Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

swydd o ymddiriedaeth. Gwnaed pobl y parthau yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg heddwch neu gywirdeb ynddynt. Gosod- wyd y treuliadau ynglyn ag adferyd caerau a ddrylliasid ar gefnau y Cymry. Gomeddwyd i'r bobl ymgynnull ynghyd yn dorfeydd. Penderfynwyd na fyddai i wir Gymro hawl i brynnu tir na thir yn un o drefydd caerog ein gororau, nac mewn un dref arall o fewn cyrraedd iddynt. Gwnaed hi yn amhosibl i Gymro ddyfod yn ddinasydd o unrhyw dref, ac 03 oedd yn ddinasydd eisoes, gosodwyd gor- fod arno i ddwyn meichiau am ei deyrn- garwch i'r brenin, ac ni chai ddal un swydd na chario arfau. Ymhellach, penderfynwyd os lladrat- asai Gymro dda corniog Sais, ac os na ad- ferid hwy o fewn wythnos, fod y Sais wrth ei ryddid i ladrata eiddo y Cymro. Nid gwiw mwy eistedd mewn barn ar Sais ar gais Cymro, namyn o flaen Ustusiaid Seis- nig. Nid cyfreithlawn cludo arfau na lluniaeth i Gymru; ac yn olaf, gwae fyddai i'r Sais a briodo Gymraes. Yr oedd Lloegr, gan hynny, o ddifrif ac yr ydys yn cael i Hotspur, mab Iarll Percy, gael ei wneyd yn ben-llywydd ar y cestyll a'r galluoedd Seisnig yn y Gogledd. Daeth arglwyddi y gororau allan yn llu yn erbyn Owen. Daethant o bob cyfeiriad- Mortimer, De Grey, De Lacy, ac ereill. Beth oedd pen tylwyth Cymreig i'w gwrth- sefyll hwy? Ni fanylaf. Daeth De Grey yn fuan i deimlo grym dyrnod Owen. Gwnaed ef yn garcharor a chafodd egwyl i edifarhau am ei draha yng nghell dy- well castell Dolbadarn. Pwrcaswyd ef ar draul enfawr gan y Saeson, a threuliodd weddill ei ddyddiau mewn dinodedd a thy- lodi mawr. Daeth Edmund Mortimer, ewythr gwir etifedd coron Lloegr, daeth yntau hefyd i'r ddalfa. Ni wnaed cais i'w brynnu ef yn rhydd a bu hynny yn dramgwydd i'w gyfeillion, ac yn ffrwyth- lawn o ganlyniadau. Gadawyd Edmund yn garcharor a daeth i edmygu Owen, a phriododd ei ferch. Nid oedd cestyll mawreddog Arfon gadarned ag i gadw Owen draw. Torrwyd i mewn i gastell Conwy, ac yn aflwyddiannus y bu cais Hotspur i ennill y dydd. Yr oedd chwaer Edmund Mortimer yn wraig i Henry Percy, ac felly trwy briodi o Edmund ferch Owen, daeth cysylltiad priodasol rhwng Hotspur a gwron Cymru. Gofidus iawn ar y dechreu oedd gan Hotspur feddwl i'r fath ymdrech gael ei wneuthur i ryddhau De Grey, ac i ddim gael ei gyflawni er rhyddhau ei frawd- ynghyfraith. Fodd bynnag, o herwydd y naill beth a'r llall, mynnodd Hotspur roddi ei swydd yng Ngogledd Cymru i fyny, ac efe a ddychwelodd i dy ei dad. Aeth y rhyfel rhagddi flwyddyn ar ol blwyddyn. Daeth Owen i feddiant o gastell Harlech, a galwodd Senedd Gym- reig ynghyd. Bu ei Senedd yn eistedd yn Harleoh, yn Nolgellau, ac ym Machyn- lleth. Daeth amcanion Owen yn hysbys. Yr oedd ei fryd ar gyrraedd Cymru anibyn- nol. Hiraethai am ddyrchafu ei genedl drwy godi athrofâu-y naill yn y Deheu- dir a'r llall yn y Gogledd. Dymunai dorri y cysylltiad oedd rhwng yr eglwys yng Nghymru ag eiddo Lloegr; a dymunai hefyd weled yr hen waddoliadau Cymreig, y rhai a aethant i grombiliau y mynach- logau, wedi eu hadfer i'w hamcanion cyntefig. Yr oedd Owen, gan hynny, yn ddad- gysylltwr, ond nid oedd yn ddadwaddolwr. Ac nid oedd Owen heb ei reswm mawr dros y dadgysylltiad. Onid oedd dau bab? Onid oedd brenhiniaeth Lloegr wedi troi cefn ar bab Avignon, gan wynebu at y pab oedd yn Rhufain? Onid oedd gelynion Lloegr, sef Ffrainc ac Ysgotland, yn par- hau yn ffyddlon i bab Avignon? Onid oedd gan y pab, ni waeth pwy neu pa Ie yr oedd, ryw allu yn aros ? Ac os oddi- wrth yr un pab a brenin Lloegr y disgwyl- iasai Owen am nawdd a phorth, yr oedd pob hanes yn llefaru mai y cryfaf neu'r mwyaf ei roddion a gawsai ffafr ganddo. Byddai myned at yr un pab a'n gelyn yn ffolineb, ac nid oedd Owen yn ffol. Aeth Owen at y pab oedd elyniaethus i Loegr, ac oherwydd fod eglwys Lloegr yn dueddol i'r pab newydd yn Rhufain, dymunai Owen weled yr egdwys yng Nghymru wedi ei rhyddhau oddiwrth eglwys Lloegr, er mwyn iddo ei gosod wrth gwt y pab yn Avignon. Yr oedd amcan Owen i ddyrchafu ei genedl yn glodwiw dros ben, ac yn awgrym- iadol o'i gariad tuag ati ogystal ag o'i ddoethineb. Yr oedd ei gais am anibyn- iaeth ei wlad yn beth hollol gyfiawn ynddo ei hun, ac yn beth i'w lwyr ddymuno o dan yr amgylchiadau. Yr oedd ei awydd i ddwyn yr hen waddol yn ol i'r eglwysi