Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AMCYLCHOEDD RHUFEINIG CAERLLEOX AR WYSG. Yn dangos y mannau y cawd pethau Rhufeinig. aeth y mab am farwolaeth y fam yn yr oedran têg o 75 o flynyddau. VI. DIWEDDGLO. Llawer cenedl sydd wedi bod yn rheoli yng Ngwent fel yr wyf wedi sylwi, y rhai a adawsent eu henwau megis am ysbaid fer, eto nid oes ond ychydig iawn o'r enwau hynny mewn arfer heddyw. Yr hen Gymraeg neu lygriad o honi, biau'r enwau nodweddiadol ymhob rhan o'r sir. Saif gweddillion yr hen gestyll cedyrn yn golofnau tarawiadol i gofio am y goresgyn- iad Normanaidd, ond fe saif enwau yr hen gestyll yn golofnau byw i barhad y Gym- raeg, ac mai Cymry fu yr aohos goddefol iddynt gael eu hadeiladu. Yr un modd fe saif yr hen orsafoedd ac amddiffynfeydd yn dystiolaeth i awdurdod orthrechol y Rhufeiniaid, ond mae'r enwau Lladinaidd wedi myned i ebargofiant bythol, fel cyf- ryngau llafar, hyd yn nod i'r genedl sydd mewn awdurdod heddyw yn ein hynys- oedd. Mae yn amhosibl rhoddi hanes yr un o'r cenhedloedd hyn yng Nghymru heb gy- mhlethu â'i hanes wrhydri a chenedlgar- wch ein hynafiaid Brythonaidd, a bydd ein hanes ni fel cenedl fechan ddiymhongar yn aros, tra bydd llenyddiaeth oreu y can- rifoedd diweddaraf mewn bod. Tra bydd Spenser, Dryden, Shakspere, a Milton, Goethe, Tennyson, Mathew Arnold a Swinburne yn cael eu darllen a'u hefrydu, yna cawn y bydd ein hanes ni fel Cymry yn byw, am fod elfennau bywyd ser dis- gleiriaf llenyddiaeth Teutonaidd yr oesau, yn ymddibynu am eu bywyd a'u parhad ar y ffeithiau, yr hud a lledrith, a gawsant yn hanes hen draddodiadau y Cymry. Hawdd yw dweyd gydag Islwyn wedi taflu trem ar hanes Gwent,- "O Gymru 'rwy'n caru cysgodion dy fryniau, Fel cdyn tragwyddol amrywiog eu lluniau, Mi dybiwn fod engyl i'w gweld yn dy wybrau Ac ol eu hymweliad yn gwynnu dy lwybrau, Mae adsain cref anthem yr hen ddiwygiadau, Hyd heddyw yn nofio hyd froydd fy nhadau. Dyma rodd i'r byd ei mawrhau,-enwog Rodd o odidog draddodiadau. Hen Gymru oedd enwog am wir ddoniau, Mwy ni fu Athen am hynafiaethau, Aruthredd didor, a thraddodiadau, Awenol aniaeth, a gwronawl enwau Mawredig gymeriadau-fal ser pur I lawr hyd Arthur ar asur oesau. "Mawr drysor y Cymry droswyd,-eu llên I'r byd llwm drosglwyddwyd, A thrwyddo llawn waith roddwyd I'r meddyliol nerthol nwydl"