Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gan blicio, a thynnu, a chilio'n ol i ennill nerth i roi plwc arall. "Ho! Ho!" meddai, mi wna i o'r gore a chwi toc. Aroswch chwi hyd nes y fferrir fy mysedd i gan rew a barrug y nos, ac y gwlychir hwy â mân-ddefni'r nifwl. Wedi eu blaen- llymu â rhyndod, mor farwol fydd fy nghyffyrddiad ag ias y trydan, mor ang- euol a llafn y fellten. Raid i mi, y pryd hwnnw, ond gosod fy mysedd yn ysgafn arnoch nag y neidiwch o r lIe y cydiwch ynddo mewn spasm, dan yr ias, a syrth- iwch yn ddiymadferth, yn farw, i'r llawr oer, a chyn pen ychydig ddyddiau bydd eich gruddiau yn gànwelw, a thegwch eich pryd wedi cilio." Rhugl-drystiai'r dail yn gwynfannus, a syrthiodd bagad ohonynt yn ddisyfyd fel pe buasai eu calon wedi sefyll gan fraw. Pan ymadawn gorwedd- ent ar y ddaear, a gwawr bywyd ar eu wynebau, ymysg v crinddail syrthiasai yno ddyddiau'n ol. Cyniweiriais drwy'r wig yng nghwm- ni'r awel, gan dalu ymweliad â phob pren a llwyn. 'Roedd naws yr Hydref wedi gwneyd galanas ar harddwisg y coed. Nid oedd cerpyn ar y griafolen; ac yr oedd cymalau gwialenog y cyll yn hanner noeth. Anaml oedd dail y geiriosen. Ym- siglai rheiny fel tafodau fflamgoch yn y gwynt. Sylwais ar ambell i ddraenen wen mewn mantell îr, gyda dalen yma, a dalen acw, o liw'r ambr a'r gwin ond yr oedd y mwyafrif wedi eu diosg o'u gwisg, a dim namyn eu haeron cwrel yn addurno eu gwddw. Gwelais winwydden ddu, y fan yma, mor dirf a'r irwellt; ac un arall, y fan acw, a'i dail marw, anaml, fel llafnau aur, a'i haeron yn fwy llyfnwyrdd ua'r emerald. Unlliw oedd dail mân y fedwen a'r rhedyn cringoch oedd dani. Tynnir addurn ei meinwallt hithau toc, pan gvs- twyir hi gan ddyrnau'r dymestl. 'Roedd clog o felyn a gwyrdd yr helygen arni, ac impynnau fel cnapiau arian yn ymwthio allan o geseiliau'r dail. O dani plygai mieri mewn gwisg dyllog o borffor ac aur, a mwyar llyfndduach na mwyalchen na muchudd' yn addurno ei gwar. Oddi- amgylch, 'roedd marchfieri mewn diwyg eurlliw deneu, a dibyndlysau ysgarlad ar flaen pob osglen. Dyna fel yr ymddang- osai y wig i mi Ddydd Calangauaf 1902. Ust dyna dy ganig o'r drain: Fy nghof sy'n ei chlywed fin hwyr: Mae cartref o hyd yn dy sain, Ac ysgub. Beth arall, pwy wyr?" ELFED. TACHWEDD 3YDD. Ymwelais â'r wig heddyw wedyn. Ni chlywais gân aderyn. Do, do, clywais gân brongoch, wrth gwrs, fwy nag un. Er ei daioged, aderyn bach agos, anwyl yw'r bronrhuddyn. Telora'n felusach, dybiaf fi, ym mwrllwch y gauaf, nag yn awyr drybelid yr haf. Cân pob aderyn ei salm yn awel falmaidd y de; ond dyri y brongoch yn unig glywir yn tincian yn rhoch y dwyreinwynt. Pyncia ef, a'i draed ar farrug, fel ar fanllawr 0 flodau. Chreda i ddim nad yw'r Creawdwr wedi ei gyfaddasu, yn anad un aderyn arall, â gwisg a thymer, a phopeth, i wrthsefyll rhuthrgyrchoedd y gauaf. Onid yw ei goesau feined fel nas gall yr awel finiocaf eu cyffwrdd ? A'i wisg Be sy'n fwy clyd, ar heth, na chôt gochlwyd ? Be sy'n gyn- hesach, ar eira, na gwasgod eiriasgoch ? Synnwn i ddim na chilia'r oerias oddi- wrtho pan wel ei fron, 0 liw'r fflam; ac na ddyhudda meluster ei gân ddigofaint y llymwynt. Mae ei delyn wedi ei llunio gywreinied fel nas gall elfennau y gauaf na rhydu ei thannau, na newid ei chywair -yn unig gwnant ei thinc yn felusach. Tariais ychydig, gan roddi fy mhwys ar baladr onnen. Syrthiai'r dail gwyw, di- fywyd, am fy mhen. Yn union daeth bron- goch heibio; disgynnodd ar gangen o'm blaen safodd lle buasai dalen borfforliw ennyd cyn hynny ac ymfwrlymodd mewn cân. Safodd yr awelon i wrando arno, ond yn ebrwydd cymerasant y gerdd yn eu mynwes, a chipiasant hi ymaith ymhell, bell, allan o'm clyw. "Dyro gân eto, fron- goch," meddwn, ond hedodd ymaith, a chanodd ar lwyfan arall. Wrth edrych ar y brongoch, a'i glywed yn canu, daeth pen- hillion Saesneg i aderyn bach arall sy'n canu yn y gauaf i'm cof. Er mai penhill- ion i blant ydynt, hwyrach na fydd gan olygydd hynaws Cymru ddim gwrthwyn- ebiad iddynt ymddangos yma. Dyma rydd-gyfieithiad ohonynt-yr ail bennill a'r pedwerydd yn ychwanegiad,- "'Roedd ôd ar y ddaear fel cwrlid o wlan: Chwareuai dwy chwaer fach o amgylch y tân Daeth deryn yr eira i ymyl y tŷ, Nid deryn yr eira (starling) y wlad yma, ond deryn yr eira yr Amerig, elwir "chickadee," oddiwrth ei gân.