Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

plwyfol yn hyawdl o'i deyrngarwch i gof- iant yr hen waddolwyr Cymreig, ac yr oedd ei ddymuniad am ddadgysylltu yr eglwys yn orlawn, o gyfrwysdra gwleid- yddol. Ceir son am ei ffafr i'r Brodyr Llwyd- ion, a cneisir gennym feddwl fod rhyw swyn eithriadol yn eu hathrawiaethau hwy i'w fynwes. Os oedd gwahaniaeth o gwbl rhwng athrawiaethau y brodyr hynny ac eiddo eu cyd-grefyddwyr-yn eu sel at offeiriadolaeth yr oeddynt yn rhagori. Y £ wir yw, parhaodd y Brodyr Llwydion yn dueddol i bab Avignon, ac felly daethant yn bartiol i Owen, ac Owen iddynt hwythau, oblegid fod amcan cyffredin gan- ddynt. Trwy fabwysiadu achos pab Avignon enillodd Owen gyfeillgarwch brenin Ffrainc. Daeth milwyr o'r wlad honno i'n cynhorthwyo. Daeth mwy. Trodd Hotspur o blaid ein hantur, ond goddi- weddwyd a gorchfygwyd ef a'i fyddin enfawr cyn cyrraedd o honynt Gymru ai bwys tref yr Amwythig. Aeth y rhyfel rhagddi. Nid oedd dim yn gysegredig rhag dinistr, na nemawr ddim yn rhy gadarn i'w ddymchwelyd. Ni ddifethodd neb wlad yn fwy llwyr nag y difethodd Owen ei wlad ei hun. Yr oedd gan- ddo reswm dros wneuthur hynny, sef gwneuthur o honi yn wlad lle nas gallasai ei elynion fyw arni. Diffyg lluniaeth oedd penbleth tragwyddol yr ymosodwyr. Ar ei bol yi oedd byddin y pryd hynny hefyd yn symud, ac nid oeddys wedi dysgu casglu a chludo ar gyfer rheidiau parhaol dynion ac anifeiliaid. Ond nis gallasai y cynllun o ddifetha y wlad er mwyn rhwystro y gelyn barhau byth. Yr oedd yn myned yn wannach yn feunyddiol. Collasom nerth; collasom hyder; bu Owen Glyndwr farw yn 1415. Yr oedd ein gwlad wedi ei niweidio yn aruthr. Pwy all rifo ei doluriau, neu fesur ei chyfyngderau? Daeth gwae arnom, ond ni ddaeth cywilydd. Gwnaethom ymdrech gyfiawn a chaled, ond fe'n gorch- fygwyd. Nid anymunol oedd gweled lluaws o'r cestyll estronol yn garneddi a'r aneddau caerog yn anghyfannedd; ond pa Gymro all feddwl yn ddi-drist am eglwysi cadeir- iol a phlwyfol ei wlad-Iawer o honynt- wedi eu gwneuthur yn un a'r llawr? Pwy nas tywallt ddeigryn uwch ben Cor llawn fynor Llanfaes wedi ei orchuddio gan adfeilion yr adeil- adau fuont gynt uwch ei ben? Pwy all ymorfoleddu Ger mur Ystrad Fflur, a'i phlas wedi ei losgi â thân, neu ar bwys hen gar- tref bonedd Ai neuadd fawr falch, galchbryd wedi myned o hono yn adfail? Pwy all lai na gofidio wrth weled y dolydd a ddi- ferasant frasder ddyddiau fu, y bryniau a wisgwyd â defaid, a'r dyffrynnoedd a or- chuddiwyd ag yd, wedi myned yn ddyrys- goed o eisieu triniaeth? Ceir y Boeriaid yn cwyno oherwydd yr hyn a ddaeth iddynt, eithr nid oedd Lloegr, ddechreuad y bymthegfed ganrif, wedi dysgu bod yn hael tuagat ei gwrth- wynebwyr. Ni chawsom ni gymaint a cheiniog ganddi i adferu yr hyn a ddi- nistriwyd. Gadawyd ni yn ein gwendid a'n tylodi i ofalu drosom ein hunain, goreu y gallem, o dan sodlau arglwyddi y gor- orau. Edrychaf ar yr adeg honno fel y fwyaf truenus yn ein hanes. Gwae, colled, gor- mes a ddaeth arnom. Soddasom mewn tom dwfn, lle nid oedd sefyllfa., daethum i ddyfnder dyfroedd a'i ffrwd a lifodd trosom;" "Disgwyliasom am rai i dos- turio wrthym, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chawsom neb." Ond nid oedd Cymru heb wybod i ba gyfeiriad i droi yn nydd ei phrofedigaeth. Ebe bardd y cyfnûd,- Edrych yn fynych, f'einioes, Ar Grist, a'i gorff ar y groes, A'i fron, a'i galon i gyd, A'i wiw-dlws gorff yn waedlyd A'i draed mewn diriaid gur, A'i ddwylaw yn llawn o ddolur. Profais yn rhwydd arglwyddi Tlawd, cyfoethog, rhywiawg rhi; Nid cywir gradd o naddyn Nid oes iawn gyfaill, ond Un. Trodd Cymru at y Cyfaill hwnnw pan oedd "Ar drai, heb na thai na thir. Bu ysgafnder Dafydd ab Gwilym ac anianyddiaeth ei syniadau crefyddol mor dderbyniol ag oeddynt o ddoniol yn nydd- Sion Cent.