Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sarrug a ffyrnig gan y plwyfolion, syrth- iasant yn fuan i ebargofiant. Yr oedd yno un bachgen yn canu'r crwth, ond ni chlywais ef erioed yn anturio mwy na hymnau syml. Felly, yn ddi- ameu, ychydig fedr oedd ganddo. Yr unig gerddoriaeth gelfyddydol oeddym yn ei gael oedd ar ddydd Calan, canys ar yr adeg honno telid ymweliad â ni gan Sein- dorf Bronwydd, a chwareuent yn dda, cyn belled ag yr oeddem yn alluog i farnu ar y pryd hwnnw. Mae'r seindorf mewn bodolaeth hyd y dydd hwn, mi gredaf. Y mae y cwlwm sydd yn cael ei losgi yn yr ardal yn gwneyd tân gwresog a chy- fforddus. Glo mân ydyw cwlwm; ac ar ol ei gymysgu â marl glas a dwfr, gwneir ef yn belenau. Mae y terfyn gogleddol lle defnyddir y cwlwm yn hynod eglur, sef rhwng Llanon a Llanrhystyd. Ni welais gwlwm yn cael ei ddefnyddio yn uwch na lle olaf. Yr oedd yr adeg pan oeddwn ym Mhenbryn cyn amser y Bwrdd Ysgol, ac yr oedd addysg heb gyrraedd i'w safle bre- sennol. Eithriadol ydoedd cael hyd i un o'r dosbarth gweithiol yn medru darllen neu ysgrifennu. Ychydig cyn ei farwol- aeth, adeiladodd fy nhad Ysgol Genedl- aethol. Yr oedd Ysgol Frytanaidd lewyrchus ym Mhenmorfa yn fy amser i. Cynhelid hi mewn ystafell perthynol i gapel y Methodistiaid Calfinaidd; yn flaenorol cynhelid yr ysgol yn y capel ei hun. Clywais lawer chwedl am fel y di- fyrrai yr ysgolorion eu hunain pan byddai cefn y meistr wedi troi. Un camp oedd cerdded ar mylau y meinciau, a llawer codwm oedd y canlyniad. Erbyn hyn mae'r hen ysgolion wedi diflannu a'r Bwrdd wedi cymeryd eu lIe. Yr oedd y Parch. T. Jones, y diweddar ficer, yn gad- eirydd y Bwrdd hwn am flynyddoedd. Cafodd llawer o enwogion eu geni yn y gymydogaeth, neu buont yn byw ynddi. Ym mhlith eraill y Parch. John Black- well (Âlum), periglor Manordeifi; y gwir Barchedig D. L. Lloyd, esgob Bangor, ad- nabyddus fel gwron addysg ac eistedd- fodwr pybyr; y Parch. E. Herber Evans, D.D., yr hwn a anwyd ym Mhen yr Herber, Castell Newydd Emlyn y Parch. John Jones, Blaenanerch, un o bregeth- wyr enwocaf Ymneillduwyr Cymru; a Mr. J. M. Jones (Ioan Cuntto), bardd enwog, gweithiau yr hwn, hyd y gwn i, sydd eto heb eu cyhoeddi. Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â Mr. Jones, gwr hynaws a difyr; bu farw yn 1884. Yr oedd arferiad rhyfedd ynglyn a marwolaeth mewn bod ym Mhenbryn. Cedwid canwyll yn oleu trwy'r nos yn yr ystafell lle gorweddai y marw. Arferid unwaith oleu dwy; ond yn fy nyddiau i un yn unig a oleuwyd. Amcan yr arfer- iad hwn oedd gwylio rhag lladron. Os na chadwid gwyliadwriaeth fanwl, dygid y cyrff ac anfonid hwy i Lundain a threfydd mawrion ereill er mwyn amcanion dyfyn- iadol (anatomical purposes). Dywed fy nghyfaill, ficer Cenarth, ei fod yn cofio cyrn yn cael gwneyd i ffwrdd a hwynt yn y dull hwn. Dyn enwog yn ei ddydd oedd tad ficer Cenarth, meddyg yn y fyddin. Gwasan- aethodd yn Rhyfel y Gorynys, ond nid oedd yn Waterloo. Yr oedd yn gyfaill personol yn ogystal a meddyg i'r Cad- fridog Picton. Y mae gan ei fab, Mr. Davies, oriawr, cadwyn a sel aur, rhodd- edig i'w dad gan swyddogion ei fintai. Bu farw oddeutu 1848. Dangosodd y ficer i mi bump neu chwech o berlau godidog. Cafodd hyd iddynt mewn rhywogaeth neillduol o gregin duon (Mya Margaritifica). Ceir hyd i'r perl gregin hyn mewn amryw afon- ydd, megys Hafren, Teify, a Chonwy. Dywedodd Mr. Davies wrthyf ei fod wedi dal llawer trwy wthio ffon fechan cyd- rhwng y cregin agored, y rhai a geuant am y ffon ac a godir yn rhwydd i'r wyneb. Yr oedd y perlau hyn o faintioli pys. Son am berlau sydd yn peri i mi feddwl am lymeirch. Yr oedd gwely o honynt ym Mau Aberteifi. Cof gennyf ar lawer tro weled capteiniaid llongau bychain yn dyfod ag ychydig ddwsingau yn anrheg i fy nhad. Yr oeddynt o faint- ioli anferth. Ni welais yr hen wr erioed yn amcanu rhoi un cydrhwng ei enau. Buasai fel pe yn llyncu pryd o fwyd ar un gwynt. Yn ddiamau defnyddid hwy at wasanaeth cogyddol. Y mae y gwely ers llawer blwyddyn o dan dywod, ac er i ymdrech gael ei wneyd i'w magu yn Ynys Lochdyn, bu yn aflwyddianus. Gwnaethym gyfeiriad yn fy erthygl ddiweddaf at hen ddernyn o arian Rhu- feinig a ddarganfyddwyd o dan garreg yn dwyn yr argraff "Hic jacet cor Balencii Rex Ordovicus." Deallaf hefyd fod