Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Gymeriadau Llanwnda. III. HUGH JONES, PEN Y GROES. NG nghyfrol Myrddin Fardd,- `' ADGOF UWCH ANGHOF," Llythyr XXVIII., Dafydd Ddu Eryri at Gutyn Peris dyddiedig o'r Dolydd Awst 15, 1813, ceir nodiad ar waelod y ddalen yn cyfeirio at Hugh Jones yng nghorff y llythyr, gan nodi mai bardd o Ben y Groes ym mhlwyf Llanllyfni" yd- oedd. Ni welais unrhyw ymgais i gywiro y nodiad uchod. Fel y gwyr y rhai sydd yn gyfarwydd a ffordd Caernarfon a Phwllheli, y mae fferm o'r enw Pen y Groes yn sefyll ar ochr y ffordd, oddeutu dwy filldir a hanner o Gaernarfon. Y mae gefail gof yn gysyllt- iedig â'r lIe yn awr, a chynt yr oedd yma weithdy saer hefyd. Yr oedd saer o'r enw Hugh Jones yn byw yma ddiechreu y gan- rif o'r blaen, a gelwir ef gan yr hen bobl yn Htfw'r Saer, neu Hugh Jones Pen y Groes. Hwn, i'm tyb i, ydoedd yr Hugh Jones y cyfeiriai Dafydd Ddu ato yn y llythyr a nodwyd, ac ar draddodiad gwlad y mae iddo enw fel bardd pur dda. Pan ofynnir i bobl yr ardal am fanyl- ion ynghylch Hugh Jones, dywedir yr ystori hon am dano, bron yn ddieithriad. Yr oedd Hugh Jones yn torri pydew (shaftj un diwrnod, a daeth Dafydd Ddu heibio a gûfynnodd,- Beth yw'r swydd, Huw'r Saer?" Tynnu dwr o galon daear," atebai Hugh Jones yn ol. Hwyrach mai buddiol fyddai dyfynnu yr hyn a ddywedir am dano yn y llythyr a grybwyllwyd yn barod, Hugh Jones a alwodd heibio yn ei glocs heb ddim arian gydatg ef, meddai ef (yn bwr- pasol). Eisteddoddl yn yr ystafell, ac yfodd beth diod a darllenodd un gân newydd. debygaf, ac a aeth ymaith-a gadawodd ninnau yno." (Yn y Bull's Head. ty tafarn ar allt y Bont- newydd, yr oedd D. Ddu ar y pryd). Tram^ gwyddasom yn drymion wrth yr ymddygiad an- frawdol oerllyd hwn. Ni wn yn iawn beth i'w ddweyd am H. J., mae ef yn ymddangos yn unigol ac anghymdeithgar. Dywedir gan y beirdd ieuainc mai hunanol a chybyddlyd ydyw. Eisiau bod yn uwch na neb, ac yntau heb fod yn addas. Mae ef wedi cael ei dderchafu ar y mwyaf gan y beirdd unwaith, oherwydd tybiasom ei fod yn ddyn gobeithlawn, diniwaid, a dirod- res. Dywedir mai pobl grefyddol, gaethion at feirdd ydyw teulu H. J., a'u bod yn anfoddlon iddo ddyfod i'r Gymdeithas,* ond pan welodd fod yn dda medrodd dorri dros ben y caethiwed hwnnw, megis i ddyfod i Drefadog,t &c. Cadw yr hanes, yn enwedig am H. Jones i ti dy hun. Amlwg yw fod H. J. yn ym- ddidoli oddiwrth y Gymdeithas. Nid wyf yn ei adnabod ef yn iawn." D. T. Clywais gan un a adwaenai Hugh Jones na byddai un amser yn ym- wneyd â diod, "dyn suful iawn ydw' i yn 'i gofio fo," meddai fy hysbys- ydd. Ond yr oedd yr adnabydd- iaeth hon yn perthyn i gyfnod diweddar- ach na'r amser yr ysgrifennai Dafydd Ddu y llythyr uchod ond y mae'n amlwg oddi- wrth yr uchodi y byddai Hugh Jones yn yfed tipyn, er nad ar gost ei hun bob amser, efallai. Nid yw Dafydd Ddu yn dweyd fod Hugh Jones yn gybydd, adrodd barn eraill y mae. Tybiaf, fodd bynnag, nad oedd gan Dafydd Ddu farn uchel am dano fel bardd; eto, dylid cofio nad oedd barn a llafar Dafydd Ddu bob amser i ddi- bynnu arnynt, gan y byddai ar brydiau yn dueddol o redeg yn rhy eithafol ar rai a fyddent wedi ei ddigio. Beth feddyliai Dafydd Ddu wrth ddweyd nad oedd yn adnabcd Hugh Jones yn iawn, nis gwn. Gormod o Fethodist oedd y diweddaf mae'n debyg; yr oedd ad- nabyddiaeth bersonol dda gan y naill o'r llall. Clywais fod Hugh Jones unwaith wedi galw ar fusnes yn un 0 dafarnau Bont- newydd, ac fod Dafydd Ddu yno ar y pryd, a díiod o'i flaen, ac meddai Hugh Jones,- "Dafydd Ddu o 'Ryri Sydd yma'n dechreu meddwi." A Huwco h-efyd yr un modd Sy'n treinio i'r un trueni." meddai Dafydd yn ol. Cymdeithas yr Eryron a gynhaliai Eistedd- fodau ym Mhontnewydd. tEisteddfod Tremadog 1811, pan enillodd Dewi Wyn o Eifion ar Amaethyddiaeth."