Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwilym Ddu, Owen Williams o'r Waen Fawr, ac eraill. Yr oedd hefyd yn gyfaill mynwesol i'r Parchedig Peter Bayley Wil- liams. Pan oddeutu ugain oed newidiodd Richard Jones o fod yn amaethwr i fod yn saer maen, ac enwir aml dy yn ardal Rhostryfan fel rhai a adeiladwyd ganddo ef, ac oddiwrth yr olwg sydd arnynt, bydd- ant yn sefyll wedi i lawer ty a godwyd yn ddilynol, gyda'r brys sydd yn nodweddu'r dyddiau diweddaf hyn, syrthio i fawr angen am adnewyddiad. Wedi dysgu ei grefft newydd, symud- odd Richard Jones i ardal Tremadog i weithio ar forglawdd y Traeth Mawr, ac yma, mae'n debyg, y daeth i gyfarfyddiad a Dewi Wyn o Eifion ac y dadblygodd i fod yn brydydd. Yma hefyd y tarawòdd ar yr un a ddaeth yn wraig iddo, gan mai un o ardal Penmorfa ger Tremadog ydoedd hi. Yn 1810 neu 1811 symudodd Richard Jones i'w ardal enedigol-i Font- newydd, medd Owen Williams, ond i'r Erw fel y tybiaf fi. Methais a chael allan pa le ym Mhontnewydd y bu yn byw. Y mae llythyr o'i eiddo yn ddyddiedig o'r Erw am Awst 17eg, 1815,* pan ymgyf- enwai yn `' Richard Jones (enw o Fardd)," ac o'r Bontnewydd am Mawrth 25ain. 1820. t. Yn Eurgrawn Mon am Awst, 1825, gwelaf englynion o'i eiddo wedi eu harwyddo Richard Jones. neu Gwyndaf Eryri. Erw Llanwyndaf, Awst 6, 1825." Tybiaf mai i'r Bontnewydd yr anfonid ei lythyrau, a gallasai hyn arwain rhai i feddwl mai ym Mhontnewydd y trigai. Yr oedd, fodd bynnag, wedi symud i Gaer- narfon erbyn 1826, ac yno. mi gredaf, y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd yn un o adeiladwyr y Tyloty yng Nghaernar- fon, ac hefyd yr oedd yn cynorthwyo i ad- gyweirio Eglwys Llanwnda, ond ni chaf- odd fyw i orffen y gwaith hwnnw. Wedi blwyddyn o ddioddef oddiwrth ddiffyg anadl, bu farw ganol haf 184�, bron ar derfyn ei 63 mlwydd oed. Wedi dilyn yn frysiog, fel hyn, ei yrfa ddaearol, buddiol fyddai sylwi ychydig arno yn ei gymeriad o fardd. Wedi dy- chwelyd o hono i'w ardal enedigol, bu yn *Adgof uwch Anghof. tud. 112. flbid, tud. 114. foddion i sefydlu Cymdeithas Eistedd- fodol ym Mhontnewydd, yr hon a ad- weinid wrth yr enw "Cymdeithas yr Eryron." Y mae'n ddiaumaiDafyddDdu oedd y prif hyrwyddydd, ac mai ei ddis- gyblion ef oedd noddwyr y Gymdeithas. Bu i gymdeithasiad Richard Jones a'r beirdd hyn wneyd cynghaneddwr da o hono. Yr oedd yn bur fedrus fel chwar- euydd ar y chwibanogl (fife), ac, meddai un wrthyf, yr oedd yn un o fifers gore'r wlad, a bu a,m flynyddoedd yn chwareu gyda band y sowldiwrs yng Nghaernar- fon." Dywed Owen Williams hefyd,- Bu yn brif chwibanoglydd gyda'r Mil- wyr Gwirfoddol (Local Militia) am lawer o flynyddoedd." Yr oedd ei gydnabydd- iaeth â hen alawon a mesurau carolau yn llawer o gymorth iddo wrth lunio caneuon a charolau. o'r rhai y lluniodd lawer. Fel y dywedwyd, yr oedd Gwyndaf Eryri yn feistr ar reolau cynghanedd — yn wir yr oedd yr oll 0 gywion Dafydd Ddu yn ddiargyhoedd fel meistriaid ar y rheolau sydd ynglyn a'r mesurau caethion. Y mae ymlyniad Gwyndaf wrth y rheolau hyn yn gwneyd .i ffwrdd a'r pertrwydd sydd yn nodweddu gweithiau rhai eraill oedd, hwyrach, yn llai galluog, ac yn malio llai am gywirdeb cynghanedd. Hyn, debygaf, sydd yn cyfrif dros fod can lleied o son am Gwyndaf yn ei ardal yn awr, ac fod mor ychydig o adrodd ei lin- ellau ar lafar gwlad. Yn 1818, cyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl, — Peroriaeth Awen sef Awdlau, Englynion, Carolau, a Cherddi Newydd- ion ar Amrywiol Destynau. Gan Richard Jones, Erw, Llanwynda.f, neu Gwyndaf Eryri." Deallir nad yw yr uchod yn cynnwys hanner ei waith, gan mai yn lled gynnar ar ei oes fel bardd y cyhoeddwyd ef. Enillodd amryw wobr- wyon Eisteddfo-dol ar ol cyhoeddi y llyfr hwn, a phriodol yw tybio fod y cyfan- soddiadau gwobrwyedig hynny yn rhagori ar yr hyn geir yn y gyfrol a ennwyd. Enillodd ariandlws yn Eisteddfod Caer- narfon 1821 gyda'i awdl ar "Gerddor- iaeth; yn Eisteddfod Dyfed 1823 gyda'i awdl ar Les Gwybodaeth," ac yn y Fenni, 1837, am y farwnad ar y Bardd a'r Derwydd Gwilym Morgannwg." Yng nghofiant Dewi Wyn ceir a ganlyn, — Dy- wedai Gwyndaf Eryri, mewn llythyr at Dewi Wyn, y mae llawer o ddeutu Caer-