Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*Gresyn nas gellir bod yn sicr mai yn Llandingad y claddwyd yr hen Ficer. A gresyn mwy nad oes hyd yn nod y garreg arw a'r ddwy lythyren yn dangos man fechan ei fedd. A gwyddai ef fod bri a gwerth ei daith Yn ei orchwylion, a chyflawnodd waith. Efengylydd cyntaf Cymru, garddwr cynta'n cenedl oedd: Gallai ddenu gyda'i arddull, gallai ddychryn gyda'i floedd. I drigolion anial marw y dinghosodd ffordd i fyw Safodd allu y tywyllwch dros ei wlad a thros ei Dduw. Gwnaeth ddefnydd o'r wybodaeth ryfedd honno Mai cerdd a chân yw allwedd calon Cymro; Dechrcuodd ganu uniawn addysgiadau, A chlust y wlad yn gwrando ar ei gathlau. Yn ddiddo?, glyd. yng nghanol swn y gwynt A'r curwlaw, gwelid llawer teulu gynt Yn treulio hirnos gauaf, wrth y tân 0 fawn, yn gwledda uwchben ambell gân O "Lyfr y Ficer." Llawer "seiat profiad A ddygodd Nef i'w hanes trwy ryw ganiad Dyner o'i eiddo. Llawn, rhinweddol sypiau 0 rawnwin y Wlad Well oedd ei ganiadau. Daeth telyn Dafydd idd ei ddwylaw ef,- Y delyn honno fu yn frwd ei llef Dan law y bugail honno ddaeth i lawr Trwy law Esaiah, y telynor mawr, Yr un mor beraidd tua Chymru fach I ha-.vl "y Ficer;" ac a ddaeth yn iach Heb byth ddifwyno'i hurddas fel "y Delyn I chwareu'n bêr dan fysedd Pant y Celyn. Yr olaf hwn a'r cyntaf, ddeuddyn glân, Dyfnderoedd gloew a nodwedda'u cân Esaiah oedd a chynnwrf yn ei lef, Mewn arucheledd yr ehedai ef Ond canu'n agos at y wlad wnai'r Ficer, Canai gynghorion llawn o'i galon dyner: Fe ganai ef yn dlws mewn arddull seml, Fel eos fwynber yn ei deiliog deml. Po agosaf byddo'r delyn, tlysach, mwynach fydd ei llef,- Ag agosrwydd cysegredig canu'n anwyl iawn wnai ef. Bron na chlywem sain angylion os mai Nef oedd pwnc ei gân Dygai Bethlehem i Gymru gyda swyn ei garol lân. Bu farw, do. Llandingad,* anwyl wyt Oherwydd hwn orwedda o dy fewn. Bu farw, do: mae'r tyweirch ar ei fedd. Bu farw, naddo, y mae eto'n bod Yn ysbryd tanbaid yn ei felus gân. Mae'r bywyd droediodd iddo heddyw'n gerdd, Ac y mae'r gerdd a wëodd iddo'n awr Yn fywyd puraidd, glân, a gerir byth Tra cerir Cymru gan ei hanwyl blant. Hen delyn arwrgerddi Pa ryw fod Sy'n haeddu urddasolrwydd têg dy dant? Pa seraff enwog yng nghynteddau Nef, Neu fythgofiadwy wron ar y llawr, Deilynga ddwyfol seiniau gennyt ti, Os nad y bod arwrol, perffaith hwn Orffennodd yrfa lân rnewn môr o waith, Nes gwneuthur cerdd anfarwol iddo'i hun, A gwneuthur anfarwoldeb iddo'n gerdd? TOM LLOYD.