Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF YCHWANEG O ADGOFION AM BLWYF PENBRYN A'R ARDAL. CHYDIG amser yn ol daeth hen gyfaill fy ieuenctyd,­¾ boneddwr ag y mae ei feddwl yn ystordy hen adgofion, — i aros gyda mi. Cawsom ymddi- ddan difyrrus am yr hen amser, a phen- derfynais ysgrifennu parhad o fy erthygl o'r blaen.* Fel y canfyddir oddiwrth yr erthygl honno, bu fy nhad yn beriglor y plwyf hwn am dros dair blynedd ar ddeg ar hugain. Cyn hynny bu yn gurad Llan- bedr Bont Stephan, ac yn feistr yr Ysgol Ramadegol yno. Y mae eglwys Penbryn yn hen adeilad, a diameu fod rhannau yn dyddio o tua'r ddegfed ganrif. Y mae wedi ei hadeiladu ar fryn goruwch y traeth, a'r fynwent yn ei chwmpasu. Safai carreg farch wrth lid- iart y fynwent yn y dyddiau gynt; ac, am ddim a wn i, y mae yno yn awr. Dywed hen draddodiadau fod safle yr eglwys wedi ei benderfynu mewn ffordd oruwchnatur- iol. Cbed ydoedd yr adeilad cyntaf; a phan benderfynwyd ail adeiladu dymunai rhai o'r plwyfolion i'r addoldy newydd fod mewn lIe mwy canolog. Llecyn a elwid Hen Glos ar fferm Pwllglas a ddewisid. Cyrohwyd y defnyddiau yno, a dechreu- wyd y gwaith. Ond ychydig oedd y llwyddiant, canys trosglwyddid y cerrig osodwyd i lawr yn ystod y dydd ymaith yn y nos i'r hen safle ar y bryn wrth y môr, tra y clywid lleisiau dirgelaidd yn canu fel y canlyn,- "Ni ddaw bendith i dy ran Os newidir sail y Llan;" ac uwchben yr hen adeilad datganai ang- ylion fel hyn. Ni chei syflyd o'r fan hyn Llanfihangel Pen y Bryn." Felly rhoddwyd i fyny y gwaith yn Pwll- glas, ac adeiladwyd yr eglwys bresennol. Codwyd y capel anwes yn ddiweddar ar y llecyn yn Hen Glos gan y Parchedig Mr. Yn CYMRU am Ionawr, 1898, dan y pennawd "Adgofion am Blwyf Penbryn." Penbryn Eto. Britten. Cynhwysa yr eglwys borth, corff- eglwys, a changell. Y mae neillduolrwydd yn perthyn i'r corff-eglwys. Yn nyddiau boreol Cristionogaeth, cyffelybid Eglwys Crist i.long (Lladin narisj yn hwylio ar fôr ystormus. Cys- ylltwyd y drychfeddwl hwn yn naturiol a'r adeilad materol lIe yr ymgynullai y Crist- ionogion i addoli. Felly adeiladwyd y rhan isaf o'r eglwys ar ddull llong. Y mae muriau eglwys Penbryn yn drwchus oddi- tanynt, yn gulion yn y canol, ac yn drwchus eto y rhan uchaf. Mae y gangell yr hyn a elwir yn gangell wylofus." Nid yw yn unionsyth a'r corff-eglwys, ond gogwydda tua'r gogledd. Hyn sydd yn arwyddo ysgogiad tybiedig pen yr Iesu ar y croesbren. Wrth gwrs adeiladwyd yr eglwys (fel y dylai holl eglwysi, yn ol fy nhyb i, gael eu hadeiladu) a changell i'r dwyrain. Y mae dwy hen ywen yn y fynwent, a llawer gwaith y clywais fy nhad yn datgan ei ddymuniad i gael ei gladdu dan eu cys- godion. Felly, pan hunodd yn yr Iesu, torrwyd bedd yn y llannerch ddewisedig, ac yno gorwedd fy anwyl fam ac yntau hyd dydd yr adgyfodiad. Y mae cwpan y cymun yn siampl ar- dderchog o gywreinwaith yr unfed ganrif ar bymtheg, ac yn dwyn yr argraff gan- lynol,- POCVLVM + ECCLESIH + DE + PENBYN + 1047 Yr oedd un arferiad neillduol yn cael ei chadw yn ofalus yn eglwys Penbryn. Ei&- teddai yr holl ddynion yn y rhan ogleddol o'r eglwys, tra'r eisteddai y merched yn y rhan arall; ac am ddim a wn i, y mae yr arferiad yn parhau hyd heddy Yr oedd fy nhad vn hynod 0 boblogaidd yn y plwyf, ac yn y dyddiau hynny nid oedd cymaint o wahaniaeth cydrhwng cydffurf- iaeth ac anghydffurfiaeth. Yn amser terfysglyd Rebecca derbyniodd lythyrau bygythiol (copi o un o'r rhai ymddangos- odd yn fy erthygl ddiweddaf), ond ar y cyfan ymddengys ei fod wedi cael gwell triniaeth na rhan luosocaf o glerigwyr y