Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anfoner pob gohebiaeth o hyn i'r rhifyn nesaf i Owen M. Edicards. Lincoln College, Oxford. Anfoner tonau i L. J. Roberts, H.M.I.S., Rhyl. Anfoner pob archebion, taliadau, a hys- bysiadau, i'r Goruclncyliwr, Swyddfa'r CYMRU, Caernarfon. LLABI.-Nid oes cymaint o lawer o wahan. iaeth, fel y gellir yn hawdd dybied, rhwng de a gogledd Cymru ag sydd rhwng de a gogledd Lloegr. Nis gall gwerinwr o Yorkshire ddeall iaith Kent, ond trwy drafferth fawr; a rhyw ym- gom megis ar gyrrau Tŵr Babel fuasai ymgom rhwng glowr o Lancashire a gwas ffarm o Ddyf- naint. Y mae teimlad dicach rhyngddynt hefyd. Dywedai Canon Hicks yn y Gyngres Eglwysig yn Northampton eleni mai un rheswm am an- hawsder cael curadiaid yng ngogledd Lloegr oedd hyn, There is a horrible dread of the North in the mind of the Southerner." Hyd y gwelais i, nid yw curadiaid o Ddeheudir Cymru yn teimlo un gwrthwynebiad i ddod i'r Gogledd. L.­Nid oes modd digysegru peth unwaith gysegrwyd,-eglwys na mynwent, ond drwy ddeddf seneddol. H. P.-Y mae croeso i bob erthygl deilwng fo yn ymwneyd ag addysg. er mai cylchgrawn hollol amholiticaidd yw hwn. Clywais y Parch. Evan Jones Caernarfon yn dadleu yr un ddadl â grym anwrthwynebol ym Mlaenau Ffestiniog, s-ef mai er mwyn addysg yn unig yr ymyrrodd Anghydffurfwyr Cymru â'r mater. Er enghraifft dywedodd fod eglwys Moriah, yng Nghaernarfon, wedi traddodi ei hysgol, adeiladau a dodrefn, yn rhad i'r awdurdod addysg. Gofynnais i Gwyneddon am hanes y digwyddiad; a chefais yr erthygl gampus ac amserol sydd yn nechreu y rhifyn hwn. Y FIL.­Bum mewn tipyn o helbul gyda'r rhwymwyr, ac felly yr oedd rhai o'r copiau yn ddiweddar iawn yn cyrraedd eu perchenogion. Digwyddodd rhyw ddamwain ar ol imi gael y cannoedd cyntaf. a gorfod i mi adael amryw heb eu copiau tra'r lleill wedi eu cael. Gofelir na ddigwydda hyn eto. Y mae gwaith Huw Morus yn y wasg, ac un gyfrol bron a'i gorffen. Ychydig iawn o'i chynnwys sydd wedi bod mewn argraff o'r blaen. GLAN CERI.-Gini yw pris Gwaith Islwyn yn awr, ond y mae mewn rhwymiad ychydig yn ddrutach na rhwymiad y cyfrolau werthwyd am hanner gini. Ar ol hysbysu am godi'r pris, gwerthodd y Mri. Hugihes yr ychydig gopiau oedd yr hen rwymiad am yr hen bris. R. P. J.-Drwg igennyf i mi gamarwain am- ryw trwy ysgrifennu enw bywgraffwr John Penry yn Worthington. Waddington, wrth gwrs, yw awdwr y Life of Penry," gyhoeddwyd yn 1854. Darlle-nnwch hefyd History of Nonconformity in Wales" Dr. Rees. AT OHEBWYR. T. HABBIS.—Nis gwn a oes bywgraff- iad am J. W. Thomas (Arfonwyson). Bu farw tua 1840. Yr wyf o'r un farn a chwi'n hollol ein bod fel cenedl yn gwybod llawer rhy ychydig am dano tynnodd sylw llawer at seryddiaeth, gan eu dysgu i sylwi ar ryfeddodau'r nef. Feallai yr ysgrifennai Mr. Eleazar Roberts ei hanes, os oes ganddo ham- dden. AB EINGL.—Ystyr y gair "diabris" yw bod o ychydig' bris, bod yn ddi- werth; ystyr y gair dibris yw rhy- fygus. Rhai ereill yn rhoi pris isel geir yn y naill air, a'r gwr ei hun yn rhoi pris isel arno ei hun geir yn yr ail. Y gair cyntaf sydd yn y pennill FeJ gwr di-bris yn rhwym ar bren." N.­Y mae eich awgrym yn werth sylw, er mai digon prin y mae'n ddigon o destyn erthygl. Mae'r Eisteddfod drosodd,—cyfarfod cystadleuol Seisnig enfawr, yn dda i ddim. Cyn y gwna'r Eisteddfod un lles, rhaid ei newid yn hollol. Yr hyn garwn i weld ydyw hyn,-Eisteddfod hollol Gymreig bob blwy- ddyn mewn lleoedd Cymreig, megis Ffestiniog, Llanberis, y Bala, Pwllheli, Llandeilo, Aberteifi, &c." AB CYNAN.—Nis gwn am ddim mapiau hanes- yddol o Gymru y gellwch ddibynnu arnynt. Rhaid chwilio a chydmaru llawer eto cyn y gellir cael cyfres o fapiau i esbonio hanes Cymru." L. o FON.—Y mae gennyf beth o waith bardd- onol Owen Grono, tad Goronwy Owen; buaswn yn dra diolchgar am ychwaneg, gan fy mod yn parotoi cyfrol o waith beirdd Mon rhwng 1700 a 1750 i dderbynwyr fy nghyfres. S. J.­Feallai y troir yn ol eto, yn hanes barddoniaeth Cymru, o feddwl at ffurf. Ond, o'm rhan fv hun, da gennyf i mi gael byw mewn oes y rhoddodd ceinder ffurf Ie i ddyfnder meddwl fel y peth pennaf. Rhywbeth i amgueddfa yw gwisg gain na fo'n wisg i feddwl. Y meddwl yw'r bywyd. W.-Oes, y mae eisiau casgliad cyflawn o waith Edmund Prys, fel yr ysgrifennodd ef ei Salmau Cân, ac nid fel y cyfnewidir hwy gan ffug ramadegwyr. HEN GYFAILL.—Bu E. Penllyn Jones, y llyfr- gellydd diddan, child-like, oedd yn Aberystwyth yn eich amser chwi a minnau, farw Chwef. 16, 1902. Nid oedd ond 62 oed. MANwL.-Darllennais Weledigaethau Que- vedo, a'r cyfieithiad ohonynt i'r Saesneg, gan L'Estrange, er m.wyn eu cydmaru â Gweledig- aethau Bardd Cwsg. Yr adeg honno cefais lawer o gymorth a chyfarwyddyd gan y Parch. LI. Thomas, is-Lywydd Coleg yr Iesu. Rhoddais ffrwyth fy ymchwiliad, mi gredaf, mewn dwy linell o ragymadrodd i'm hangraffiad o Fardd Cwsg. Pan yn cyfeirio at nefoedd Bardd Cwsg yn y Story of Wales nid wyf mewn un modd yn dadgan barn ar y cwestiwn a ysgrifennodd Weledigaeth y Nefoedd." Cyfeirio yr wyf at v cipolygon ar y nefoedd geir yn ei Weledigaethau ereill, ac ar Eglwys Loegr fel darlun ohoni. A barnu oddiwrth eich llythyr gellir beirniad ohon- och, ond nid hanesydd. AMRyw.-Drwg gennyf fod amryw wallau ar- graffyddol wedi dianc i'r rhifyn diweddiaf, ond y mae'n amlwg mai camargraffiadau ydynt, megis aquatics" yn lle aquaticis" ar tud. 177, a mortius" yn lIe mortuis ar tud, 196.