Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pan ddaethum i lawr y bore 'roedd llythyr yn fy nisgwyl ar y bwrdd. Agorais yr envelope. Beth oedd ynddo ond birth- day card oddiwrth gyfeilles ieuanc i mi o Lanfair Caereinion. "Hearty Greetings" oedd ar wyneb y cerdyn prydferth, ac oddi- mewn y pennill canlynol,- But weakly can my words convey The hearty wish I to thee send- May flowers bedeck thy path alway Fresh blown and fragrant day by day And peace and joy their sunshine send." Gwyddai fy mod yn hoff o flodau, a dyna'r pam yn ddiau y dewisodd y pennill i m cyfarch, ac i ewyllysio'n dda i mi ar gylch- wyl fy ngenedigaeth. A be sy'n fwy dy- munol i harddu ein llwybrau na blodau peraroglus, newydd agor? Llonnodd geir- iau'r cerdyn fi drwy'r dydd. 'Roeddynt fe1 toriad haul drwy gaddug. "Kind words can never die." Bydded fy mywyd i, a bywyd hithau, cyn wynned a'r lili, ac mor bersawrus ag anadl y rhosyn. Nid oes babell mewn celli Na man fel bu gynt i mi." Llwyn di-gân wyf, ebe'r goeden. Heb y gân mi grinaf, gwn Llwyn di-ddail, medd yr aderyn. Fedra i ganu dim yn hwn." TACHWEDD 5ed. Ymweled â'r wig heddyw eto. Fel awel aflonydd crwydrwn drwyddi. Tarfwn yr adar duon wrth bas- io'r llwyni. Hedent ymaith gan leisio'n gyffrowyllt, ar eu pennau i rywle, o'm golwg. Aderyn gor-ofnus, nerrous, a chilgar yw yr aderyn du, fel y sylwyd lawer gwaith o'r blaen, o dro i dro. Mae y swn lleiaf yn gwneyd iddo neidio, a'r symudiad ysgafnaf yn peri iddo oerfraw. Rhugl- drwst dalen a'i tarfa; syrthiad gwlithyn oddiar y glaswelltyn i'r ddaear a dy- chryna; cwhwfaniad plufen eira a gwyd ofn arno a disgyniad sydyn heulwen yn ei ymyl a wna i'w galon ddychlamu. Dyna ei natur, a 'does ganddo mo'r help. Fel y crybwyllais tarfwn aderyn du yma, ac aderyn du acw. Safodd un ar gangen di- ddail gryn encyd oddiwrthyf. Cyferchais ef fel hyτı,-`` Aderyn eurbig," meddwn, DAFYDD AP Gwilym. Moelwyn. "pa le mae dy delyn? Pam na phynci di fel y brongoch? Glywi di ei dinc draw?" Ffansiwn y clywn ef yn fy ateb fel hyn,- Taw. Mae'n hawdd i ti siarad. Arall yw tymer y brongoch, ac arall f'un i. Fedra i ddim canu ar bren di-ddail. Fedra i ddim tiwnio ar gangen dduoer noeth- lymun, fel hon. Medr y brongoch. Wrth weld y gwasgodlwyn wedi ei ddifantellu, a'i barwydydd yn rhwyd-dyllog, medd- ienir fi â phryder. P'le y ca' i le i lechu'r gauaf ? Maer tymor, anfwyn, di-lety, ac angharedig hwnnw wrth y drws, os nad yw wedi croesi y rhiniog yn barod. Glywi di ? Onid ei ochain ef yw rhoch arwr dwyreinwynt? Oni chlywi di ef yn dod gan bwffio, a chwythu, a gyrru tarth tew ei anadl o'i flaen nes llenwi'r dyffryn ag ef, o'i waelod i'w fyl, a chlafeiddio'r nef- oedd? Mae blinfyd o'm blaen. Bydd raid i mi glwydo. toc, ar lwyn di-orchudd. Blodeua'r barrug, yn aml, o'm hamgylch a rhewa'r nifwl ar fy edyn. Dywed i mi, os medri, pam y darperir deildai diddos i adar i glwydo yn nhes yr haf; a pham y didoir hwy, ac y rhwygir eu parwydenau yn y gauaf, pan y mae arnom angen fwyaf o gysgod ? Pam y cysgodir ein gwelyau rhag y chwaon esmwythaf; ac y gwneir hwy'n agored i wyntoedd garwaf y nef- oedd?" Wn i ddim, aderyn," meddwn. "Oes" meddai, "mae byd tost o'm blaen. Toc, gwneir y ddaear galeted a haiarn gan rew; hulir y wlad â chnwd tew o eira; a pha beth a wnaf y pryd hynny am lun- iaeth? Bydd raid i mi fynd, a'm calon yng nghorn fy ngwddw, at dai annedd i mofyn am damed-f'allai y ca ì beth, f'allai cha i ddim^ — ac y mae'n gas gennyf ymweled â lleoedd felly. Rwy' i mor nervous. Pe buasai dynion yn gwybod galeted yw'n byd ar rew ac eira, buasent yn llawer parotach i dosturio wrthym. O, mae blinderau o'm blaen. Wn i ddim a allaf fyned trwyddynt yn ddiangol; wn i ddim a fedraf oroesi y gauaf wn i ddim a ddiangaf gyda'm hoedl. Fe allai-pwy wyr 2-na phyncia i byth ond hynny. Ac eto gofynni pam na chanaf? Pwy fedr ganu pan y mae pryder lond ei fron, a hiraeth lond ei galon? Fedra i ddim." Gyda hyn daeth cwthwn o wynt sydyn heibio o rywle, a'r nifwl am ei ysgwydd; cydiodd mewn dalen bedwen- roedd ychydig eto ar y pren-pliciodd hi o'r gangen; cariodd hi am ychydig yn ei grafangau; a dyferodd hi ar y llwyn lIe