Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cwpan aur, yr hon oedd yn lla vn. o ludw, wedi ei darganfod yr un amser. Mae y gwpan yn Amgueddfa Colchester; ond collwyd y darn arian, yr hwn a roddwyd i fy nhad. Ni welais ef ar ol ei farwolaeth. Cyfeiriais hefyd at yr arferiad neill- duol a gymerai le ar achlysur priodas, sef at y cwintan." Yr oedd hen arferiad arall hefyd mewn grym hyd ymhell i'r ganrif ddiweddaf. Cyfeirio yr wyf at bri- odasau marchogol. Deuai y bobl a'u meirch i'r briodas, ac ar ddiwedd y gwas- anaeth carlament tua chartref,-y briod- ferch a'r priodfab ar y blaen, y gweddill yn dilyn. Ai dal y briodferch oedd yr amcan ? Nis gwn. Ond gyrrent gyda chyflymder dychrynllyd. Ychydig amser cyn blwyddyn fy ngenedigaeth, cymerodd priodas o'r fath Ie ym Mhenbryn. Ar ol llawer o berswadio cafodd gwas i foneddwr fenthyg ceffyl ei feistr, ceffyl o ysbryd a thymer wyllt yn sicr. Cyrhaeddodd y ddau yr eglwys yn ddiogel, ond ni ddy- chwelasant adref. Lladdwyd y ddau. Mae'n bosibl na welodd llawer o ddar- llenwyr Cymru wys i neithior yn yr amser gynt. A ganlyn sydd ddyfyniad a yrrwyd i Byegones gan Mr. D. H. Davies, dydd- iedig Chwefrol 6, 1899. A bermaw. Y MAE'R apel ganlynol wedi ei hanfon i mi gan bwyllgor cofadail T. E. Ellis. Taer erfynnir ar bawb sy'n meddwl cyf- rannu wneyd hynny ar unwaith. Gellir anfon yr arian i unrhyw un o aelodau'r pwyllgor, neu i mi i'w trosglwyddo iddynt. COFADAIL THOMAS E. ELLIS. Ddydd claddu Thomas E. Ellis penderfynwyd codi rhyw Gofadail Genedlaethol deilwng iddo. Apwyntiwyd Pwyllgor Cyffredinol, a chasglwyd £1,960. O'r arian hyn rhoddwyd £ 1,200 at am- canion ynglyn a'r Brifysgol gadwai Mr. Ellis mewn cof. Trosglwyddwyd y gweddill, yng- hyda'r addewidion, i Bwyllgor Lleol i godi Cof- golofn yn y Bala. Y mae'r cerflunydd, W. Goscombe John, yn brysur gyda'r golofn. Rhoddir hi mewn lle agored ar Stryd Fawr y Bala. Ei defnydd yw pres. Cydnabyddir fod y golofn ei hun yn ddar- lun cywir a tharawiadol iawn. O amgylch gwaelod y golofn bydd darluniau o fywyd Mr. Ellis,-yr Ysgol, y Coleg, y Senedd. Yr ydys wedi cymeryd yn ganiataol y ceir o leiaf fil o bunnau at y golofn. Taer erfyniwn ar Gan ein bod yn ddiweddar gwedi myned i'r cyflwr priodasol, anogir ni gan ein cyfeillion i wneuthur Neithior, yn ein preswylfod ein hunan, a elwir Blaenwayn, yn mhlwyf Llandisiliogogo, ar ddydd lau y 27aini o'r mis presenol: pan yr erfynir eich cwmpeini hoff a pha roddion bynag a weloch yn dda ei stofi arnom a ad-delir gyda diolchgarwch pan y gofynir am danynt. Gan eich ufudd wasanaethwyr, THOMAS THOMAS, ANNA THOMAS. Mae y gwr ieuangc a'i dad a'i fam (Thomas a Margaret Davies Pensarn) yn galw pob pwython, dyledus iddynt i gael eu talu i law y gwr ieuangc y diwrnod uchod, a byddant hefyd yn ddiolchgar i bawb a ddelo i luosogi y cwm- peini. Hefyd y mae y wraig ieuangc a'i thad a'i mham (Evan a Mary Thomas Blancwmpridd) yn dymuno i bob pwython dyledus iddynt, i gael eu talu i'r wraig ieuangc y diwrnod uchod a byddant yn ddiolchgar am bob rhoddion ychwanegol. W. Jones Argraffydd: Castell Newydd Emlyn. Wrth derfynu gadawer i mi ddweyd mor falch wyf am gael cyfleustra i siarad am hen wlad fy ngenedigaeth, yr hon nis anghofiaf byth. Ac wrth edrych yn ol ar y dyddiau hapus ym Mhenbryn, credaf y gallaf gydymdeimlo â Cheiriog pan yn eistedd yn ei ystafell unigol ym Mancein- ion ac yn canu,- Mab y mynydd ydwyf innau, Oddicartref yn gwneyd cân Ond mae'm calon yn y mynydd, Efo'r grug a'r adar mân." D. ARTHUR Hughes. Gwaith i'w Wneyd. i'r rhai sydd wedi addaw, y rhai sydd eto heb gael cyfle i roi dim, a'r rhai sydd yn bwriadu ychwanegu at yr hyn a roisant, anfon eu rhodd- ion i un o honom ar fyrder. Dadorchuddir y golofn ddechreu yr haf nesaf, pryd y gwelir ei bod yn deilwng o Thomas E. Ellis ac ohonom fel cenedl. A gawn ni ei dad- orchuddio yn ddi-ddyled? ROGER Hughes, Bala, Cadeirydd. WILLIAM EvANS, Birmingham, Trysorydd. Thomas JONES, Llandderfel. E. VINCENT EVANS, LJundain. Gwynobo DAvIEs, Abermaw, Ysgrifrnydd. Yr wyf, fel yr hysbysais yn barod, wedi cychwyn cronfa fechan at roddi carreg ar fedd Glasynys. Telir pob arian anfonir i acrount y gronfa yn Ariandy De a Gog- ledd Cymru. Dymunwn gydnabod tanys- grifiadau newyddion,- £ s. c. Dr. Walter Williams, Porthmadog 0 6 9 Lewis Jones, The Journal, Rhyl 0 2 6