Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Collir Dydd ac Ennill Coron. G.yn Y PARCH. T. J. JONES, M.A., GELLYGAEB. O, fe gododd rhai o bennau y tylwythi fel cacwn, ac yr oedd un o'r enw Gruffydd ab Dafydd yn peri poen dirfawr i'r awdurdodau estronol yn y Gogledd. Gwr byrbwyll ydoedd. Doeth yw "eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul," ac yr oedd y doethineb hwnnw ym meddiant Owen Glyndwr. Yr oedd yntau yn teimlo, ac yn teimlo, wrth reswm, yn fwy angerddol na neb arall, yn gymaint ag mai arno ef y disgynnodd yr ergyd fawr oedd a'i ham- can i chwilfriwio iawnderau ei gyd bennau tylwythol. Ond yr oedd Owen yn ym- ddangos daweled a'r bedd. Yr oedd y teimlad cenedlgarol yn ferw trwyddo,­+nid trwy unrhyw dân 0 enau y beirdd fel y maentumia rhai, ond oher- wydd, fel y sylwasom, niweidio y bonedd teuluol i'r byw, Na, na, nid bardd yn canu Y cais a wnaed i'w llethu Gyneuodd dân trwy Gymru fu 0 blaid iawnderau'r teulu. Berwodd y teimlad dros yr ymylon yn y mannau mwyaf Cymreigaidd o'r wlad, ac yr oedd De Grey mewn penbleth dirfawr yn ei gylch. Aeth tua'r Eryri i geisio dar- ostwng yr aflonyddwyr oedd yno, ond ni thyciodd ddim. Edrychai ar arwyddion allanol y cynnwrf, eithr nid oedd ganddo lygaid i weled pa mor ddyfnion oedd y gwreiddiau. Peth rhyfedd yw teimlad pobl. Byddaf yn meddwl ar dro fod syniadau dynion yn rhedeg megis ag y mae y gwythieni glo yn rhedeg trwy'r ddaear-y naill blyg ar wahan i'r plyg arall. Gall dyn fod yn hyddysg yn syniadau ei gydraddwyr, ac eto yn hollol anwybodus 0 eiddo y sawl a droant mewn cylchoedd uwch neu is nag ef. Mor ddirgel i'n pobl, onide, oedd bryd yr Indiaid cyn gwrthryfela o honynt i'n herbyn Ystyrier y môr Llawn o dwyll yw ei wên deg." Gall fod felly gyda dynion. Bu felly yng Nghymru. Od oedd rhyw gyffro cydmarol o fychan yn Arfon draw, ni feddyliodd De Grey y gallesid yn Rhuthyn Y don flin, erwin, orwyllt, Effro'i naws, gyffro ai 'n wyllt, Nes ydoedd yn arswydaw Pob bron, llenwi pawb a braw. Gwelodd De Grey luosogi pabau a newid brenin, bu yn foddion ei hun i newid ein trefn dirol, ond ni ddaeth i'w fryd fod cais ar droed i newid teyrn ar Gymru. Nid oedd gyfarwydd â dyhead y bobl, nac yn gwybod fel y rhoddwyd llafar i hynny gan y bardd, Mynych iawn y dymunais, Cael arglwydd, llawn arwydd llain O honom ni ein hunain."t Daeth yn ddydd ffair yn Rhuthyn. Gwyddom eisoes y fath beth oedd ffair ar y pryd. Yr oedd pobl y wlad gylchynol yno yn finteioedd yn ol eu harfer. Yr oedd Owen Glyndwr yno hefyd. Nid oedd De Grey gartref. Daeth yr awr. Wele y dyn. Cododd Owen ei luman mewn gwrthryfel yn erbyn y treiswyr estronol ac o blaid rhyddid ei wlad a diogeliad iawn- derau y tylwythi Cymreig. Gwir fod y Cymry yn bartiol i achos Richard II., eithr nis gallasai hynny fod yn achos di- gonol i beri iddynt weithredu fel y gwnaethant. Dinistriwyd Rhuthyn, a gwnaeth Owen ymgyrch ar diroedd a chastelli yr Amwythig. Yr oedd y sefyllfa yn un ddi- frifol. Yr oedd Harri frenin yn llawn ei helbul yn yr Ysgotland, ac nid oedd heb helbulon gartref. Yr oedd disgyblion Wicliff yn poeni yr awdurdodau eglwysig. Nid oedd tymer y Sais wedi cyrraedd at ryddid cydwybod. Pasiwyd deddf sen- eddol i losgi y neb a gaed yn gam ei gred, hynny yw, a'i gred yn groes i'r offeiriadol- aeth anheilwng oedd mewn bod ar y pryd. Ond, nid oedaf. Daeth cyflwr Cymru i sylw y Senedd ar yr un adeg. Galwyd ar arglwyddi cestyll ein gwlad i'w gosod mewn cywair diogel. Nid oedd Cymro o gwbl i ddal Caledfryn. t Iolo Goch.