Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

buro a dyrchafu cymdeithas tu hwnt i'n dirnadaeth ni, oblegid, tra mae dyn yn ceisio gwella'r byd trwy ei gynlluniau, mae y wraig yn gwneyd hynny yn llawer mwy effeithiol trwy ei dylanwad distaw, a hynny yn anymwybodol iddi ei hun. Mae beirdd pob oes a gwlad, a beirdd Cymru yn arbennig, wedi canu llawer i brydferthwch a swynion merch, ond edrych arni megis oddiallan iddi ei hun yr oeddynt oll, heb fyned i mewn i ys- tafelloedd dirgel ei meddwl i edrych ar brydferthion ei natur gyfoethog. Yr oedd Byron a Tennyson yn sefyll mewn pellter gormodol oddiwrthi i allu canfod pryd- ferthwch mewnol ei natur; yr oedd Alun a Ceiriog wedi ymwthio yn nes ati, ond yr oedd dorau ystafelloedd pellaf a dyfnaf ei meddwl a'i serchiadau yn gauedig iddynt hwythau. Cellwair hefo merched y byddai Dafydd ab Gwilym, a'u diraddio y byddai Bardd y Nant. Wrth edrych yn ol i'r oesoedd a fu, ychydig iawn o ferched o ddim enwog- rwydd sydd wedi ymddangos ar faes llen- yddiaeth Cymru. Ond yn y rhan olaf o'r ganrif ddiweddaf fe ymddangosodd am- ryw o farddonesau o deilyngdod lled uchel yn ein plith, ac er na ddringodd yr un o honynt eto i gadair yr Eisteddfod, er hynny y maent wedi rhoddi prawf di- gonol y bydd iddynt yn fuan gymeryd meddiant o'r seddau uchaf y gall llenydd- iaeth Cymru eu rhoddi i eistedd ynddynt. Mae rhai o honynt eisoes wed ennill gwobrwyon, a hynny oddiar feirdd adna- byddus. Go wylaidd y mae ein barddon- esau wedi bod hyd yn hyn, fel pe buasai arnynt ofn arllwys allan eu meddyliau a'u teimladau dyfnaf, a mwyaf cysegredig, a hynny gyda llawn rym a nerth eu hath- rylith. Mae rhyw gymaint o dynerwch prudd yn nodweddu eu cyfansoddiadau, ac mae sain leddf gofid a thristwch i'w chlywed ym mheroriaeth eu caniadau, ac mae hyn yn peri mai barddoniaeth y galon yn fwy na'r deall ydyw barddoniaeth merched Cymru. Mae cymaint o drueni yn y byd fel y mae yn naturiol i galon dyner merch deimlo gofid a thristwch o'i herwydd, ac mae hyn yn sicr o gael ei am- lygu yn ei barddoniaeth, a dyma sydd wedi cynyrchu Cân y Plant" gan Mrs. Brown- ing. Nid yw llwyddiant a llawenydd yn ffafriol i farddoniaeth, ac nid yw teimlad llon a hyfryd yn deffro ymwybyddiaeth nac yn ennyn meddylgarwch tristwch a gofid sydd yn gwneyd i'r bardd droi ei olygon oddiwrth y pethau a welir, ac edrych i mewn i ddyfnderoedd ei galon ei hun, a dal cymundeb â'r meddyliau a'r teimladau cryfion dieithrol sydd yn cyfodi o wraidd ei natur. Y farddoniaeth sydd yn codi 0 natur a theimladau y bardd prudd ydyw y farddoniaeth oreu-bardd- oniaeth y galon, ym mha un y teimlir per- sonoliaeth yr awdwr. Mae'n debyg mai Mrs. Browning oedd yr awdures fwyaf personol o'r holl awdwyr Seisonig, ac mae'n sicr fod Anne Griffiths wedi rhoddi mwy o honi ei hun yn ei hemynnau nag un bardd yng Nghymru ac eithrio Williams Pant y Celyn. Mae hi wedi llenwi pob llinell o'i hemynnau â'i pherson- oliaeth, ac yr ydym yn teimlo wrth ddarllen ei phenillion ei bod hi ei hunan yng nghyflawnder ei natur, ac yn angerddoldeb ei hysbryd, yn llond pob emyn; ac wrth eu canu ei llais hi ydyw y cryfaf a'r pereiddiaf yn y gynulleidfa. Mae ambell i fardd yn cyhoeddi llyfr a'i anfon i'r farchnad, ac yntau ei hun wedi aros gartref heb fod dim o hono ef ei hun yn ei farddoniaeth-dim o'i bersonoliaeth i gadw bywyd yn ei lyfr, ac mae llyfr o'r fath mor ddiwerth ac almanac y llynedd. Am fod bardd Pant y Celyn wedi taflu cymaint o'i bersonoliaeth i'w emynnau y mae efe yn llawer mwy adnabyddus yng Nghymru nag ydoedd yn ei fywyd; ond pwy a wyr braidd ddim am Dafydd Ionawr ? Ac er fod Cywydd y Drindod yn gampwaith cynghaneddol, mae y bardd ei hun yn sefyll mewn pellter gormodol oddi- wrth ei waith i neb deimlo dim oddiwrth ei bersonoliaeth. Beth yw yr achos fod cyn lleied o ferched wedi codi i ddim enwogrwydd yng Nghymru yn yr amser a fu, a bod ein merched, hyd yn ddiweddar, yn estroniaid i addysg a llenyddiaeth eu gwlad ? Mae'n hawdd ateb mai diffyg addysg a diwylliant a'u cadwodd mewn tywyllwch heb ddigon o oleuni i'w galluogi i adnabod eu hun- ain, eu hurddas, a'u safle mewn cym- deithas. A pha nifer o ferched Cymru yng nghwrs yr oesoedd a aethant trwy fywyd o lafur ac iselder diraddiol i'w beddau heb gael mantais i amlygu eu hath- rylith a'u talentau, er dirfawr golled i'r genedl ? A phwy fydd yn gyfrifol am hyn yn y farn a fydd? Yr oedd y gred fod merch, o ran meddwl yn ogystal ac o ran corff, yn wan-