Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EDI i'r Rhufeiniaid wneyd eu sefyllfa a'u hawdurdod yn sicr ac yn ddiogel, cawn eu bod yn ymroi ati i adeiladu y ddinas â meini a chymrwd, oblegid yr oedd yr hen dref fel ei hadeiladwyd gan yr Esyll- wyr yn dra thebyg o fod yn gyfansoddedig o goed a gwiail, wedi eu dwbio â chlai. Ond y mae yr ail leng Augustaidd, yn eu hawydd am gael dinas iddynt eu hunain, yn ei hadeiladu ar ffurf a ohynllun Rhufain, brenhines y byd, gyda'i chwareudai mawr- ion, temlau gorwych i'r duwiau paganaidd (nid oedd y Rhufeiniwr swyddogol eto yn credu yng "ngwaradwydd y Groes"). ymdrochfeydd, plasdai ysblenydd i'r rhag- law a'r prif swyddogion, villae (gwlat-tai) i'r is-swyddogion gwersyllfa fawr gwm- pasog i'r milwyr cyffredin, gyda'u gwrag- edd a'u pla,nt. Y mae olion yr holl bethau hyn i'w canfod heddyw, a rhaid cofio fod mwy o olion Rhufeinig yng Nghaerlleon, nag odid un lle arall yn y deyrnas yma. Y mae Iolo Morgannwg yn ei ysgrifen- iadau-yr Iolo MSS.-yn coffau yn ei ffeithiau hanesyddol, o dan y flwyddyn 242, Gorffen adeiladu dinas Caerlleon a meini caboledig." Y mae hynny felly ryw ychydig dros 150 o flynyddau ar ol gorch- fygiad Britannia Secunda, fel y gelwid Cymru gan y Lladinwyr. Fe ddywed Giraldus Cambrensis (1185 o.c.) yn y ddeuddegfed ganrif fel hyn am y lle,— Y mae lluaws mawr o weddillion yn aros o'i mawredd cyntefig, megis y plas-dai ysblenydd gyda'u nennau euraidd, a gystadleuent mewn gor- wychder â phalas-dai mawrion Rhufain ei hun, oblegid fe'i hadeiladwyd hi gan y tywysogion Rhufeinig. Y mae yma dŵr aruthrol o uchel, ymdrochfeydd neu faddau cynnes yn gywrain ryfeddol mewn gwneuthuriad olion o'r temlau mwyaf godidog, a chwareudai eang wedi eu ham- gau a muriau rhagorol, y rhai ydynt heddyw mewn sefyllfa pur gadarn. Tufewn a thuallan i amgylchedd y muriau, y mae adeiladau tan- ddaearol, agueducts, a rhodfeydd cysgodol. ac hefyd yr hyn yr wyf yn ei deimlo sydd yn werth sylw arbennig, stores o wneuthuriad mor gywrain fel yr oedd! y gwres oddiwrthynt yn cael ei gario dr.vy y muriau mewn pibellau pridd bychain, an- weledig, ac yn cynhesu eithafo'edd yr adeiladau." Dyna beth ddywed yr hen Gerald ymffrost- gar. Tynnwch dipyn oddiwrth ei ddes- Gwent. V. CAERLLEON AR WYSG. grifiad, yn enwedig am y nennau eur- aidd," a chofiwch ei fod yn ysgrifennu yn y ddeuddegfed ganrif, y ganrif roddodd fod i'r chwedloniaeth Arthuriaidd, a byddwn felly yn bur agos i'n lIe. Y mae, er hynny, yr olion neu weddill- ion a welir heddyw yn yr Amgueddfa yn brawf diymwad i hynafiaethwyr fod gor- wychder a mawredd Rhufain, pan yn an- terth ei gogoniant, yn cael ei efelychu yng Nghaerlleon ymhob peth. Chwi gewch colulIIns-pileri mawrion mewn maen yn orchuddiedig a cherfwaith mwyaf pryd- ferth capitols ar y rhai hyn drachefn, nad oesmo'u gwell i'w cael yn awr; tesselated pavements or gwneuthuriad mwyaf tlws. Y mae un darn cyflawn o'r gwaith hwn yn mesur 21i troedfedd o hyd wrth 18 0 led, gydag ymylgylch o'i gwmpas yn y ffurf o ysgrifrol (scroll) Roegaidd, nad oes yr un mosaic, tu yma na thu draw i'r Alpau, yn fwy perffaith ac yn fwy prydferth nag ei, medd y bobl hynny sydd yn awdurdodau ar bethau o'r fath. Dywed Mr. J. E. Lee, F.S.A., ysgrifenydd y Monmouthshire & Caerleon Antiquarian Society" am dros 30 o flynyddau, yn ei lyfr Is:a Silurum am y mosaic hwn, ei fod yn llawn mor ber- ffaith a rhagorol a'r mosaic ardderchog sydd wedi ei diogelu ym mhlas Brenin Naples yn Portici. Y mae yn rhesymol i ni gasglu fod hwn yn rhan o balmant rhyw hen deml, oblegid y mae yn ym- ddangos yn rhy ddrudfawr fel addurn- waith i fod yn rhan o blasly rhaglaw neu y swyddog milwrol uchaf. Sylwch ar y llinellau a ffurfiant betryal yn y cynllun; dyma ffurf gwer- syllfa yr ail leng. Y mae tair ochr yn linellau unionsyth, ond y bedwaredd yn tueddu at fod yn gyrf-liniol (curvi-linear) felly hefyd y mae muriau gorsaf Caerwent. Mesura mewn amgylchedd dipyn dros fill- dir (1,800 llath), Y mae rhan helaeth o'r muriau yn sefyll heddyw. Yn y gongl sydd yn gwynebu ar y cae a elwir yn awr, Maes Bord Gron y Brenin Arthur," mesurais uchder y mur yn 14 troedfedd, a pha mor uchel oedd yn ei ffurf cyntefig 'does neb a wyr, neu dylaswn ddweyd fy mod wedi methu, er chwilio, a chael gafael ar ddim ysgrifeniadau yn traethu am y peth. Y mae yn mesur o 11 i 12 troedfedd