Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nach ac eiddilach na dyn, yn arwain i dybiaeth nad oedd ei chenadaeth hi yn y byd yn ddim pellach na gweini i gysuron dyn, heb fod unrhyw addysg yn briodol iddi ond yr hyn a'i galluogai i gyflawni dyledswyddau teuluaidd, a bod yn gaeth- forwyn i'r dyn oedd gymaint uwohlaw iddi. Rhyw drugain ac ychwaneg o flyn- yddau yn ol, pryd yr oeddwn i yn yr ysgol, yr oedd mwy na dwy ran o dair o'r ysgol- heigion yn fechgyn, ac yr oedd yr ychydig enethod oedd yno yn perthyn i deuluoedd oedd beth yn well eu hamgylchiadau na'r gweithwyr yn gyffredin, ac nid oedd gan enethod bychain prydferth y gweithwyr un gobaith am addysg ond a gaent yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd teuluoedd lled gysurus y pryd hwnnw yn ymdrechu rhoddi rhyw gymaint o addysg i'r bechgyn, ond am y genethod nid oedd fawr neb yn credu y byddai addysg o un diben iddynt hwy. Yn yr Ysgol Sabbothol, y sefydliad mwyaf gwerinol yn ein mysg, yr oedd merched Cymru yn cael eu cornelu a'u cadw yn ol. Yn y plwyf y treuliais fy mebyd ynddo, yr oedd cryn lawer 0 wragedd oedd yn nodedig am eu duwioldeb a'u gwybodaeth yn yr Ysgrythyrau, ond nid wyf yn cofio i mi weled ond un ohon- ynt yn athrawes yn yr Ysgol Sul, er i mi wybod am lawer o athrawon digon dwl a fuasai yn drugaredd i'w dosbarthiadau iddynt roddi eu lle i'r gwragedd duwiol a deallgar hyn; ac hyd yn oed yn ein ham- seroedd ni, credu yr wyf y byddai yn fen- dith i'r Ysgol Sabbothol fod llawer mwy o wragedd duwiol Cymru yn athrawesau yn- ddynt. Erbyn hyn mae y Llywodraeth wedi cymeryd addysg y plant i'w dwylaw ei hun, ac nid yw yn gwneuthur dim gwa- haniaeth rhwng y bechgyn a'r genethod, a hynny am nad oes dim gwahaniaeth yn eu galluoedd meddyliol, gan fod y gen- ethod llawn mor gyflym a'r bechgyn i fyned trwy eu gwersi. Mae cyfnod new- ydd wedi gwawrio ar Gymru, a ffaith gysurus i ni fel cenedl ydyw gweled cynifer o forwynion ein gwlad yn ymgasglu i'r s- golion Canol, ac o honynt hwy yn dringo i'r colegau, ac yn y naill a'r llall yn profi eu bod yn feddiannol ar gyneddfau medd- yliol sydd yn eu gosod ar dir cyfartal a'r gwyr ieuainc, ac mae hyn yn dangos y gellir disgwyl pethau gogoneddus oddi- wrth ferched Cymru yn y dyfodol. Ac er nas gellir disgwyl i'r oll o ferched Cymru fyned trwy gwrs o addysg golegol, er hynny gellir bod yn sicr y bydd cynifer o honynt cyn diwedd y ganrif wedi derbyn y íath addysg a diwylliant fel ag i'w dyrchafu i sefyllfa nes i'r hon a fwriadwyd iddynt gan eu Creawdwr na'r hon y maent wedi bod ynddi hyd yn hyn. A sylwed y darllennydd mai ysgrifennu yr wyf am ferched fel y gwnaed hwy gan Dduw, ac nid fel y gwnaed hwy gan y byd llygredig hwn. Nid wyf yn gwybod am un cyfnod yn hanes Cymru mor obeithiol a'r cyfnod presennol, a hynny am fod merched ein gwlad wedi cael eu deffroi, ac i raddau wedi eu llenwi ag uchelgais santaidd a dyr- chafedig, ac wedi dyfod yn ymwybodol o'u nerth, yn ogystal ag wedi canfod y sefyll- faoedd sydd o fewn eu cyrraedd, ac yn fuan byddant yn cymeryd meddiant o'r safleoedd blaenaf fel arweinyddion cym- deithasol. Mae'n bryd bellach i ferched Cymru ddyfod i feddiant o'r galwedigaethau am- rywiol ac enillfawr sydd yn agor o'u blaenau mewn masnach a chelfyddyd fel na byddont mwyach mor ymddibynnol ar lafur dyn am eu bywioliaeth. Hyd yn hyn mae merched y dosbarth cyffredin wedi bod yn ymddibynnu am eu bywiol- iaeth trwy wasanaethu mewn teuluoedd a sefydliadau masnachol, ond y rhan luos- ocaf o honynt gyda ffarmwyr, a chaled ddigon a fu bywyd llawer o honynt; oblegid, heblaw myned trwy lafur dior- ffwys yn y ty, byddent yn fynych yn gor- fod myned allan gyda'r gweision i lafurio y tir. Gwelais hwy yn adeg teilo yn gorfod llwytho y troliau a'u traed yn suddo yn y tomennydd budron, a gwelais hwy yn dilyn yr hen aradr pren gyda'i swch weflgam, i balu balciau, ac wedi llafur diorffwys i mewn ac allan, hwy fyddent y rhai olaf yn myned i orffwys. Ac er eu holl galedi, nid oedd nac offeiriad na gweinidog yn gwneyd dim sylw o'u cyflwr blin a diraddiol, hyd tua chanol y ganrif o'r blaen, pryd y cododd Ieuan Gwynedd ei lais o'u plaid yn y Gym- raes." Gan fod merched wedi bod mor unplyg ac ymddibynnol ar ddyn am eu bywiol- iaeth, yr oedd yn naturiol fod eu hawydd a'u dymuniad am briodi yn llywodraethu eu holl fywyd-dydd eu priodas oedd dydd eu rhyddhad, ac ar gyfer hyn y bydd- ent yn ymolchi, ac yn ymwisgo ac yn