Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gallwn feddwl, oddiwrth ran o'r llythyr a ddyfynnwyd yn barod, fod rhyw gymaint o ddrwg deimlad yn Hugh Jones at Dafydd Ddu, oblegid dywed y diweddaf yn ei lythyr,- Ysgatfydd, iddo ddigio wrthyf, oherwydd na chafodd fod yn rhannog gyda mi, i benodi'r Gan- iadau ar y testyn o'r blaen." Braidd na thueddir ni i gredu fod Hugh Jones yn ceisici brathu tipyn ar y Du yn y gwpled a nodasom, ac fod Dafydd yn ei frathu yntau yn llymaoh yn ol. Y mae Dafydd Ddu yn cyfeirio uchod at deulu Hugh Jones fel pobl grefyddol. Wrth hyn y deallir fod teulu Hugh Jones yn Ymneillduwyr, ac yn bur chwyrn yn erbyn teulu y gler," ac yn anfoddlawn iddo wneyd llawer a'r prydyddiom. Dywed Dafydd Ddu yn llythyr XXV. — Caethion iawn ydyw'r Sectwyr i gefnogi gwaith neb ond gwaith rhai o'u brodyr, bid gwaith rhywun arall ar y testyn goreu oll, ni edrychir arno ond yn oeraidd." Sectwyr, neu Ymneillduwyr, oedd teulu Hugh Jones, ac yn mynychu capel Bryn- rodyn. Clywais fod Hugh Jones yn ar- olygwr yr Ysgol Sabbothol yno un amser. Nid oedd Eglwyswr fel Dafydd Ddu yn hoffi llawer ar Biwritaniaeth yr hen Fethodistiaid, fel y gwelir uchod. Yn Eurgrawn Mon, am Mehefin, 1825, gwelir chwech o Emynau Newyddion ar Lwyddiant yr Efengyl," wedi eu hîs-nodi gan H. J. P-n-y-G-s. Ll-n-a. Dyma'r cyntaf, Ehedeg mae disglaer genhadon, Cyhoeddant newyddion am waed A gliria holl fynwes dufewnol Llawn daliad digonol a gaed: Fe welir hardd dyrfa ddiderfyn, Er gwaetha pob gelyn, ar gael, Oherwydd bod Iesu'n dywysog Galluog, hoff enwog, diffael." A thyma r ddau olaf,- Son am rinwedd aberth Iesu Fo'n amgylchu'r ddaear gron; Aed drwy'r byd y wir wybodaeth Am yr iachawdwriaeth hon; Doed teyrnasoedd y Cenhedloedd a'r holl ieithoedd Ati'n lluoedd i'w gwellhau. Caed y dirion genadwri Ei chyhoeddi'n iach o hyd Enw Iesu gogoneddus Fyddo'n barchus yn y byd; Aed efengyl fawr y nefoedd i'r ynysoedd Dros y moroedd a phob man." Fel y gwelir yr oedd Hugh Jones, fel braidd bob bardd yn ei amser, yn ceisio dwyn cynghaneddion i'w emynnau, er nad bob amser gyda llwyddiant. Yr oedd Hugh Jones, i'odd bynnag, yn feistr ar y cynghaneddion, oherwydd gwelaf englyn- ion o'i eiddo yn neohreu Ffrwyth Awen Gutyn Peris,- Ffrwyth Awen gymmen hardd gu-dieisor Dewiswn ei brynu: Dewis-gerdd y llyfr dwys-gu Rydd fwynder mewn llawer llu. Gorhoffir geiriau Gruffudd, — a'i ddinam Hardd, ddoniol Awenydd Rhagorwaith ei fawrwaith fydd Iawn glodwych yn y gwledydd. "Gwyr ceinfyg: eurfyg o Arfon-dunwúh A doniol wyr Meirion, A'r gwyr mawr a geir ym Mon; Rhowch osteg i'w orchestion." Ymddengys hefyd fod Hugh Jones, fel arfer llawer prydydd o'i flaen ac ar ei ol, yn llunio cerddi i duchanu troiom rhyfedd, a,c oherwydd ei feistrolaeth ar y gelfyddyd hon, rhoid iddo enw gan y werin fel bardd rhagorol. Dywedir fod olcchydd Llan- wnda un adeg yn un hynod hofi o'r ddiod, ac y byddai yn ceisio arian, trwy bob ffordd a dichell, i gyflenwi ei flysiau. Un tro, honnir iddo fyned i gwrr uchaf y plwyf, i dueddau Betws Garmon, i ddweyd wrth y bobl fod y íeitri wedi awdurdodi codi treth newydd (Treth y Milisia) a'i fod ef wedi dyfod i'w chasglu. Yr oedd cyn dechreu casglu, modd bynnag, wedi erchi ciniaw blasus yn nhafarn y Betws. Wedi casglu swm lled dda o arian, aeth i borthi ei flys- iau i'r Betws. Daeth yr hanes yn hysbys, i gwnaeth Hugh Jones gerdd i'w ouchanu, ac meddai mewn un darn, Yn y Betws bu yn bwyta Ran dda o'r helfa hon." Adroddir pennill arall o waith Hugh Jones yn y cysylltiad a ganlyn. Yr oedd un- waith ym Mhlas Llanfaglan forwyn, o'r enw Margred Ifan, un o gorff cryf a chadarn, a gwae fyddai i'r neb a'i cyth- ruddai. Yn y cynhauaf, tra yr oedd Hugh Jones yn gweithio yn Llanfaglan, digiwyd y forwyn gan un o'r gweision, a hithau a'i curodd yn enbyd â rhaw. Tra yr oedd yr ysgarmes yn myned ymlaen, nyddai Hugh Jones bill, a phan gaed heddwch, adrodd- odd,