Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ficer Prichard. ARAF adrodd clod y gwron, caraf ganu ei foliant glân Troi fy serch yn gynghan iddo, troi fy nghariad ato'n gân Tarn tant i'r Ficer Príchard-cywaír syml, nodau hedd, A rhoi meini caboledig teyrnged awen ar ei fedd. Cyn i wawr y Diwygiadau wneyd cin gwlad yn Gymru Wen, Cyn i lewyrch haul y nefoedd do ri'n fendith ar ei phen Pan oedd pechod ar ei gynnydd yn ymledu'n fwy o hyd, Cyn i wres pregethiad dwyfol doddi ymaith oerni'r byd: Y pryd hynny gwelwyd Canwyll o sancteiddiaf, wynnaf wawr, A disgleirdeb purwyn cannaid yn pelydru'r dduaf awr; Canwyll ddynol, gyneuedig gyda fflam o'i allor Ef, Wedi ei hanfon tua'r ddaear yn forwynig dros y nef. Gweled mam y Ganwyll honno'n goleu'n anghydmarol dlos A gyneuai nwyd eiddigedd yng nghreaduriaid brwnt y nos. Adlewyrchai loewder Nefoedd yn ddilychwin ger eu bron,- Methodd gwynt gauafnos dywell ddiffodd gwawr y Ganwyll hou. Llanymddyfri, ardal dawel, eneiniedig yw dy le,­- Wrth gael magu gwron Cymiu ti gest fagu gwron Ne'. Gwelaist wên y Ficer Prichard dan fabandod yn ei gryd, Heddyw gweli uwch ei hanes Gymru fach yn wên i gyd. Gweled Duw yn goleu'r Ganwyll," dyna fraint dderoyniaist di Gwelaist wyll y nos yn dychryn dan ei llewyrch cyntaf hi. Dy awelon di fu'n suo hwian-gerdd i'r arwr hwn, Cyn i'r drwg gael gafael arno, cyn i'r byd roi arno'i bwn. Gwelaist ef yn cychwyn gyrfa loew fel y wawr ddi-loes, Fe'i canfyddaist ennyd wedyn wedi baeddu yn llaid yr oes. Cyn iddo ddechreu rhoddi lliw y Nef Yn wyn i'r byd, y byd a'i lliwiai ef A llygredigaeth cyfnewidiai lesni Ei einioes bur i wywdra llwyd drygioni, Ond daeth Trugaredd i dueddau'r nos, A'i hedyn glân yn llawn o'r wawrddydd dlos Ac yn ei llewyrch, golwg arno'i hunan A ga'dd ein harwr; yna, aeth fel Ioan I dynnu eraill ar ei ol at Dduw. Fe dynnodd lawer â'i bregethau byw, Ei lais yn dreiddgar fel rhyw nefol symbal; A phan y pallai yr eglwysydd gynnal Y lluoedd a'i dilynent, gwnaethai ef Bulpud o'r creigle noeth yng ngwydd y Nef, A themlau o'r mynwentydd. Mab y daran Oedd ef,-ei lais yn codi ofn ar Satan,- Yn ddychryn i galonnau gwyr y byd, A rhyw feiddgarwch dwyfol yn ei bryd. Fe safai fel goleudy talgryf, derch; Llewyrchai oleu'r Nef i'r ddunos erch; Safai yn swn y 'storm yn ddewr ei fryd; Fe glywai ferwawg fôr drygioni'r byd Yn Iluchio'i donnau gwallgof, yn ei wanc Di-dor am enaid. Gwelai lawer llanc A geneth yn y genllif gref Yn suddo, pan gerllaw ei oleu Ef. Ac nid fel meudwy pell, neu fynach claiar Yn chwilio am neillduedig gonglau'r ddaear Yr hoffai fod, yn caru cymdeithasu A neb na dim. Gwynebai gan bregethu I blith eneidiau duon, iaith y Nef Ac oriau ei neillduaeth dreuliai ef Mewn gweddi ffyddiog. Gwelodd ef fod byw I wrol waith ym merw'r byd a'i gyffro Yn troi yn ffwrnais yn llaw Duw i'w buro;