Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trwy ffydd meddyliwn, O mor ddwys, Bu Crist yn diodda poena pwys; Trwy gariad gwrol wreiddiol wres, Gwnawn deimlo ei nych, a down yn nes; O gwelwn liw ei galon loes Yn diodda'n gry' ar bren y groes; O gwelwn, gwelwn ddwr a gwaed, A hoelion dur trwy'i ddwylo a'i draed. 0 gwelwn ol y goron ddrain, Y lIe, a'r maen, a'r llian main, 0 gwelwn fedd, y gwely a fu,- Lle rhoddwyd corph ein Iesu cu, A gwelwn ef y trydydd dydd Wedi ei godi yn ddi-gudd; Drachefn i'r ne ei ddyrchafu wna'd- Ar orsedd grê,-law ddehe'i Dad. Mae oed yr Iesu, T'wysog ne' I'w roi ar lawr yn hyn o le,­- Un fil, saith gant, yn gowrant gu, Saith deg a naw, dwys hylaw sy'; Dod gywir ffydd yn rhydd i'n rhan, I'n cadw fyth, a'n codi i'r lan,­ Lle 'rwyt Ti, Duw Ior byw, yn ben,- I ganu mawl dwg ni, Amen. WILLIAn GRUFFYDD, Bryn Coch, a'i canodd. II. CAROL PLYGAIN NEWYDD, ar y mesur a elwir "Difyrrweh Gwyr y Gogledd." Dowch, dowch, wel dyma'r dydd, I gofio yn ddi-gudd, Am Iesu ddaeth i roddi'r caeth yn rhydd; Ar gyfer hyn o hyd, y ganwyd Ef i'r byd,- Llawenydd llon oedd gweld gerbron ei bryd Fe ganodd yr angylion fry, Fwyn fawl heb wâd i'n Ceidwad cu, Pan anwyd yr Eneiniog, yn hardd liosog lu. A ph'am na chanwn ninna'n awr, Wir glod yn glau i'n Meichia Mawr, A ddaeth i dalu'n dyled, trwy ludded trom i lawr. Cyfamod lawn-nod lun, Yn deg i gadw dyn, Trwy rinwedd gwaed, draw wnaed, gan Dri yn Un,— Yn ol y drefn fawr, cyflawnwyd, gwelwyd gwawr, Oedd gynt tan go', cyn llunio nef na llawr 'Roedd tair merch dirion ffyddlon ffydd, A'u tymp i esgor yr un dydd,- Arfaeth, addewid Dduw-air, fe'u rhoed, a Mair yn rhydd; Pan ddeuodd amser doethder Duw, I ddatguddio'i rôdd i ddynol ryw, Ym Methlem gyda Mair-wen, fe ga<>d y Bachgen byw. Fe ddaeth y rhoddiad rhad, I'n tir o fodd y Tad;- Un cywir farn, a chadarn, am iachhad; Pwy fedar draethu maint, 'r hyn sydd yn rhan i'r saint?- Ac eto'n ol drag'wyddol, freiniol fraint; Wele frawd ddaeth oddi fry, I godi hepil Adda lu, I'r gwiw lan ddiogelwch o'r maith dywyllwch du; 1 ofid rhwydd Ei fywyd rhoes, Trwy ing yn gry' i angau'r groes,- Dioddefodd dros Ei bobol, dan lid y farwol loes. 0 ryfedd gariad pur, Fu'n cyrraedd eitha cur,- Rhoi'i sanctaidd gnawd tan lid a gwawd y gwyr; Fe dalodd ddyled drom-Ei briod oll o'r bron,- 'Does tra bo chwyth un hadling byth ar hon Cadd angau glwy' trwy rym ei gledd, Dyrchafodd i'r ucheldar,-Oen tynar wiw- bar wedd; Gwnaeth ffordd yn rhydd o'r cystudd caeth, Ei wraig oedd dyn,-i ryddid aeth,- O'r Aifft i'r Ganan nefol, ysbrydol, fywiol faeth. Mae yn y nef yn awr, Ar Ei orseddfa fawr, Cwblhaës y gwaith, yn lanwaith yma i lawr; Mae'r Ysbryd Glân yn glir, a'i daith ar waith yn wir, Yn cymhwyso'r plant i'r meddiant haeddiant hir,- Fe sy'n datguddio pechod câs,- Mae'n dangos Iesu yn gry' mewn gras, Mae'n troi'r cyneddfau'n sanctaidd, o'r hen afluniaidd flâs Fe yw'r arweinydd wiwrydd wedd,- I bob gwirionedd loywedd wledd,- Mae yn ddiddanydd hyfryd, drwy'r bywyd hyd y bedd. Pan ddarffo'r Ysbryd Glan, Ei waith, daw maith wahân, Ar deulu Duw ceir gwelad diluw o dân,- Daw Brenin Mawr y nef, a'i luoedd gydag Ef, I farnu'r byd,—fe gryn daearfyd gref I'r anuwiolion fryntion fri, Bydd gwae yn groch, ac oeraidd gri, Wrth fynad at gythreuliaid, i rwymiad maith. di-ri', Fe gaiff duwiolion wiwlon wedd, 'Nolgado'r byd, a'u codi o'r bedd, Fyn'd adra gyda'u Harglwydd, i'r lân dra- g'wyddol wledd. I geisio treiddio trwy, Os bydd ymofyn mwy, Oed Iesu Sanct yw deunaw cant, a dwy Gogoniant, moliant mawr, mae'n addas iddo'n awr, Yn gu ar g'oedd, rhoed lluoedd nef a llawr,- I'r tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan, Boed maith ogoniant byth ar gân, Yn un trag'wyddol hanfod, — Dduw hynod ddi-wahân Fe 'roedd cyn dechrau lluniau'r llen, Y mae'n ddigudd, ac y bydd yn ben,- Boed iddo holl ogoniant, a'r moliant byth, —Amen! WILLIAM GRUFFYDD, neu BARDD SIABOD a'u canodd.