Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AE rhai yn tybied fod mab a merch yr un yn hollol o ran eu natur a'u cyfansoddiad gwreiddiol, a,c fod y gwahaniaeth sydd rhyngddynt yn un amgylchiadol y dyn wedi derbyn gan ei Ure- awdwr fwy o nerth a grymusder i wneyd y gwaith garwaf a thrymaf mewn hedd- wch a rhyfel; a'r ferch, gyda llai o nerth a mwy o dynerwch, wedi ei chymhwyso i fod yn wraig a mam. Y mae ereill yn tyb- ied fod gwraig-campwaith olaf y Cre- awdwr,-yn greadur newydd, ac yn feaa- iannol ar bersonoliaeth anibynnol, eto mewn undod â'i brawd, dyn, ond yn uwch ac yn dyfod yn nes at ddrychfeddwl Du,v am y ddynoliaeth, yr hyn a gyrhaeddwyd yn y dyn Crist Iesu. Mae yn debygol fod merch yn llawnach a chyfoethocach yn ei serchiadau, a'i natur wedi ei chyflenwi yn helaethach â'r el'fen uohaf a mwyaf ys- brydol, sef cariad. Mae gwr a gwraig i raddau helaeth yn ddirgelwch i'w gilydd, ac mae y naill a'r llall yn meddu ystafell- oedd dyfnion a dirgelaidd yn nyfnder eu natur na fedd y naill agoriadau i fyned i mewn i ddirgelion y llall, a dywed Grant Allen y gwyr gwr yn well am wir natur a theimladau Ymerawdwr Rwsia nac am wir natur a theimladau gwraig ei fynwes. Pa fodd bynnag, mae y syniad cyfeil- iornus am israddoldeb merch wedi bod yn felldith i'r byd; ac er fod mwy wedi cael ei wneyd yn y ganrif ddiweddaf er dileu y syniad hwn nac a wnaed yn y canrifoedd blaenorol, eto mae olion o hono yn aros hyd ein hamseroedd ni. Dywed gwr mor enwog a De Quincey wrth gyfarch merch fel chwaer,- Woman, sister-there are some things which you do no execute as well as your brother, Man, no, nor never will. Pardon me, if I doubt whether you will ever produce a great poet from your choirs, or a Mozart, or a Phidias, or a Michael Angelo, or a great philosopher, or a great scholar." Hawdd y gallasai ei chwaer-ferch droi ato a dyweyd fod llawer byd o bethau y gall merch eu gwneyd yn well na dyn. i Mae'n wir nad oedd y rhyw fenywaidd wedi cynyrchu yr un farddones o'r dos- Merched Cymru. barth blaenaf yn amser De Quincey, ond yn yr hanner olaf o'r ganrif o'r blaen y mae merched wedi amlygu y fath allu a'r fath athrylith yng ngwahanol ganghen- nau llenyddiaeth fel na faidd y prif feirdd edrych i lawr arnynt o'u cadeiriau dyr- chafedig; ac er mor fyw, tyner, a threidd- gar ydyw barddoniaeth Mrs. Browning a nofelau Charlotte Brontë a George Eliot, nid ydynt ond ernes o'r athrylith gy- foethog sydd yn gorwedd yn guddiedig yn natur gyfoethog merch. Cyn diwedd y ganrif bresennol bydd addysg ein merched wedi ei berffeithio i'r fath raddau fel y chwanegir meusydd, ie gwledydd newydd- ion, at ein llenyddiaeth; a phaham nas gellir gwneyd darganfyddiadau ym myd y meddwl fel yn y byd naturiol, ac na welir gwledydd ac ynysoedd newyddion wedi eu chwanegu at ein llenyddiaeth ? Mae'n wir, hefyd, na chododd yr un Shakespeare ymhlith y merched, na dim ond un ymhlith eu brodyr ond pa nifer o f eirdd yn Lloegr a Chymru a ragorodd ary wraig eiddil ac afiach Mrs. Browning? Mae rhai o'r beirniaid manylaf yn ei hys- tyried yn gyfartal a'r rhai goreu, ac mewn rhai pethau yn rhagori arnynt oll; ac o fewn cylch y nofel ystyrrir George Eliot yn gyfartal i Shakspeare yn ei hadnabydd- iaeth o'r natur ddynol, ac yn ei gallu i ddeffinio cymeriadau. Mae'n wir hefyd na chynyrchwyd yr un Handel ymhlith y merched, ac fe allai na wneir byth; oblegid mae yn rhaid i ferch yn y cymeriad o fam dalu sylw i fiwsic sydd yn fwy hyfryd i'w natur na threith- ganau Handel, sef miwsic y cryd. Rhaid ystyried fod pwys gofalon teuluaidd yn an- fantais i ferch ennill y gamp yn yr ym- drechfa gerddorol a llenyddol. Mae holl fywyd gwraig yn gynhwysedig mewn gair, cariad; a'i holl fyd hi wedi ei grynhoi tu fewn i'r gair cartref. Ac nis gellir disgwyl i wraig sydd yn ganolbwynt y cylch teulu- aidd gael fawr o hamdden a llai o hyfryd- wch i gyfansoddi treithganau, awdlau, a phryddestau, gan ei bod wedi ei gosod mewn sefyllfa mor bwysig a difrifol fel mai oddiar ei glin hi y mae pob cenedl- aeth yn cychwyn eu gyrfa yn y byd, a'i dylanwad hi fel mam ydyw y dylanwad mwyaf grymus yn y byd, ac mae ei gallu i