Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIRA NADOLIG. MТАЕ'R eira'n oer ar fryniau wlad A'r Baban bach yng ngofal Mair Ym mhell o gynnes gôl ei Dad A ryna, gryna yn y gwair; Mi wn y mynnit, forwyn dlawd, Ei rwymo Ef mewn llian drud, I gadw'n lân ei sanctaidd gnawd, A phalm Paradwys iddo'n gryd Mae'r eira'n oer ar fryniau'r wlad, Ond oerach calon hen y byd, Nid oes i anwyl Fab y Tad Ond oerni'r nos o hyd, o hyd. Mae'r eira'n wyn ar fryniau'r wlad, Ac 0, mor wyn y bach di-nam,­- Y mae ar ddelw deg ei Dad, A lliw ei groen sydd fel ei fam, Ond glanach yw y Mab na hi, Mae Ef mor bur a'r Ysbryd Glan Ddi-halog un yr ydwyt ti Gan gwynnach na'r gaen eira mân Mae'r eira'n wyn ar fryniau'r wlad, A gwynna calon hen y byd, O, Gymru Wen ga mab y Tad Dy fryniau di yn gartref clyd? A F allan ben bore, yfory; Mae 'fory'n ddiwrnod gwyl,- Caf ddringo'r llechweddau, yfory, Mewn iechyd, a hoen, a hwyl. Bydd gwylied y wawr yn ymsymud Draw, draw i orllewin byd, Yn bleser digymysg yfory,- Mae'r wawr mor newydd, o hyd. Caf glywed yr adar, yfory, Yn canu'n ddiofid, glir; Caf wrando alawig, yfory, Ddisgwyliais dymorau hir. Fy llygad gaiff dawel ymorffwys Ar wrid, neu felyn, neu gann, Y chwiliais am dano'n ofer Hyd heddyw mewn llawer man. Caf weled blodionos bach heddyw Mewn tlysach siriolach gwedd Yfory, a'u dull ffri, di-rodres, Cu, tawel yn sisial "Hedd." Yfory, caf weled nas gwelais- Ei weled a'm dena i'r daith, Blodeuyn o'r mewydd yn agor Fel cyfrol mewn newydd iaith. Caf weld y dalennau'n symud, Caf ddarllen ei hynt i gyd, A dysgu priod-ddull newydd I hen iaith y bore fyd. Yn wir, mi freuddwydiaf heno, Yn honno, ein heniaith ni; Pwy wyr nad yn honno caf wybod Beth berthyn blodionyn i mi. Tudalen o Ganeuon. Ap CBREDIGION. YFORY. T. J. CTNFI. SWN EI THIiOED. Adwaenwn gwn yn gynnil Ei throedlam brysg ymysg mil." D. ab Gwilym. i. A'M mae swn yn deffro adgof Fwy na.g arall ddim o'r bron? Pa'm na thrig distawrwydd angof Yng nghudd-fannau'r fynwes hon? Pam er llithro blwyddi heibio Na chaf eto rodio coed Heb i siffrwd dail yn syrthio Wneyd im' gofio swn ei throed? II. Pa gyfrinach, pa ddirgelwch Oedd a barai'n gwynfyd mwyn? Beth nefolai'r hwyr dawelwch Pan y cwrddem yn y llwyn? Dim ond teimlad cynta'r cread Cariad ieuanc fel erioed,- Hyn enynnai'r brwd ddyhead Wedi clywed swn ei throed. III. 0 'rwy'n cofio'r melus ddisgwyl Dan y dderwen, gyfnos Mai, Cofio'r dawel, dawel egwyl, Cofio'r chwaon peraidd, chwai, Cofio syllu i'r cysgodau Man lIe cwrddai llwybrau'r coed, Ac anghofio pob trallodau Wedi clywed swn ei throed. IV. Yma heno'n araf rodio 'Rwyf ynghwmni Adgof prudd, Cyfnos Mai, a'r llwybrau'n gwlitho,- Ac mae gwlithyn ar fy ngrudd: O fy Ngweno o'r cysgodau Byth ni ddaw i gadw oed Uwch ei mynwes tyf y blodau, Minnau'n disgwyl swn ei throed. E. F. "COCHFARF" Y CYMRODOR, A MAER NEWYDD CAERDYDD. YMAER ydyw'n prif Gymrodor-heddyw Haeddol wr o gyngor; Ei ddiwyd oes yn ddi-dor-gyflwyna I'r wlad a gara, drwy led ei goror. Gyda y Maer daw ei Gydmares-deg A'i dawn dania'n mynwes; Idd ei llaw daw llwydd a lles—plant Cymru. I'w dwyn i ,ganu heb daw yn gynmes. Caerdydd. T. LOVELL.