Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Gymeriadau Llanwnda. II. GWYNDAF ERYRI. LYWAIS gwyno yn ddiweddar mai ychydig wyddis yn y parthau hyn am brif ddynion y plwyf yn yr oes o'r blaen. Yr oedd y gwyn hon yn dal cysylltiad yn fwyaf neillduol â hen flaenor- iaid y gwahanol achosion crefyddol; ond gellir gyda phriodoldeb estyn terfynau y gwyn fel ag i gymeryd i mewn flaenor- iaid ein plwyf mewn cân a llên a chyfeir- iadau eraill. I'r rhai hynny sydd yn gydnabyddus a llên barddas y ganrif o'r blaen, y mae enw Gwyndaf Eryri yn ddigon adnabyddus; er hynny prin ydyw y wybodaeth am dano yn awr, hyd yn oed yn ei ardal ei hun. Ymddangosodd ysgrif arno yn y rhifyn cyntaf o'r Geninen (Ionawr, 1883)- adysgrif gan Myrddin Fardd alhn o waith Owen Williams o'r Waen Fawr-ac yr ydym yn ddyledus i'r ysgrif honno am lawer o fanylion hanes Gwyndaf Eryri. Richard Jones oedd ei enw priodol, a ganwyd ef yn Erw Ystyfflau ger Rhos- tryfan, yn y flwyddyn 1785. John Jones a Margaret Roberts oedd enw'au ei rieni, a thrigent fel y dywedwyd yn yr Erw, ac yma y trig rhai o'r teulu o hyd, a cheir eraill mewn gwahanol rannau o'r wlad. Clywais gan un hynafiaethydd fod i'r Erw amcan neillduol mewn amser a aeth heibio, nid amgen na'i fod yn fath o farch- nad i'r wlad gylchynol, yn enwedig felly i'r Cymry a breswylient yma, y rhai a ddygent eu cynyrchion neu estaples i'r Erw Estaples i'w cyfnewid gyda thrigol- ion y drefedigaeth Seisnig a sefydlwyd yng Nghaeirnarfon ar ol gorchfygiad Llywelyn ac adeiladiad y castell. Beth bynnag am hynny, y mae hynafiaeth yn cysylltu y lIe â hanesiaeth foreuach o lawer na hyn, sef âg adeg Beuno a Garmon. Bron am y ter- fyn a'r Erw y mae Gwaredog, lle y dy- wedir fod eglwys wedi ei chodi gan Beuno ar dir nad oedd eiddo y rhoddwr; ac mewn canlyniad i wrthwynebiad ar du eti- Staple y gelwid tref yn yr hon, ac ynddi hi yn unig, y gellid gwerthu rhyw nwydd. Ambell adeg yn y canol oesoedd yr oedd yn rhaid allforio gwlan y Deheubarth drwy Gaerfyrddin yn unig. fedd y tir, adeiladodd Beuno Eglwys Clyn- nog.* Y mae ar gwr tir yr Erw ffynnon a elwir Ffynnon Beuno hyd heddyw. Bid a fynno am enwogrwydd cyntefig yr Erw a'r gymdogaeth, ni fu yn ol i ar- daloedd eraill Cymru o syrthio i waelod- ion dinodedd dan effeithiau yr ormes Bab- aidd a bwysodd mor drwm ar ein gwlad hyd yn oed at ddyddiau Griffith Jones o Landdowror. Ie, gellir casglu fod effeith- iau yr Oesoedd Tywyll, neu, yn wir, yr Oesoedd Tywyll eu hunain, yn aros ar y gymdogaeth hon hyd ddechreu y bedwar- edd ganrif ar bymtheg; oherwydd yr ydym yn cael fod parchu Duw a'i ordin- hadau yn brin iawn yn ardal yr Erw, gant a hanner, neu lai, o flynyddoedd yn ol. Ond er nad oedd yr amgylchiadau a'r ar- ferion a. ffynnent yn yr Erw yn amser mab- oed Richard Jones yn unrhyw gymorth iddo fyw yn grefyddol, dilys yw iddo yntau, fel y rhelyw o'i gydoeswyr, ddyfod dan effeithiau yr adfywiad crefyddol a deimlwyd yn y wlad yn ystod blynyddoedd ei einioes ef, oblegid y mae ei ganeuon a'i garolau yn llawn naws grefyddol. Coel- iaf mai Eglwyswr oedd Richard Jones. Clywais unwaith mai Ymneillduwr oedd, ond ni chefais ddigon o sicrwydd i beri cyfnewidiad yn y farn y deuais iddi, oddi- ar lawer o brofion amgylchiadol, sef mai Eglwyswr oedd Richard Jones. Nid budd- iol fyddai myned ar ol y profion hynny yn awr, ac nid yw yn wahaniaeth personol gennyf ym mha ran o gorlan Crist yr oedd cynefin Richard Jones. Amaethu fu gwaith Richard Jones hyd nes oedd yn ugain, oed, ac y mae iddo air da fel un medrus yn y gwaith hwnnw. Er na chafodd nemor, os dim, manteision addysgol, ymddengys iddo feistroli y ddwy gelf bwysig o ddarllen ac ysgrifennu. Fel llawer yn yr oes honno, denwyd ef gan swyn hen ganeuon a cherddi i dalu sylw i farddoniaeth a'r gelfyddyd o farddoni. Daeth yn gyfaill mynwesol i lawer o brif- feirdd ei ddydd,-megis Dafydd Ddu Eryri, Dewi Wyn o Eifion, Robert ab Y Geninen, i., tud. 68. Cyff Beuno, tud. 53, 54.