Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A chanodd yn llawen ei shic-a-di-di, Shic-a-di-di, shic-a-di-di, A chanodd yn llawen ei shic-a-di-di. Ysgubai yr oerwynt drwy frigau y pren Gan ysgwyd y barrug fel ôd am ei ben; Ynghanol y ddrycin, a'r cenn ar ei blu Fe ganai'r aderyn ei shic-a-di-di, Shic-a-di-di, shic-a-di-di, Fe ganai'r aderyn ei shic-a-di-di. Ni fu yr aderyn yn canu yn hir Cyn i Annie ei glywed- roedd ei ganig mor glir. O, tyrd at y ffenestr, fy chwaer,' ebe hi, Clyw'r deryn yn canu ei shic-a-di-di, Shic-a-di-di, shic-a-di-di, Yn canu mor llawen ei shic-a-di-di. Sut y medr e' ganu ar frigyn mor oer, Pan mae llewyrch yr haul cyn oered a'r lloer? Gymeri di fenthyg fy nghlog gynnes i I dy gadw rhag anwyd, shic-a-di-di, Shic-a-di-di, shic-a-di-di, I dy gadw rhag anwyd, shic-a-di-di?' "0 mam, nolwch sanau i'w rhoi am ei draed, A shawl fach, a het, i gadw gwres yn ei waed Ond, jico, os deui i'r ty ataf fi Mi'th gadwaf di 'n gynnes. GWXAF, shic-a-di- di'— [Y deryn yn ateb.] 'Shic-a-di-di, shic-a-di-di Na, mae'n well gen i yma, Shic-a-di-di Rhoes Un, gariad fechan, er nas gwn pwy yw, Gôt addas i mi ar bob tywydd i fyw; Bore da O, pwy sy mor ddedwydd a fi?' — Aeth ymaith dan ganu ei shic-a-di-di. Shic-a-di-di, shic-a-di-di, Aeth ymaith dan ganu ei shic-a-di-di." Dyna'r penhillion. Gellir eu canu, pan fyddo'r hwyl, ar y mesur, Mae Robin yn swil." Dywed traddodiad fod aderyn bychan wedi disgyn ar ben ein Gwaredwr pan ar ei ffordd i'r groes, ac, â'i big, wedi tynnu un o bigau hir y goron ddrain oedd yn gwanu ei ael a fod y gwaed ffrwydrodd o'r archoll wedi ystaenio ei fron, a'i rhuddgochi. Y brongoch, ebe'r traddod- iad, oedd yr aderyn bychan caredig hwnnw ac erys arwydd y gwaed fyth ar ei fynwes. A'i waed sydd o hyd ar ei fron- Y gwaed oedd yn ddrutach na'r byd Wrth gofio traddodiad, daw tòn 0 w'radwydd dros f'enaid i gyd. Yn swn y traddodiad mae'n dod Rhyw furmur di-eiriau i lawr,- Pa beth all aderyn bach fod Yn nheyrnas Creawdwr mor fawr Elfed. A niwl gwyn yn ael y gwynt, Yn diffriw canol dyffrynt." DAFYDD AP GWILYM. TACHWED 4YDD. Heddyw'r bore 'roedd barrug ar y ddaear. Y barrug brig- lwyd meddwn, pan welais ef drwy'r ffen- estr, "faint o alanas wnest ti neithiwr?" Aethum allan i weled. Edrychai'r myn- yddoedd, drwy niwl llwydwyn, fel cys- godau, fel bannau gwlad bell, ddieithr, ledrithiog, mewn breuddwyd. Sylweddol- wyd fy ofnau. 'Roedd dail y dahlias wedi gwywo, a deifio, a chrympio, fel pe buasai fflam lyfol-lambent-wedi eu go-gy- ffwrdd, ond heb eu hysu. Ymhongiai'r blodau cyfrgrwn, o goch dwfn a gwyn can- naid, yn drwm a nychlyd ar y cangau- disgleirdeb eu gwên wedi cilio, a llathr- eiddrwydd byw eu lliw wedi pylu. 'Roedd y barrug yn dechreu dadleithio, a ffansiwn fod y difrodwr caled yn wylo wrth weld ei waith. Edrychais ar y coed. 'Roedd y dail oedd ddoe yn irlas wedi eu taro-y barrug, dan fantell y nos, wedi ysgaru rhyngddynt â'r brigau. Syrthient ohonynt eu hunain, wrth eu pwysau, yn un, ac yn ddwy, ac yn dair, ac yn rhesi, ac yn dwrr; a disgynnent ar y llwyni dan- ynt gyda rhugldrwst a chlonc, neu ar y ddaear farugog gydag ysbonc swrth. Be sy mor annhrugarog a rhew? Be sy mor ddidostur a barrug? Maent fel haint ar ddynion, yn lladd ac yn difa y ffordd y cerddant. Pan ddeffroais y bore, tuag wyth o'r gloch, cofiais mai dyma fy nydd pen blwydd ac mai ar yr awr honno, wyth o'r gloch, ar fore Sabbath, y gwelais oleuni gyntaf. Ganwyd fi yn y mis mwyaf athrist o'r flwyddyn-" Mis y niwl," "Mis y tawch." Ond ceir ambell i ddiwrnod heulog yn Nhachwedd. Ai ar ddiwrnod dwl, dihaul, y ganed fi Ai a ddigwydd- ai'r dydd fod yn ddigwmwl? A oedd bar- rug ar y ddaear y bore hwnnw? A oedd dalen ar bren ? A ganai brongoch ? Wn i ddim a bipiodd yr haul drwy'r ffenestr, pan ddywedwyd, Enillwyd gwrryw," i edrych arnaf, ac i'm croesawu i'r byd ? Beth bynnag am hynny, gwn fod gwên fy mam arnaf fel haul hirddydd haf, fel gwên Duw ei hunan. Ei gwên hi oedd y dyneraf, a'r serchocaf welais i erioed. Ah, that maternal smile Cowper. On his mother's picture."