Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'r nos. Torrair wawr yn wenwelw, heb na bysedd rhosliw, na gwisgoedd llaes, aur- felyn. Gorweddai'r dyffryn yn dawel dan fantell y cyfddydd, a gordoid y nefoedd â chymylau. Chlywn i ddim, na siw na miw, namyn murmur y gwynt fel dwndwr y môr ar draethell bell. Crwydrai'n ddi- gysur oddiallan, fel ysbryd cyfeiliorn, weithiau yma, ac weithiau acw. Yn union clywn ef yn dynesu yn lladradaidd at y ffenestr, rhoes hergwd ddisymwth iddi; ciliodd yn ebrwydd, ddistawed ag y daeth a chlywn ef yn y man yn cwynfan. ac yn cwyno, yn y fan draw, ym mwrllwch y plygain. "Ha!" meddwn, dyna'r ys- bryd. Dyna'r peth a'm dychrynnodd gyn- neu." 'TIS THE WIND AND NOTHING MORE." Es yn ol i'm gwely, a goblygais fy mhen yn y dillad. Yn union syrthiais i gwsg. Ymhen y rhawg, gwelwn fy hun mewn gwig heulog, a chlywn aderyn yn canu yn fendigedig o swynol mewn llwyn gerllaw. 'Roedd seithliw'r enfys, feddyliwn, ar blethwiail y llwyn, a rhyw felodi weird anghydmarol yng nghathl yr edn. Ai yng ngwlad hud a lledrith ydwyf ?" gofyn- nwn. Ai un o adar Rhiannon sy'n canu? Mwy melodaidd yw ei gerdd na chainc mwyalchen. Mwy swynol yw ei lais na miwsig eos. P'le mae e' ?" Es i chwilio am dano. Pan gyffyrddwn â'r llwyn di- flannai y dail, a phallai yr odl. Wel, dyma beth òd meddwn gan ymbalfalu- a chyda'r gair dihunais, a'r cynta peth a glywn i oedd brongoch yn canu ar lwyn 0 flaen y tŷ. Cwyd, gysgadur," meddai, mae'n bryd. 'Rwyf fi ar ddeffro ers oriau, ac yn canu ers meityn. Cwyd, rhag eywilydd." Codais fy mhen o'r glustog, ac, wele, 'roedd yn ddydd gole. Torasai yr haul drwy'r cymylau, ac yr oedd ei ogon- iant teryll yn llenwi fy ystafell, fel Secina. "Dyma ddydd Calangaua' meddwn. Mae fel Calanmai;" a chodais. Tra yr oeddwn yn ymwisgo canai'r brongoch ei dôn fer fwrlymog o dro i dro. Aethum i'r wig. Troais fy ngolygon i'r wybren. Chwythai'r gwynt o'r gogledd- orllewin, a rhedai'r cymyl yn ewybr o'i flaen. Weithiau cuddid yr haul ganddynt, a phryd arall ymddisgleiriai mewn awyr lathrlas, a thaflai raiadrau 0 ogoniant ar goed noethlwm, a llwyni deiliog. Ymlid- iai cwmwl a heulwen eu gilydd ar y llethrau draw, gan bylu a llathru gwisg gringoch y mynydd, bob yn ail. Yn y gwyll, dan gysgod y cwmwl, ocheneidiai'r awelon ond yn y gwawl, pan lamai Teyrn y Dydd i r asur torrent allan i ganu, i ganu. Roedd yn fore braf. Bu'r hin yn dyner drwy fisoedd yr Hydref­¾dynered fel y blodeua'r dahlias a'r ffromlys eto yn yr ardd; ac y ffynna'r greulys, a'r ben- galed, a chribau St. Ffraid, a'r harebells, a'r huttercups, a phig yr aran, heddyw yn y wig. Daw'n dro toc. Edrychais o'm cwmpas. Aeth ton o dristwch dros fy enaid. Prysur ddihetrid y wig o'i gwisg ddeiliog. Syrthiai dalen ar ol dalen cwhwfanent ar edyn yr awel a chwythid hwy ymaith yn ddiystyr i rywle, rhywle--ffwrdd a nhw Beth yw dail, unwaith y syrthiont, ond teganau i'r gwynt, a sport i'r dymestl? 'Roedd y masarn preiffion yn noethlwm, a'u cangau fel cysgodluniau rhwydweog, di-stinrt, ar gynfas symudliw yr awyr. Gorweddai y dail llydain, palfog, yn gelaneddau braen- edig wrth eu traed-poh dalen heb symud, feddyliwn, o'r fan y disgynnodd. Syrth- iodd dail y masarn yn gynarach eleni nag arfer. Tarawyd hwy â maJldod,f a hwy eto yn irlas ar y coed. Ymddangosent fel pe buasai cawod o ororau uffern wedi dis- gyn arnynt yn sydyn liw nos, gan adael marciau deifiol ar eu hol, ddued ag inc. Ymddangosai'r marciau yma arnynt bore heddyw fel ystaeniau anileadwy pechod ar wynebau marw. Dinoethesid y rhan fwyaf o'r ynn ond gwelais ambell i un, mewn cysgod, a'i dail i gyd arni, a chyn lased a'r genhinen. Plic- iai'r awel y plufddail îr yma; a chernod- iai hwy â'i phalfau. "Ymryddhewch," meddai, daeth eich hawr," ond ymafael- ent hwythau yn dynn yn y cangau. 011- yngwch chwi mo'ch gafael, aiê?" ebe'r awel Tyf y ffromlys mewn gerddi. Adnabyddii hwy dan wahanol enwau :— (1) Impatiens: di-amynedd. (2) y oli-me-tangire, tourh-mc-not: na chy- ffwrdd fi. (3) Balsam. Raid ond cyffwrdd eu hadgibau aeddfed nag yr ymagorant yn ffrom [ffromlys], a chyda'r fath sjn-ing nes lluchio yr hadau, am bellder, i bob cyfeiriad. t Math o ffwng (fungus) yw y malldod yma, elwir yn Xyloma acerinum. Chwa cyffredin ar ddail y masarn yw hwn.