Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o drwch. Ond yr hyn a'm synnai fwyaf oedd rhagoroldeb y cymrwd, yr hwn oedd wedi ei fritho â darnau mân 0 briddfeini. Yr oeddwn yn sylwi y dydd o'r blaen ar weithwyr yn gwneyd concrete, i fod yn sail i ran o'r adeilad a ffurfia ychwanegiad at fy ysgol. Rhywbeth yn debyg y tyb- iwn i y gwnai yr hen Rufeiniaid eu mur- iau, ond gydag anrhaethol well defnydd- iau nag sydd mewn arferiad yn awr. Y mae meini gwyneb y mur wedi eu cludo ymaith, medd yr hynaf o'r brodorion, peth ohonynt yn ei amser ef, i wneyd yr adeil- adau presennol yn nhref Caerlleon. Dywed haneswyr wrthym mai y Vitruvian method" o adeiladu oedd mewn bod yn nyddiau y Rhufeiniaid. Y mae hen eglwys St. Catwg yn sefyll ar olion yr hen deml baganaidd, oedd yn gysegredig i'r dduwies Mithras, duwies ffawd y Lladinwyr. Y tu fewn i'r gangell, flynyddau lawer yn ol, fe ddeuwyd o hyd, wrth gloddio, i allor Rufeinig ac arni yn argraffedig mewn Lladin, I'R Dduwies Mithras." Yn agos i'r un man, fe ddar- ganfyddwyd maen hir caboledig, ac arno yn argraffedig y geiriau canlynol,- IMPERATORES CÆSARES L SFPTI MIVS SEVERVS AVG ET septimvs ORRVPTVM Dywed Mr. J. E. Lee, F.S.A., fod y maen yma yn brawf diymwad fod yma deml fawr Baganaidd yn sefyll, lIe mae eglwys St. Catwg yn sefyll heddyw, a'i bod wedi ei hadferyd neu ei hail-adeiladu gan yr Ym- herawdwr Severus a'i fab Septimus. Y mae y gair orrvptvm, medd ef, yn ysgrifen- iadau y cyfnod hwn, yn cyfleu yr un meddwl a'r gair restituerent, y Lladin pre- sennol am ailadeiladu. Tuallan i fur y wersyllfa, y mae olion yr hen chwareudy-yr Amphitheatre,­~a elwir gan bobl y lle yn Ford Gron y Brenin Arthur." Paham felly mi adawaf i chwi dynnu y casgliad a fynnoch. Yr oedd yr awydd am chwareuyddiaethau, o natur y rhai a gymerent Ie mewn adeil- adau o fath y rhai hyn, yn elfen lywodr- aethol yng nghalon y Rhufeiniwr; oblegid ym mhob gorsaf bwysig o'r eiddynt, y mae olion rhywbeth tebyg i'r un a geir yng Nghaerlleon. Yn anffortunus, y mae treigliad amser, 1800 o flynyddoedd, gyda'r elfen ddinistriol a lywodraetha y natur ddynol yn gyffredinol, heb adael dim o'r chwareudy ond y ceugafn crwn sydd yng nghanol Maes Bord Gron Arthur i'n hadgoffa am dani. Tystiolaetha Gildas fod peth o'r muriau yn sefyll yn ei ddydd- iau ef; ac y mae awdwr y "Secret Memoirs of Monmouthshire," yn 1706, yn dweyd fod darnau anferth o freestone caboledig wedi eu dadorchuddio ar y tu dehau i'r chwareudy, a dywed ef mai seil- iau y mur oeddynt. Gelwir y maes yr ochr arall i'r Broadway, yn Maes Ty yr Eirth," a gyfenwid felly mae yn debyg am mai yma y cedwid yr anifeiliaid oedd i gymeryd rhan yn y chwareu. Y mae y darnau o arian sydd wedi eu darganfod, ym mhob man yn y gymydog- aeth, i'w rhifo wrth y cannoedd. Yma cewch arian bathol (coins) mawr a bychain o bob math, a gynrychiolant bob teyrnasiad Rhufeinig o'r flwyddyn 54 hyd y flwyddyn 449. Cewch yma coins o deyrnasiad Claudius, Nero greulawn, Otho, Vespasian, Titus, Domitian, Trajan, Hadrian, Severus. Honorius, y Frenhines Helena, Carausius ac Allectus. Un o'r darganfyddiadau mwyaf dy- ddorol, yw y eemetery Rufeinig, dipyn o bellder y tuallan i furiau y ddinas, ar yr ochr arall i'r afon Wysg oddiwrth y gwer- syll. Saif olion y gladdfa hon ar dipyn o lechwedd, ar y fferm a elwir Bullmoor. Yma, ddydd ar ol dydd, ddeunaw canrif yn ol, y llosgid y marw, yna dodid y lludw gyda gweddillion yr esgyrn, mewn llestri o bridd neu o wydr, a elwid yn urnæ—y mas dwy o'r urnce yn berffaith gyfan i'w gweled heddyw yn yr Amgueddfa. Yna c'eddid yr urnæ yn cynnwys y gweddill- ion yn y pridd yn y gladdfa hon. Yr oedd gan y Rhufeiniaid, cofiwch, lawn cymaint o barch i'w marw ag sydd gennym ninnau i'n marw, oblegid cawn eu bod yn cadw coffa am danynt drwy argraffiadau ar feini mawrion, fel y gwnawn ninnau. Y mae yn yr Amgueddfa un garreg ac arni yn ar- graffedig yn Lladin, er coffadwriaeth am foneddiges, Caesaria,, wedi ei gosod gan ei gwr a'i thri mab. Ail un a ddywed fod Julia Vineria wedi marw, a bod ei gwr a'i mhab yn hiraethu am dani. Cofnoda try- dedd cofadail hiraeth mam am ei hunig ferch. Y mae pedwaredd carreg yn cadw mewn côf un o hynafiaid yr ail leng, am yr hwn y dywedir vixit annis centum," h.y., ei fod wedi byw gan mlynedd dywed ymhellach fod y garreg wedi ei hadeiladu gan ei weddw a'i fab. Hefyd wrth ei hochr y mae carreg arall yn dwyn tystiol-