Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

myned i mewn ac allan ymysg eu cym- deithion. Ond mae'n debygol y bydd i addysg a diwylliant uchel merched y dy- fodol gymedroli yr awydd a'r dymuniad hwn i raddau helaeth. Fe fydd yr ysgol- ion a'r colegau wedi arfogi merched Cymru ag addysg a chelfyddyd, a'u cymwyso i lanw galwedigaethau enillfawr, a bydd i hyn leddfu eu hawydd am briodi, gan na by.ddant mwyach mor ddibynnol ar un- rhyw ddyn am gartref a bywioliaeth, ac ofer i unrhyw lencyn gwamal a gwanbwyll, gyda modrwy ar ei fys, a chadwyn ar ei fynwes, geisio chwythu addewidion gau i glust y ferch ddysgedig, bydd hi yn rhy ymwybodol o'i hurddas i fyned dan yr iau hefog asyn felly. Yn un o daleithiau America mae cynifer o'r merched wedi cael addysg dda fel y mae nifer y priodasau wedi lleihau yn y dalaeth honno, a dywed awdwr Americanaidd, os cynydda addysg ymysg y merched fel y mae yn gwneyd yn awr, mai lleihad yng nghynnydd y boblogaeth a fydd y canlyniad. Mae yr un effeith- iau yn debyg o ddilyn addysg merched Cymru; ac o'm rhan fy hun, gwell fyddai gennyf weled nifer llai o blant, a'r rhai hynny yn cael eu dwyn i fyny gan famau rhinweddol a dysgedig, na gweled nifer lluosocach ymhlith y rhai y byddo lluaws o honynt yn cael eu magu gan rieni y byddo eu hesiamplau yn felltith i'w plant. Nid njfer cenedl, ond ei bywyd sydd yn bwysig. Gall nifer fod o ryw bwys gyda golwg ar wartheg a defaid; ond bywyd dyn sydd o dragwyddol bwys. Fe rydd addysg ein merched fywyd newydd yn ein llenyddiaeth ac er fod merched Cymru eisoes wedi gwneyd eu rhan yn ganmoladwy tuag at godi a chy- foethogi ein llenyddiaeth, eto gallwn ddis- gwyl pethau gwell a chyfoethocach oddi- 0 Waith Iolyn Mac EbrilL "Ceinciau'r Awen" Gwilym ab Ioan 63 CEIR rheol yn 'Ngheinciau'r Awen,a dawn I'n denu i'w darllen Gemwaith yn y Frythoniaith hen, A diliau ar bob tudalen." wrthynt yn y dyfodol. Mae merched Cymru yn fwy gwladgarol na'i meib- ion, a'u gwladgarwch hwy sydd wedi bod y cymelliad cryfaf i'w brodyr i ym- ladd dros eu gwlad; ac fel y cynydda eu haddysg fe gynydda eu gwladgarwch, oblegid yr wyf wedi sylwi mai y Cymry mwyaf dysgedig yw y Cymry mwyaf gwladgarol, a bod gwladgarwch y Cymro yn cynyddu i'r graddau y byddo ei addysg yn dadblygu ei ddynoliaeth. Ni bydd crefydd yn ol o deimlo oddi- wrth athrylith gyfoethog merched Cymru, fel y byddo i addysg agor eu meddyliau a dadblygu eu galluoedd meddyliol, ac i ddi- wylliant moesol agor ffynhonnau dyfnion eu serchiadau. Ofer yn fuan fydd i neb geisio cadw ein merched mewn distaw- rwydd yn ein heglwysi a'n cynulleidfa- oedd; eu presenoldeb hwy sydd yn goleuo ac yn addurno ein cynulleidfaoedd, ac mae eu dylanwad yn cyrraedd pawb, a gweddw yw pob cynhulliad hebddynt, a gallai mai eu habsenoldeb hwy sydd yn peri fod y pwyllgorau meibion sydd yn llenwi y wlad yn gwneyd cymaint o gam- gymeriadau. Mae mwy o gydnawsedd yn natur dyner a serchiadol merch â'r Efengyl sydd yn amlygiad o gariad Duw, nac sydd yn natur arwach dyn. Mae merch yn cael lle amlwg yn y Testament Newydd; ni wad- wyd ac ni fradychwyd ein Gwaredwr gan ferch-merehed oedd y rhai olaf wrth y Groes, a'r rhai cyntaf wrth y bedd, a merched sydd yn gwneyd i fyny ddwy ran o dair o ddilynwyr yr Iesu trwy holl wledydd cred. Ferched Cymru, ewch ymlaen, mae amser o'öh plaid­-mae Duw o'ch tu. Glaslyn. Clegyr, Llanberis. "Myfyrdodau Barddonol" Iago ab Dewi. ^6/Î^EIR yma gathlau-emynnau mwynion \U Nid ofer odlau-rhai da hyfrydlon- 011 yn synwyr, ac eto'n llawn swynion- Nid swrn diafael o wael wehilion,- Llinau o wir ddillynion-tra hudol- I Afalau oesol byth yn felusion."