Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FEL hunan-adloniant, cymerais y drafferth o ddeongli geiriau y Carolau Plygain a gaulyn, allan o ys- griflyfr mawr; bratiog, eu hawdwr, sef William Gruffydd, Bryn Coch, o Dre Wydir, ger Capel Curig. Adnabyddid ef gan ei gymrodyr fel Bardd Siabod." Gwel CYMRU, Cyf. xii. Rhif 66. Mae'n rhaid ei fod yn wr uwchlaw y cyffredin o ran dealltwriaeth a dysg. Ceir yn y llyfr hwn gryn ddeuddeg ar hugain o garolau, cerddi, &c., o'i waith. Nid oes linell o chwaeth isel ynddynt, ond yn hollol fel arall,­y maent ;n orlawn o gynghorion, rhybuddion, a gwersi athrawiaethol,'y rhai a dystiant fod Bardd Siabod yn wr o deimladau crefyddol dwysion, ac yn Ysgrythyrwr tan gamp. Ymddengys, oddiwrth gynhwysiad dyddorol y llyfr, y byddai'r hen bobl yn arfer canu carolau Pasg, Sulgwyn, dechreu a diwedd haf, ynghyda rhai plygain Nadolig. Y maent yn ysgrifenedig yma gan ddeg neu ddwsin o wahanol ddwylaw, a'r rhan fwyaf o honynt wedi defnyddio cwilsyn gwydd, fel mae'r ysgrifen yn drom, garw, ac afrosgo. Y mae lluoedd o'r carolau wedi eu hysgrifennu heb fath o reol, nac atalnod, fel rhyw ryddiaeth lledrithiol. Mae'n gryn dasg gallu eu dilyn. Canwyd yr holl garolau o flwyddyn i flwyddyn yn hen eglwys Capel Curig. Mae'n sicr y byddai'r llyfr yn myned ar gylchdro drwy'r ardaloedd, gan fod olion treuliad mawr arno, ac mae'r dalennau melynion yn llawn o enwau ysgriblwyr. Ni fu'r un o'r carolau hyn, fel y rhai eraill sy'n y llyfr, mewn print erioed o'r blaen. Gwelwch fod a fawr, agored, sir Gaer- narfon yn swnio yn amlwg drwyddynt oll. CAROL PLYGAIN NEWYDD, am enedigaeth yr Iesu, ynghyd âg anogaeth i'w foliannu ef trwy ffydd, am Ei gariad a'i drugaredd. I'w ganu ar Dôn Y CEILIOG Du." BEFFROWCH gantorion, hoewon hy,— Sy'n caru Duw, i'w gywir dy Dowch o un galon rwyddlon rai, Pawb yma'n llon, heb ama llai; Wel, dyma'r dydd, — un ufudd nod, I roddi'n glir i'r Arglwydd glod, Am gael ymwared nodded ne ;— Rhown union fawl i'w enw 'Fe. \r gyfer heddyw loew wledd, Y daeth i'r byd trwy hyfryd hedd Fab Duw, nefol freiniol fri, Meseia Ner i'n safio ni; A'i eni o Forwyn,-addfwyn yw, Ar breseb gwael bu'r Iesu gwiw, Mewn beudy ym Methlem, waeldrem iawn, Pan oedd pob ty a llety'n llawn. 'R ym ni yma ar ben bora heb wad, Yn enw Duw, ein hunig Dad; Wedi ymgynnull yn ddi-gudd, I roi coffhad trwy gywir ffydd, Am enedigaeth un Mab Duw,- Hwn a roed i ddynol ryw, Yn fwyn eiriolwr, prynnwr pryd,- Dioddefodd boen i safio'r byd. Ein gorchwyl rheitia ninna'n awr, Yw rhoddi clod, ufudd-dod fawr, I frenin nef o freiniol nod, Fel y byddo'r dawn yn dod; A chywir galon ffraethlon ffri, I foli wrth raid Un Duw a Thri,- A seiniwn gân, hosanna gu, i hoew fraint Jehofa fu. Hen Ganu Nadolig. I. Cabneddog. Trwy ffydd edrychwn yn ddi-dra Ar ein Duw, eneiniog da, Yn fabi gwyn mewn rhwymyn rhad,- Yn ddyn, yn Dduw, air byw heb wad Wrth seren ffydd, naws ufudd swydd, Rhown iddo'n llon anrhegion rhwydd,- Fel pe tae'n bod ei wiwnod wawr, Anwyldra i ni i'w weld yn awr. Heb ffydd ni allwn wneuthur dim, Gweithredoedd gras nid oes mo'r grym; Nid ym ond gweiniaid bob ag un, Heb gred i'n Duw.-Creawdwr dyn,- Yr Hwn a roes ei einioes hir, Ar ddechra'r byd oedd glydwedd glir; 0 wendid ffydd, bu'n brudd y briw, Adda ac Efa a ddigia Dduw. A ninnau eu hepil ar eu hol, Nes daeth Oen nef i'n galw'n ol, Oedd wedi colli'r g'leuni glân, A syrthio'n dost i uffern dân Ond clod i'n Duw, a'i ryw, a'i rad, Rhoes inni le yng Nghanan wlad: Clodforwn Ef â'n llef yn llawn, Tra bon o hyd mewn ennyd iawn. Trwy ffydd rhaid inni gredu'n gry', Yr oll heb wad mai felly bu; Dyma'r achos yn dda ryw,- Oedd geni dyn, sef, gwir Fab Duw, I brynu'r byd ar bren, trwy boen, Dioddefa'n gas y diddig Oen;- 0 faint o loesa oer-friwia i'w fron, A gadd o hyd ar y ddaear hon. Moliannwn fyth ei enw 'Fe, Trwy gywir ffydd, gwir grefydd gre. Gobeithiwn ynddo,­Seilo sant, Bu'n diodda blindar dros ei blant;- Trwy gariad perffaith, lanwaith lun, Down yma i ganu bob ag un, — Dyrchafwn, molwn Un Duw mawr, Yn ol eu llais rhoed nef a llawr.