Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

On Friday the 13th inst. a French Brig laden with wine parted from her anchors at Aberporth, Cardiganshire, where she had been detained some days by stress of weather, and drifting on the Penbryn sands was totally wrecked during the same night, but the crew happily escaped. With pain we state that a large body of the neighbour- ing peasantry assembled, and (notwithstanding the praiseworthy efforts of Col. Price of Pigeonford and other gentlemen with the assistance of the Customhouse officers) pillaged part of the cargo and drank so immoderately of the wine, that several became the immediate victims of their beastly excess. The above and other equally inhuman and disgraceful conduct on the part of the people termed wreckers has called forth the laùdable interference of the Bishcp of St. Davids. We have just met with the following Circular Letter, and we cannot give it too extensive a circulation- "Revnd. Sir-The disgraceful transactions which have lately taken place on the coast of Cardigan- shire and Pembrokeshire induce me to request you to write to all the Clergy of your Deanery whose parishes lie on the sea coast, and to in- form them that it is my warmest wish and in- junction that they will lose no time in represent- ing to their congregations in terms sharper than any two edged sword' the cruel and unchristian- like enormity of plundering wrecks: and that for the future they will preach to them on this sub- ject once a quarter, or at least twice a year, and press strongly on their consciences the flagrant criminality of this iîihuman practice, so disgrace- ful to them as Britons and Christians, to the enlightened country to which they are natives, and more especially to the neighbourhood which they inhabit: and wholly repugnant to every principle, spiritual and practical, of the benevolent religion which they profess. I am Reverend Sir Your faithful and affectionate friend, T. ST. DAVIDS." Enw Esgob Ty Ddewi ar y pryd oedd Thomas Burgess. Medraf sicrhau fod moesau trigolion Penbryn, cyn belled ag y mae sobrwydd yn mynd yn arbennig, wedi gwella llawer. Ni welsom lawer o longddrylliadau yn ein hardal. Cofiaf i gorff dyn ieuanc gael ei daflu ar lan Penbryn, a chafwyd yn ei logell gyllell a blwch tybaco a llythyren- nau ei enw arnynt. Yr oedd y rhai hyn hefyd ar ei fraich. Rheithor Llanaber y pryd hwn oedd y Parch. John Jones, brawd fy mam, yr hwn a drigiannai yn Abermaw. Ac fel yr arferai fy mam ys- grifennu ato yn fynych, tybiaf iddi ddweyd am y corff. Yn ddiameu yr oedd y rheithor yn gwybod fod llong o Borth- madog, ar fwrdd yr hon yr oedd mab John Williams, yr hwn a fu farw yn Parcel, ger Abermaw, yn ddiweddar, a brawd hynaf y presennol Mr. Bennett Williams, wedi suddo. Ac ar dderbyniad y newydd am y corff, cychwynnodd John Williams a'i wraig i Benbryn; ac ar ol cael awdurdod agorasant y bedd a chanfyddodd yr hen bobl eu mab yn gorwedd yn ei gwsg olaf. "Mary & Eliza" oedd enw y llong, a'i chapten oedd Hugh Griffith; yr oedd yn cludo llechau i'r Cyfandir, a chollwyd yr holl ddwylaw. Aeth y Royal Charter" i lawr yn yr ystorm hon. Cafodd fy nhad ei addysg yn Ysgol Ramadegol Llanbedr. Yr athraw y pryd hwnnw oedd y Parch. Eliezer Williams. Tueddwyd Mr. Williams at farddoniaeth. Mae yn "Blodeu Dyfed" ddau ddarn o'i eiddo ar y testyn Marwolaeth y Cad- fridog Picton." Ni ddisgynnodd ei fan- tell ar ysgwyddau fy nhad, ond yr oedd yr hen ŵr yn hoff o ddarllen a dyfynnu barddoniaeth. Ei brif feirdd oedd Wil- liams Pant y Celyn ac Edward Richard Ystradmeurig. Mi a'i gwelaf yn awr yn llygad fy meddwl yn cymell rhywun i'w dy dan adrodd,- Cei fara a chawl erfyn iachusol a chosyn, A menyn o'r enwyn ar unwaith." Y tro olaf i mi glywedei lais oedd fel hyn. Amser noswylio ydoedd, a neseais ato i ddweyd "Nos da." Wrth fynd trwy'r drws clywais ei lais melodaidd yn dechreu adrodd,- Gwawria, gwawria, hyfryd fore Ar ddiderfyn fagddu fawr." Trannoeth daeth fy mam yn frysiog i'm ystafell; ond pan gyrhaeddais wely fy nhad, canfyddais fod y bore wedi gwawrio, a bod enaid yr hen ŵr wedi ehedeg at ei Greawdwr. Yr oeddym yn hollol allan o'r byd ym Mhenbryn, un diwrnod yn debyg iawn i ddiwrnod arall. Yn ystod y dydd ai y bobl yn araf at eu gorchwylion; ac yn hir- nos y gauaf ymgasglent o gylch y tân cwlwm i wneyd ysgubellau, adrodd chwedlau, neu ganu. Yr un pryd byddai y merched yn gweu, yn gwnïo, neu yn gwneyd canwyllau gwêr. Cymerwyd llawer o ddyddordeb efo'r canu, ac yr wyf yn cofio wmbreth o lanciau a llancesau yn perchen ar leisiau peraidd dros ben. Cof- iaf bedwar neu bump cornet yn gwneyd eu hymddangosiad yn yr ardal, ni lwyddodd eu perchenogion i gyrraedd unrhyw fedr- usrwydd; a chan yr edrychasid arnynt yn