'm hanian Ar lyw yr Ysgrythyr Lân, Gwn gyfraith eiriaeth arab Y Tad, a'r Ysbryd, a'r Mab." Nid oedd gennym amynedd i weled medd- iannau yr eglwys yn cael eu cam- ddefnyddio. Beiwyd esgob, mynach, brawd, ac offeiriad plwyfol,- "Hoyw dda rwysg heddyw'r Esgob Sidan yn gyfan ei gob Gwin a fyn nid gwan ei fâr, Awch a ,geidw a chig adar. Menych tra aml eu mwnai, Breisgion ynt ar eu bras-gig, Brwysgion, a dynion dig: Y brodyr pregethwyr gynt A oeddynt heb dda iddynt, Y maent hwy'n gynt hynt hybeirch, Yn dri 11u yn meddu meirch. Ar ffeiriad yn amled ri, Mae'n arwyntian am renti. Ond os beiwyd y swyddogion eglwysig, gan y bardd, am eu glythni, ei amcan oedd cael ohonynt wellhau eu bucheddau, ac nid creu eiddigedd tuagat eu meddian- nau. Mae'n deg i'n ddegymu'n dda," ebe efe mewn man arall. Yr oedd yn galed iawn arnom yn ein prinder dwys i gyfarfod galwadau yr eglwys. Ond ni waeth pa mor fawr oedd ein tylodi, teimla y bardd, ac yr oedd ei deimlad yn arwydd o deimlad y wla.d,- Y sydd, a fydd ac a fu, Dda gwamal heb ddegymu, Dyna dda'n dwyn dyn i ddiawl, A drwg iddo'n dragwyddawl. Rhown ddegwm, rhan ddiogel, A gwn fe g'aiff nef ai gwnel." Yr oeddym ni, meddaf, o dan ddwfr, ond yn araf daethom i adennill y llwydd- iant a gollwyd. Aeth Lloegr hefyd rhagddi, a bu flynyddau lawer yn rhyfela yn erbyn Ffrainc. Enillwyd brwydr Agin- Sion Cent. court. Cododd Joan o Arc. Bu Harri V. a Harri VI. yn gorseddu. Yn nheyrnasiad Harri VI., dechreu- odd y rhyfeloedd cartrefol hynny a elwir Rhyfeloedd y Rhosynau. Cymerodd ar- glwyddi ein gororau ran flaenllaw yn- ddynt; a llusgasant ein pobl, goreu y gall- ent, i'r amrafaelau hynny, i gymeryd rhan y naill blaid neu'r llall, yn 01 tuedd yr ar- glwydd lleol. Trechodd plaid y rhosyn gwyn, sef plaid Efrog. Bu terfyn, trwy hynny, ar l'in y trachwantus Harri IV. fel brenhinoedd, a daeth un o ach amgen- ach, sef Iorwerth IV., Iarll y Goror ac etifedd y Mortimeriaid, i'r orsedd. Parhaodd yr ymrafaelion, ac yr ydys yn cael i rai o arglwyddi y gororau wrth- sefyll y brenin newydd. Eithr nid oedd Iorwerth IV. yn ddyn i chwareu ag ef. Anfonodd Iarll Penfro, gyda byddin enfawr, i ddifrodi Arfon a Meirion er mwyn dial ar arglwydd gororol gwrth- wynebus iddo. Harddlech a Dinbech, pob dôr-yn cynneu, Nant Conwy yn farwor, Mil pedwar cant oediant Iôr A thri 'gain ac wyth rhagor." Dyna fu canlyniadau ymgyrch y fyddin honno ar ein gwlad, a dyna'r flwyddyn y digwyddodd. Yr oeddym cyn hynny wedi bod am ysbaid yn magu nerth ac yn adferu llwydd- iant. Taflwyd ni yn ol. Yr oedd cyflwr y Gogledd yn dorcalonnus; ac nid rhyfedd, gan hynny, i'n gwlad hawlio ac ennill sylw y brenin ac iddo wneuthur cais i'w gwella. Bu ei henafiaid yn gysylltiedig â'r dywysogaeth am oesau. Yr oedd yn un o arglwyddi y gororau ac yn dra chyf- arwydd â thraha y bodau hynny. Gwyddai pa mor gryfion a gormesol oeddynt. Teimlodd rym gelyniaeth rhai 0 honynt tuag ato ei hun. Mynnai y brenin leddfu sefyllfa Cymru, a gwyddai mai nid trwy adael i arglwyddi y gororau barhau i weithredu fel y mynent y sicrheid hynny. Felly creodd, yn y flwyddyn 1469, y sefydl- iad grymus ac enwog hwnnw a elwid Llys Cyngor ac Arglwydd Lywydd Gororau Cymru, i lywodraethu arnom. Yr oedd i'r llys hwnnw, heblaw yr Ar- glwydd Lywydd, is-lywydd, prif farnwr, a llawer o aelodau pwysig a dylanwadol er- eill. Bu rhai o oreugwyr Lloegr yn perthyn iddo o dro i dro, a bu'r llys o fudd tramawr i Gymru, hynny yw, o'i gydmaru a'r an-