Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ynarfon yn dweyd na enillaf Eisteddfod byth mwy ar ol marw Dafydd (Ddu).' Y mae y ddau ariandlws diweddaf a gafodd Gwyndaf yn tueddu i wneyd gau-broff wydi o'r bobl hynny o Gaerynarfon. Bu llawer o ddadleu un adeg parthed teilyngdod Gwyndaf Eryri fel bardd, ac, fel mewn dadl yn gyffredin, cariwyd y pwyntiau i eithafion yn y naill ochr a'r llall. Yr oedd y gwirionedd yn gorwedd yn y canol. Gorfolid Gwyndaf gan ei gyf- eillion, a gorwawdid ef gan ei wrthwyneb- wyr. Yr oedd ei hafal a'i well fel bardd, yn ei oes, mae'n ddiau; er hynny, ni ddy- lai neb rwgnach iddo y llawn deitl o fardd. Yr oedd ei gynghanedd yn rhagorol, ei farddoniaeth yn aruchel, a'i iaith yn ddi- ledryw. Tybiaf, pe buasai pobl ei blwyf genedigol yn astudio ei weithiau, y buas- ent yn teimlo yn falch fod gwr mor ath- rylithgar wedi ei eni yn y plwyf. Rhoddwn yma ychydig ddetholion o'i weithiau, fel y gallo pob un farnu drosto ei hun beth oedd teilyngdod Gwyndaf Eryri fel bardd. Dyma englynion a fyfyriwyd ar foreu teg wrth glywed yr adar yn canu, Mac'r Adar, O mor odiapth.—anwyl-weis Yn eiliaw Peroriaeth Adeeiniant frwd wasanaeth, Yn gain oll, i un a'u gwnaeth. Ar laswycd tyner leisiant,-y boreu Yn beraidd emynnant Mor gyson tôn ar bob tant,- Gwau'n felus gân o foliant. Dilesg goruwch y dolydd-hwy bynciant Hoyw bencerdd dafod-rydd Cain eiliant i'w cynhalydd Yn fad ar doriad y dydd. Dewr, per-adlais prydlon,-o'r goedwig Ergydiodd i'm calon; Dylamai, cynhyrfai hon, Fel ewyn-dafl y wendon. "Er aros dan yr eira,—fyd di-wymp, Anfad dywycd gauaf, Cân yr acar hawddgaraf Yn ddiwyd ar hyd yr haf." Dyma fel y dechreua ei Awdl Gwrth- wynebiad Honiadau Pabaidd ac Amddi- ffyniad Protestaniaeth" (Testyn Cym- deithas yr Eryron),- RHODDIR croesaw i fywgraffiadau hen gymhwynaswyr, yn enwedig pan ysgrifennir hwy mor glir a thaclus a'r uchod. Byddwn yn dra diolchgar, yn olygydd a darllenwyr, am wybodaeth ychwanegol, hefyd, i wneyd y bywgraffiadau yn gyflawn. Byẇgraffiadau Hen Gymwynaswyr. O am ddawn, yn diriawn deg, I gu nodi'n gain wiwdeg Ar ducdd, a gosgedd gaeth, Pawb o 'wyddor Pabyddiaeth Dwyre i'm nerth, cain werth cu. Yn wiwbur i'w gwrthnebu;- Gwrolaeth gu arail-wedd, Bob pryd drwy y byd i'r bedd. "Bu'r byd bron i gyd yn gaoth, Yn boddiaw hen Babydiiacth, A Christnogaeth yn gaeth gel, Egwan, ysig, yn isel Mewn mawr erlld, llid a lladd A garw, amlwg, ccr ymladd." Mac ei awdlau a garolau mor hirion fel nad allwn yn hyn o ysgrif roddi ychwaneg nac un ran fechan o honynt. I ddiweddu dyma y ddau bennill cyntaf o'r carol cyntaf yn ei lyfr, ar y dôn Old Darby, Yr awr'on Purorion per sraith Adseiniwn niewn afiaeth yn un; I byncio'n fwyn brydlon bêr odlau, Cyweiriwn ein tannau'n gytun ;— Agorwn blethedig gercd seingar, Yn hawddgar a llafar ein llef, O foliant, gogoniant gwiw union, Yn un â chanyddion y nef: Llawenydd yw'r newydd dan awyr, Caiff amhur bechadur iachad Dadguddiwyc, agoiwyd trugaredd Drwy rinwecd1 Etifedd y Tad. Gwir sylwedd ein testun godidog Dyfodiad Eneiniog y nef;- Ni fedd yr angylion amgenach Un testyn rhagorach nac ef. 'Roedd daear a nef yn cyc-lefain Clybuwyd ar blygain eu bloedd Yn unol odiaethol gymdeithion Canasant yn gyson ar goedd'; Ni chafwyd i ran daearolion, Anoethion rai gwaelion eu gwawr, Na lluoedd y nefoedd ddisglaer-wcdd Un achos gorfoledd mor fawr." Bu farw y gwr gwir alluog hwn Mehefin 21, 1848, a chladdwyd ef ym myn- went Llanbeblig. Gosodwyd cofadail a ei fedd, a cherfiwyd arno englynion o waith Eben Fardd, Clwydfardd, J. R., G. Padarn, ac O. W. Dyma englyn Eben Fardd,- "Clod pennaf Gwyndaf geindeg—ni enwir Yn unig ar garreg Ond ar drylen daflen deg, Bwrdd Anian a barddoneg."